English version available here.
Dychmygwch eich bod yn berchen â pheiriant teithio mewn amser. Gosodwch y peiriant i tua dwy fil o flynyddoedd yn ôl, ac mae’n bosib y byddwch yn cyfarfod Rhufeiniaid, wrthi’n brysur yn trin y tir. Roedd Gwastadeddau Gwent arfer bod o dan lefel y môr, ond fe gychwynnodd y Rhufeiniaid i dyllu ffosydd a gylïau i ddraenio’r ardal i’w wneud yn addas i’w ffermio. Roedd hyn yn gychwyn ar hanes hir o reoli dŵr yn yr ardal, a dros y canrifoedd, mae pobl wedi parhau a’r traddodiad hwn. Yr hyn a welwn heddiw yw Gwastadeddau Gwent, sef clytwaith o gaeau isel wedi ei farcio gan gannoedd o filltiroedd o ffosydd sy’n llawn dŵr.
Y rhwydwaith o’r ffosydd hyn sydd yn cynnal bywyd gwyllt anhygoel yr ardal. Mae’n cefnogi adar fel y gornchwiglen, glas y dorlan a’r dylluan wen, ac yn fwy diweddar, pâr cyntaf o aranod yn nythu yma yn 2016 – dyna’r tro cyntaf ers 400 mlynedd. Mae’n bosib gweld mamaliaid sydd yn hoff o ddŵr, fel dyfrgwn a llygod y dŵr, yn hela a’n chwilota am fwyd, ac mae pryfed prin fel y gardwenynen fain hefyd yn ffynnu yma.
Dathlu hanes a bywyd gwyllt
Mae cael hanes a bywyd gwyllt mor gyfoethog yn rheswm dros gael dathliad. Dyna pam fod RSPB Gwlyptiroedd Casnewydd, fel rhan o Raglen Partneriaeth Lefelau Byw, wedi derbyn arian gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol i helpu ymwelwyr i ddeall a gwerthfawrogi sut y mae dŵr wedi siapio’r bywyd gwyllt a hanes y dirwedd. Fe gaeth Rubin Eynon, artist o Gastell-nedd, ei gomisiynu i ddylunio a chreu cerflun sydd yn portreadu stori anhygoel y rhan fach hon o Gymru.
Y canlyniad ydi model topograffig hardd a manwl o Gwastadeddau Gwent, wedi ei wneud ag efydd. Yn syml, mae model topograffig yn dangos siâp y dirwedd, o’r bryniau, caeau a ffosydd sydd i’w cael yno. Mae’n rhoi syniad o sut y mae dŵr yn cael ei reoli yma, a sut y mae hyn wedi creu cartrefi delfrydol i adar, planhigion ag anifeiliaid sydd wrth eu boddau â dŵr.
Mae’r model hefyd yn dangos rhai o brif nodweddion yr ardal, fel Pont Gludo eiconig Casnewydd, a rhai o’r anifeiliaid sy’n ymgartrefu yn Gwastadeddau Gwent. Mae’r model yn dod gyda llinell amser o ddur, sydd yn adrodd stori’r Gwastadeddau, o’r dyddiau cyn hanesyddol i'r presennol.
Dadorchuddio’r model
Nid oedd gosod y model yn dasg hawdd. Roedd ceisio symud darn o fetel sy’n pwyso hanner tunnell yn sicr yn dod hefo ychydig o sialensiau. Ond diolch i gymorth a gwaith caled ein gwirfoddolwyr a’n staff gwych, fe gafodd y model ei osod yn ei le mewn amser a heb unrhyw ddamwain!
Fe ddadorchuddwyd y model yn gyhoeddus ar 8 Mehefin yn RSPB Gwylptiroedd Casnewydd gan Lywydd yr RSPB, Miranda Krestovnikoff. Mewn diwrnod yn llawn gweithgareddau, roedd yn gyfle gwych i arddangos y cerflun arbennig hwn. Fe agorodd y warchodfa ei drysau i arddangosfa newydd sy’n cynnwys casgliad o offer replica ac arteffactau sy’n dyddio’n ôl i’r cyfnod Mesolithig.
Ewch i dudalen RSPB Gwlyptiroedd Casnewydd i ddysgu mwy am ddigwyddiadau’r warchodfa, a medrwch hefyd fynd draw i wefan Lefelau Byw i chwilio am ddigwyddiadau sy’n digwydd yn ardal Gwastadeddau Gwent!