To read this blog in English please click here

Yr haf yma, rydw i wedi dechrau gweithio fel Swyddog Digwyddiadau Teulu RSPB Cymru ar gyfer y mannau gwyrdd lleol yn Abertawe. Gyda minnau yn caru byd natur, mae’n hyfryd cael rhannu’r pleser y bydda i’n ei gael o'r byd naturiol gyda phobl eraill - yn enwedig gyda chenhedlaeth iau o dditectifs bywyd gwyllt! Fel rhan o’r rôl, rwy'n ceisio ennyn diddordeb hyd at 1,250 o blant ym myd natur, drwy roi cyfle iddyn nhw fwynhau pob math o brofiadau ymarferol yn ardaloedd gwyllt Abertawe.

Mae’r profiadau hynny’n cynnwys darganfod adar trefol y ddinas. Bydd y plant yn cael defnyddio ysbienddrych i wylio pob math o rywogaethau, ac yna enwi'r adar maen nhw'n eu gweld drwy ddefnyddio ein taflenni gwybodaeth ni. Mae gennym hefyd her bwystfilod bach, sy’n rhoi cyfle i blant godi creigiau a chwilio o dan ddail ac mewn holltau am bob math o anifeiliaid di-asgwrn-cefn, cyn edrych arnyn nhw’n fanwl o dan y microsgop.

Uchod: Lluniau gan David Broadbent (rspb-images.com)

Pan fydd modd, fe fydda i neu wirfoddolwr yn ymuno â theuluoedd i'w helpu nhw i ddarganfod bywyd gwyllt y ddinas. I archwilwyr bach sy'n dymuno cymryd rhan, mae gennym helfa drysor i'w helpu nhw i ddysgu am liwiau, siapiau a gweadau pethau gwyllt sydd i’w gweld ym mhobman. Mae rhwydo pyllau hefyd yn llawer iawn o hwyl, gan fod plant yn cael gweld pa greaduriaid sy'n byw mewn pyllau gan ddarganfod mwy am eu cylchoedd bywyd. Bydd hyn yn eu hysbrydoli i ddal ati i ddarganfod mwy am ein byd natur ryfeddol o un flwyddyn i’r llall. 

Un o fy hoff weithgareddau i yw chwilota mewn pyllau.  Wyddoch chi byth beth welwch chi wrth fynd o un pwll i’r llall, ac rydw wrth fy modd fod pob ardal yn wahanol. Mae’r posibiliadau yn ddi-ben-draw - fe allwch chi ddod o hyd i bob math o bethau! Bydd taflenni gwybodaeth, bwcedi a rhwydi'n cael eu darparu a bydd ein gwirfoddolwyr wrth law i gynnig awgrymiadau, gan annog plant i ofalu am y cynefinoedd gwahanol.

Uchod: Lluniau gan David Broadbent (rspb-images.com)

Un gweithgaredd newydd rydw i'n edrych ymlaen at gynnal dros yr wythnosau nesaf yw teithiau cerdded ar hyd yr arfordir i ddod o hyd i loÿnnod byw. Rydw i wrth fy modd â gloÿnnod byw a gwyfynod, ac rwy'n ymwybodol iawn bod y creaduriaid hardd hyn yn prysur ddiflannu. Yn fy marn i, mae’n bwysig ein bod yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i ofalu amdanyn nhw, ac yn rhoi gwybod iddyn nhw sut gallwn ni gynyddu'r niferoedd. Yr arfordir, yng nghanol y grug, yr eithin a’r danadl poethion, yw un o’r llefydd gorau i weld gloÿnnod byw yn ystod yr haf. Ym mis Gorffennaf, byddwn yn cyfrif ac yn cofnodi gloÿnnod byw fel rhan o’r ‘big butterfly count’, a byddai'n wych pe bai cynifer o deuluoedd ag y bo modd yn cymryd rhan!  

Mae pob diwrnod yn wahanol yn yr RSPB, ac mae’n bleser cael ymgolli mewn bywyd gwyllt a chlywed sut mae teuluoedd yn mwynhau gweithgareddau yn yr awyr agored. Rwy’n edrych ymlaen at weld beth fydd gan yfory i’w gynnig!

Os hoffech chi dderbyn rhagor o wybodaeth am ein digwyddiadau am ddim i deuluoedd yn Abertawe, mae croeso i chi anfon ebost ata i Cerys.Felton@rspb.org.uk.