Dathlu Adar Drycin Manaw

English version available here

Taith o 7,000 o filltiroedd. O arfordiroedd yr Ariannin i un o bedwar o ynysoedd Sir Benfro. Dros hanner poblogaeth y byd. Mewn ychydig o dan bythefnos.

Pob gwanwyn, mae un o ymwelwyr mwyaf annwyl Cymru, yr aderyn drycin Manaw, yn cyflawni'r daith anhygoel yma o arfordiroedd yr Ariannin yn ne'r Iwerydd i un o bedwar o ynysoedd Sir Benfro - RSPB Ynys Dewi, Sgomer, Sgogwm a Middleholm.

Yn awr, diolch i waith monitro diweddar gan Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru (YNDGC), daw cadarnhad swyddogol bod y tair ynys olaf ar y rhestr uchod yn gartref i fwy na 50% o boblogaeth y byd o adar drycin Manaw - a 'dyw hwnna ddim yn cyfri'r boblogaeth sydd yn byw ar ein gwarchodfa ni ar RSPB Ynys Dewi!

Amcangyfrifir bod cyfanswm o bron i filiwn o adar drycin Manaw yn nythu ar Sgomer (350k o barau), Sgogwm (89k o barau) a Middleholm (16k o barau). Mae'r ffigyrau yma yn seiliedig ar waith monitro gan YNDGC, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Prifysgol Rhydychen a Phrifysgol Swydd Gaerloyw. Draw ar RSPB Ynys Dewi, roedd bron i 5,000 o barau yn nythu yno pan gynhaliwyd y cyfrifiad llawn ddiwethaf yn 2016.

Mae'n rhaid bod yn ofalus iawn wrth wneud y gwaith monitro ar yr ynysoedd yma gerllaw Ynys Dewi oherwydd bod adar drycin Manaw yn nythu mewn tyllau, sy'n golygu bod yn rhaid i'r tîm monitro osod eu traed yn ofalus er mwyn sicrhau eu bod yn tarfu cyn lleied â phosib ar y nythod bregus.

Roedd y gwaith monitro'n cynnwys chwarae galwad gymdeithasol yr adar i mewn i dyllau ar draws y tair ynys. Os oedd aderyn yn ymateb i'r alwad, cofnodwyd bod y twll yn cael ei ddefnyddio fel nyth.

Yn y gorffennol, dioddefodd adar y môr sy'n nythu mewn tyllau ar RSPB Ynys Dewi, gan gynnwys adar drycin Manaw, gwymp enfawr yn ei niferoedd pan ymddangosodd llygod mawr ar yr ynys trwy longddrylliadau yn y 1800au.

Nôl yn 2000, cynhaliwyd prosiect uchelgeisiol i ddifa'r llygod mawr gan RSPB Cymru a Wildlife Management International o Seland Newydd a oedd i brofi'n sylfaen i adferiad dramatig yn niferoedd yr adar. Mae adar drycin Manaw yn adar gwydn iawn ac fe lwyddon nhw i barhau i nythu ar yr ynys yn ystod blynyddoedd presenoldeb y llygod mawr, diolch i adar oedd yn dod draw i'r ynys o'r poblogaethau enfawr ar yr ynysoedd cyfagos. Ym 1998, amcangyfrifwyd mai dim ond 850 o barau oedd yn nythu ar Ynys Dewi - mae pethau wedi newid cryn dipyn ers hynny!

Yn ddiweddar, mae ein staff ar RSPB Ynys Dewi wedi bod yn brysur yn adeiladu ac yn cloddio dros 100 o flychau nythu a gosod dyfeisiau tracio bychain ar rai o'r adar sy'n nythu ar yr ynys. Bydd hyn yn ein galluogi i ddilyn symudiadau'r adar yma tra'u bod nhw ar ochr arall y byd.

Am ragor o wybodaeth am boblogaeth Cymru o adar drycin Manaw a'r daith anhygoel o'r ynysoedd lle maen nhw'n nythu yn Sir Benfro, i'r moroedd oddi ar yr Ariannin lle maen nhw'n gaeafu ac yn ôl eto, cysylltwch â ramsey.island@rspb.org.uk

Credyd lluniau yn y drefn maen nhw'n ymddangos: Lisa Morgan, RSPB Cymru, ac Chris Gomersall, rspb-mages.com