Dathlu adfywiad a gobaith trwy gelf

English version available here

Mae archwilio'r cyswllt agos rhyngom â'r byd naturiol trwy'r celfyddydau yn hanfodol bwysig.

Mae peth o gelf enwocaf ein gwlad yn archwilio’r berthynas rhwng ei phobl, ei natur a'i thirwedd. Ac wrth i ni weld y cyfyngiadau symud yn cael eu llacio'n ofalus a phobl yn dechrau ailymddangos o'u cartrefi, yr wythnos hon (19 Ebrill 2021) rydym yn falch o gyflwyno dau gydweithrediad aruthrol yr ydym wedi bod yn eu paratoi yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, sy'n archwilio'r themâu hyn.

Barcud coch yn glanio yng nghanol ein prifddinas

Fel ein haderyn cenedlaethol ac fel gwrthrych un o lwyddiannau cadwraeth mwyaf diweddar Cymru, mae’r barcud coch yn agos iawn i’n calonnau. Mae ei adferiad o ddibyn difodiant yn un o obaith - o'r hyn y gellir ei gyflawni pan fyddwn yn cydnabod y gwerth a'r pwysigrwydd sydd i’n bywyd gwyllt, a phan fydd cydweithredu ac ymdrechion rhwng prosiectau cadwraeth a chymunedau yn llwyddiannus. Y dyddiau hyn, mae bron yn amhosibl peidio â gweld silwét eiconig fforchog barcud coch yn hofran yn yr awyr uwchben wrth fentro ar yr A470 hir a throellog ledled ein gwlad. Er mai yn ardaloedd gwledig Cymru y gwelir ef amlaf, mae ein cydweithrediad cyntaf yn dod â’r aderyn eiconig hwn, a phopeth y mae’n ei gynrychioli, i galon ein prifddinas.

Mae RSPB Cymru wedi cydweithio â'r artist Sarah Wardlaw wrth gerflunio barcud coch enfawr, sy'n cael ei arddangos y tu allan i Gastell Caerdydd yr wythnos hon. Wedi'i wneud o adnoddau ecogyfeillgar, mae'n cynrychioli adfywiad rhyfeddol un o'n hadar mwyaf nodedig ac annwyl. Wedi'i ddylunio a'i adeiladu gan Wardlaw yng ngogledd Cymru, bydd yn cynnwys tafluniad realiti estynedig (AR) a fydd yn goleuo'r barcud coch pan fydd yn cael ei arddangos, i roi profiad sy’n ysbrydoli ac yn ddathliad i'r gynulleidfa gyhoeddus ac ar-lein.

Defnyddiodd Sarah gyfuniad o waith gof traddodiadol gyda realiti estynedig (AR) i roi’r ‘rhith o hedfan neu fodolaeth yr ysbryd’ i’r cerflun hwn. Cafodd ei hysbrydoli gan 'egwyddor hedfan, llywio, a hud yr uchelderau', ac mae'n credu fel arlunydd, y gallwn 'gyda'n gilydd helpu i atal difodiant a gwarchod bywyd gwyllt' trwy ddefnyddio ein straeon personol a rhoi rhyddid i'n dychymyg ddatblygu a pheidio â bod yn gaeth i ffiniau’.

Grym cerddoriaeth

Mae ein hail gydweithrediad gyda chanwr gwerin o Gaerdydd, a chefnogwr tymor-hir RSPB Cymru, Gareth Bonello. O dan ei enw llwyfan The Gentle Good, mae Bonello wedi mwynhau llwyddiant wrth ennill Gwobr Gerddoriaeth Gymraeg ac Albwm Iaith Gymraeg y Flwyddyn yr Eisteddfod. Nid yw natur byth yn bell o waith Bonello, gan ei fod yn aml yn dod o hyd i ysbrydoliaeth o’r bywyd gwyllt sy’n addurno awyr a thirweddau Cymru.

Mae sengl newydd TheGentle Good, Adfywio/Revival, yn defnyddio mytholeg Cymru fel ei gynfas wrth alw ar y cyhoedd yng Nghymru i sylweddoli ein hargyfwng natur a hinsawdd, ac i weithredu i ddadwneud y dirywiad enfawr a welsom yn ein bywyd gwyllt yn ystod y degawdau diwethaf.

Mae Gareth wedi benthyg o stori'r dduwies Geltaidd Rhiannon a'i hadar cyfriniol, sy'n gallu suo pobl i gysgu ac adfywio'r meirw. Nid oedd am guddio'r ffaith ein bod mewn argyfwng hinsawdd ac eisiau dangos bod amser yn brin i arafu a gwyrdroi’r difrod rydym yn ei greu.



Defnyddiwch eich llais

Mae dadorchuddio’r cerflun a rhyddhau’r sengl yn rhan o Adfywio Ein Byd RSPB Cymru, ymgyrch sy’n galw am ddyfodol gwyrdd a chyfiawn i Gymru - trwy gyflwyno targedau sy'n rhwymo’n gyfreithiol i adfer natur erbyn 2030, ac am adferiad gwyrdd o'r pandemig ledled y DU.

Mewn llai na thair wythnos, bydd pleidleiswyr yng Nghymru yn ymweld â'r gorsafoedd pleidleisio ac yn ethol Llywodraeth nesaf Cymru. Mae RSPB Cymru yn galw ar i Lywodraeth nesaf Cymru ddangos gwir arweinyddiaeth a gweithredu Adferiad Gwyrdd a fydd nid yn unig yn mynd i’r afael â’r argyfwng natur a hinsawdd, ond hefyd yn darparu mynediad at natur i bawb ac yn gwella iechyd a lles y cyhoedd. Mae'r ymgyrch yn galw ar i Lywodraeth nesaf Cymru roi Adferiad cyfiawn a Gwyrdd ar waith a fydd o fudd i bobl a'r blaned trwy don o swyddi gwyrdd, amddiffyniadau amgylcheddol, moroedd a thir gwydn a chyfoethog, dinasyddion iach ac arweinyddiaeth gref.

Mae gennym gyfle enfawr i wyrdroi dirywiad natur yng Nghymru. Ond dim ond os ydyn ni'n gweithredu nawr. Os ydych chi'n poeni am natur, ymunwch â ni a bod yn llais dros newid.