English version available here Caiff pobl ifanc, teuluoedd ac ysgolion ledled Cymru eu gwahodd i greu dyluniadau i ddangos sut byddent yn gwella eu gerddi, tir yr ysgol neu fan awyr agored lleol i helpu bywyd gwyllt drwy gymryd rhan yn ein cystadleuaeth Cynllunio Cynefin. #CynllunioCynefinI ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd yng Nghymru
Cymerwch ran yn ein cystadleuaeth i ennill pecyn Dysgu yn yr Awyr Agored ar gyfer eich ysgol drwy wahodd eich myfyrwyr i ailddylunio man awyr agored i helpu bywyd gwyllt. Os ydych chi’n dysgu o bell, gallwch wneud y gweithgaredd hwn o gartref!
Dechreuwch ddefnyddio ein cardiau sgorio Cynllunio Cynefin i wahodd eich disgyblion i sgorio pa mor dda yw man awyr agored ar gyfer bywyd gwyllt. Yn ddibynnol ar ble maen nhw, gall disgyblion roi sgôr i dir yr ysgol, eu gerddi gartref, neu eu stryd leol hyd yn oed. Mae’n syml – mae angen iddyn nhw roi tic wrth bob cynefin maen nhw’n gallu dod o hyd iddo ac adio’r sgoriau at ei gilydd.
Os yw’ch myfyrwyr gartref a bod ganddyn nhw ddim mynediad at ardd nac yn gallu mynd allan, peidiwch â phoeni, gallan nhw gymryd rhan beth bynnag! Gofynnwch iddyn nhw ddychmygu eu parc lleol neu dir yr ysgol, neu efallai eu bod yn gallu gweld y stryd neu erddi eraill drwy’r ffenestr.
Y cam nesaf yw gofyn i’ch disgyblion dynnu llun i ddangos sut byddan nhw’n gwella’r gofod i ddarparu cynefinoedd ychwanegol ac i gefnogi mwy o fywyd gwyllt. I gymryd rhan, tynnwch lun o’r dyluniad gorau yn eich dosbarth a chyflwyno’ch manylion drwy’r ffurflen ar-lein hon i ysgolion.
I bobl ifanc a theuluoedd
Cymerwch ran yn ein cystadleuaeth i ennill pecyn Dysgu yn yr Awyr Agored ar gyfer eich teulu drwy ddangos i ni sut byddai’ch plant yn ailddylunio man awyr agored i helpu bywyd gwyllt.
Dechreuwch drwy ddefnyddio ein cardiau sgorio Cynllunio Cynefin i weld faint o gynefinoedd sydd gennych chi yn eich gardd ar hyn o bryd. Os yw’ch teulu gartref a bod gennych chi ddim mynediad at ardd, peidiwch â phoeni, gallwch chi gymryd rhan beth bynnag! Gofynnwch i’ch plant ddychmygu'r parc lleol neu dir yr ysgol, neu hyd yn oed edrych drwy’r ffenestr ac arolygu’r stryd. Mae’n syml – mae angen iddyn nhw roi tic wrth bob cynefin maen nhw’n gallu dod o hyd iddo ac adio’r sgoriau at ei gilydd.
Wedyn, gofynnwch i’ch plant dynnu llun i ddangos sut byddan nhw’n gwella’r gofod i ddarparu cynefinoedd ychwanegol ac i gefnogi mwy o fywyd gwyllt. I gymryd rhan, tynnwch lun o’u dyluniadau a chyflwyno’ch manylion drwy’r ffurflen ar-lein hon i deuluoedd.
Gwobrau
Ysgolion cynradd ac uwchradd
Bydd ceisiadau gan ysgolion yn cael eu beirniadu yn y categorïau canlynol; Cyfnod Sylfaen; Cyfnod Allweddol 1, Cyfnod Allweddol 2, Cyfnod Allweddol 3 a Chyfnod Allweddol 4.
Bydd enillydd pob categori yn cael pecyn Dysgu yn yr Awyr Agored ar gyfer ei ddosbarth. Bydd yn cynnwys potiau pryfed, binocwlars, chwyddwydrau ac arweinlyfr adnabod. Bydd pob ymgeisydd yn cael e-dystysgrif am gymryd rhan.
Pobl ifanc a theuluoedd
Bydd y ceisiadau gan bobl ifanc yn cael eu beirniadu yn y categorïau canlynol:
Dan 3 oed, 3-5 oed, 6-7 oed, 8-10 oed, 11-13 oed a 14-16 oed.
Bydd enillydd pob categori yn cael gwobr, sef pecyn Dysgu yn yr Awyr Agored ar gyfer eu cartref. Bydd yn cynnwys potiau pryfed, binocwlars, chwyddwydrau ac arweinlyfr adnabod. Bydd pob ymgeisydd yn cael e-dystysgrif am gymryd rhan.
Dyddiad cau
Rhaid i'r cynigion ddod i law cyn hanner nos ar Gorffennaf 31 2020. Mae telerau ac amodau yn berthnasol. Rhannwch eich ceisiadau ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio'r hashnod#CynllunioCynefin a thagio @RSPBCymru ar Twitter, Facebook neu Instagram.
Pob lwc a phob hwyl yn cynllunio!!
Caiff y gystadleuaeth hon ei rheoli gan y prosiect Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Caiff y prosiect partneriaeth hwn ei arwain gan RSPB Cymru, Cyngor Caerdydd a Buglife Cymru.
Rheolau’r gystadleuaeth
Telerau ac Amodau