I ddarllen y blog yma yn Saesneg cliciwch yma os gwelwch yn dda.Digwyddiadau Darganfod Natur i'r teulu yn #CaerdyddGwylltRoedd Caerdydd yn llawn bywyd haf yma. Mae ein mannau gwyrdd wedi troi’n wyllt, ac mae’r jynglau yma’n bla o fwystfilod bach. Roedd yr awyr yn llawn o adar y to, gwylanod, a hyd yn oed hebogau tramor. Efallai i chi fod yn ddigon ffodus i weld gwenynen yn bwydo ar flodyn blasus neu wylio crëyr yn cipio pysgodyn o Afon Taf (neu efallai hyd yn oed eich pwll). P'un a’i i chi drochi am fadfallod, bod yn ddigon dewr i fynd am dro yn droednoeth, neu orwedd ac ymlacio ar laswellt a gwrando ar synau’r haf, mae wedi bod yn amser hyfryd i fentro allan i’r awyr agored ac i ganol byd natur.
Er bod yr hydref ar y gorwel, mae gennym amrywiaeth o ddigwyddiadau gwyllt cyffrous dal ar gael i chi a chyfle i wneud y gorau o'r ychydig wythnosau o heulwen sydd i ddod - dyma rai o’r uchafbwyntiau i chi ...
Images by Martyn Poynor
Darganfod Natur ym Mharc Fictoria - 15-17 Awst, 10:30 - 16:00 (AM DDIM)Wyau neidr, baw draenog, nyth pioden ac adain nico..Dyma rai yn o'r gwrthrychau diddorol byddwn yn arddangos ym Mharc Fictoria yr haf yma i ddiddanu a’ch diddori chi. Beth am hel am eich darganfyddiadau rhyfeddol eich hun a byddwch yn greadigol wrth i chi eu cymysgu’i mewn i ddiod hudol. Helpwch ni i fwydo'r adar a dysgu i adnabod y gwahanol rywogaethau sy'n byw ym Mharc Victoria.
Ble: Parc Fictoria, 422 Cowbridge Rd East, Caerdydd CF5 1JL
Darganfod Natur ym Mharc y Mynydd Bychan - 18-19 Awst, 10:30 - 16:00 (AM DDIM)Trwy gydol yr haf, mae Parc y Mynydd Bychan yn wledd drawiadol, gyda'i llwybrau gwyrdd cysgodol ac amrywiaeth o gynefinoedd. Ond wyddoch chi beth sy'n cuddio yn y coed a’r canopïau? Dewch i ddarganfod wrth i ni eich cyflwyno i chwilod chwyrligwgan, nymffau gwas y neidr a mwy! Yna trowch eich llygaid tuag at yr awyr a gyda’n gilydd cawn olwg ar faint o goed gwahanol gallwn weld. Byddwch yn siŵr o gwrdd â rhai creaduriaid newydd bythgofiadwy'r haf yma.
Ble: Wrth y prif faes parcio, Park y Mynydd Bychan, Caerdydd, CF14 4EN