Cystadleuaeth: Rhowch wybod pam mae angen natur arnoch CHI am gyfle i ennill system Camera Blwch Adar gwerth £199!

English version available here

I roi cynnig arni:

  1. Rhannwch pam mae angen natur arnoch chi a sut mae’n eich helpu. Byddwch yn greadigol – defnyddiwch eiriau, celf, delweddau neu fideos i ddod â’ch post yn fyw.
  2. Rhowch yr hashnodau #WeNeedNature / #AngenNatur a thagio @RSPBCymru ar TwitterFacebookneu Instagram.
  3. Rhaid cyflwyno eich cynigion (un fesul person) erbyn hanner nos dydd Sul 24 Mai. Mae telerau ac amodau yn berthnasol.

Rhaid i bobl ifanc dan 18 oed roi cynnig arni gyda chaniatâd rhiant neu warcheidwad cyfreithiol. Rhaid i blant dan 14 oed gyflwyno’r cynnig ar gyfrif rhiant neu warcheidwad.

Byddwn yn ailbostio eich cynigion yn rheolaidd ar ein sianeli yn ystod cyfnod y gystadleuaeth.

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol RSPB Cymru yn ystod yr wythnos yn dechrau 15 Mehefin 2020 a bydd yr enillydd yn cael y system camera Blwch Adar yma sydd werth £199!

 
Telerau ac Amodau’r Gystadleuaeth

Rheolau 

  1. Mae’r gystadleuaeth hon ar agor i bawb sy’n byw yng Nghymru, ac eithrio unrhyw un sy’n gweithio i’r RSPB neu unrhyw un sydd â chysylltiad uniongyrchol â’r RSPB ac aelodau agos o'u teulu. Efallai y gofynnir am dystiolaeth o oedran.
  2. Rhaid i’r holl ymgeiswyr dan 18 oed gael caniatâd eu rhiant/gwarcheidwad cyfreithiol cyn cymryd rhan yn y gystadleuaeth. Rhaid i rieni/gwarcheidwaid cyfreithiol ymgeiswyr dan 18 oed gytuno â'r Rheolau a’r Telerau ac Amodau ar ran yr ymgeiswyr. Rhaid i’r ymgeiswyr dan 14 oed ddim ond postio eu cynnig ar gyfrif cyfryngau cymdeithasol rhiant neu warcheidwad.
  3. Mae’r gystadleuaeth am ddim a does dim rhaid talu i gymryd rhan.
  4. Rhaid cyflwyno pob cynnig drwy ddilyn y camau canlynol: Dylech chi greu post ar gyfrif cyfryngau cymdeithasol personol (Instagram, Facebook, Twitter) yn egluro pam mae angen natur arnoch chi a sut mae’n eich helpu. Gallwch ddefnyddio geiriau, lluniau neu fideo. Rhowch yr hashnodau #WeNeedNature / #AngenNatur a thagio @RSPBcymru ar Facebook Instagram neu Twitter).
  5. Dim ond un cynnig gan bob person. Os cyflwynir mwy nag un cynnig gan yr un person neu gyfrif, dim ond y cynnig cyntaf a dderbynnir.
  6. Rhaid i’r RSPB gael y ceisiadau erbyn hanner nos dydd Sul 24 Mai. Bydd unrhyw gais sy’n hwyr, yn anghyflawn neu’n amhriodol yn cael ei bennu’n annilys, yn unol â disgresiwn yr RSPB.
  7. Nid yw’r RSPB yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw fethiant, diffyg neu unrhyw broblem arall gyda gweinydd, system mynediad i’r rhyngrwyd nac unrhyw beth arall allai arwain at golli neu lygru cais, neu beidio â’i gofrestru neu ei gofnodi’n briodol. Ni ysgwyddir cyfrifoldeb am geisiadau sydd wedi’u difrodi neu fynd ar goll.
  8. Bydd y beirniaid yn asesu’r cynigion ar sail creadigrwydd, mynegiant a gwreiddioldeb a bydd un enillydd yn cael ei ddewis. Bydd penderfyniad y beirniaid yn derfynol. Ni ymatebir i unrhyw ohebiaeth sy’n ymwneud â'r canlyniad.
  9. Bydd yr enillydd yn cael system Camera Blwch Nyth RSPB IP werth £199. Bydd y wobr yn cael ei hanfon at yr enillydd drwy'r post cyn pen 28 diwrnod iddo gael gwybod gan yr RSPB ei fod wedi ennill. 
  10. Bydd yr enillydd yn cael gwybod ei fod wedi ennill drwy neges uniongyrchol ar lwyfan cyfryngau cymdeithasol y post gwreiddiol cyn pen wythnos o wneud y penderfyniad, a bydd yn rhaid iddyn nhw ddarparu eu cyfeiriad post er mwyn cael y wobr. Os na fydd yr enillydd yn ateb yr RSPB cyn pen 14 diwrnod o gael gwybod eu bod wedi ennill, byddant yn ildio'r wobr a bydd enillydd arall yn cael ei ddewis o blith yr ymgeiswyr eraill.
  11. Nid oes modd cyfnewid na throsglwyddo’r wobr, ac ni fydd arian parod yn cael ei gynnig yn ei lle.
  12. RSPB sy’n darparu’r wobr. Mae’r RSPB yn cadw'r hawl i newid y wobr am wobr arall o werth cyfartal neu uwch os bydd angen gwneud hynny.
  13. Bydd enw’r enillydd yn cael ei gyhoeddi ar sianeli cyfryngau cymdeithasol RSPB Cymru (Instagram, Twitter, Facebook) yn ystod yr wythnos yn dechrau 15 Mehefin 2020.
  14. Yr awdur/perchennog fydd yn cadw teitl hawlfraint llawn y cais. Mae’r Telerau ac Amodau llawn i'w gweld isod.
  15. Mae’r RSPB yn cadw'r hawl i atal rhywun rhag ymgeisio neu wrthod rhoi gwobr i rywun os yw’n torri’r Rheolau neu’r Telerau ac Amodau, neu’n mynd yn groes i ysbryd y Rheolau neu'r Telerau ac Amodau.

Telerau ac Amodau

  1. Drwy gyflwyno eich cais i'r RSPB, rydych yn cytuno i gael eich rhwymo yn gyfreithiol gan y Rheolau a’r Telerau ac Amodau hyn.
  2. Eich gwaith gwreiddiol chi yn unig ddylid ei gynnwys mewn unrhyw gais, ac ni ddylai dresmasu ar hawliau trydydd parti, gan gynnwys hawlfraint, nodau masnach, cyfrinachau masnach, preifatrwydd, cyhoeddusrwydd, hawliau perchnogol neu bersonol. Yn ogystal â hyn, mae’n rhaid i bob cais gael ei greu’n gyfreithlon, heb dresmasu ar unrhyw dir, ac ni ddylai unrhyw gynefinoedd na bywyd gwyllt gael eu niweidio, eu rhoi mewn perygl na’u haflonyddu yn ystod y broses.
  3. Yr awdur fydd yn cadw teitl hawlfraint llawn y cais. Drwy gyflwyno cais i’r RSPB (gan gynnwys unrhyw destun, lluniau, graffeg, fideo neu sain), rydych chi’n rhoi hawl barhaus, heb freindal ac anghyfyngedig y mae modd ei his-drwyddedu i’r RSPB, yn ogystal â thrwydded fyd-eang i ailgynhyrchu, newid, addasu, cyhoeddi, cyfieithu, creu gweithiau deilliannol, dosbarthu, perfformio, arddangos a defnyddio pob hawl cyhoeddusrwydd yng nghyswllt eich cais – naill ai’n gyflawn neu ran ohono – a/neu i ymgorffori’ch cais mewn gweithiau eraill, mewn unrhyw gyfryngau sy’n hysbys nawr neu’n cael eu datblygu yn y dyfodol ar gyfer tymor llawn unrhyw hawliau allai fodoli yn eich cais, ac yn unol â’r cyfyngiadau preifatrwydd a nodir ym Mholisi Preifatrwydd yr RSPB. Drwy gyflwyno cais, rydych chi’n cytuno i ildio unrhyw hawliau moesol sydd wedi’u cynnwys yn eich cais. Ni fydd y ceisiadau y byddwch chi’n eu darparu yn gyfrinachol.
  4. Drwy gyflwyno cais, rydych chi’n cytuno y caiff RSPB ddefnyddio’r deunydd at unrhyw ddiben ac ym mha bynnag ffordd mae’n dymuno gwneud hynny, gan gynnwys marchnata, cyhoeddusrwydd, hysbysebu a chyflwyniadau, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny.
  5. Ni fydd yr RSPB (gan gynnwys ei is-gwmnïau, ei asiantau a’i ddosbarthwyr) yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod uniongyrchol, anuniongyrchol neu ddeilliannol, nac am unrhyw gostau, hawliadau neu orchmynion o unrhyw natur sy’n codi’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol o ddefnyddio’ch cais neu unrhyw ran ohono.
  6. I’r graddau a ganiateir gan y gyfraith, ni fydd yr RSPB (gan gynnwys ei is-gwmnïau, ei asiantau a’i ddosbarthwyr) o dan unrhyw amgylchiadau, yn gyfrifol nac yn atebol am roi iawndal i’r enillydd ac ni fydd yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am golled, difrod, anaf personol neu farwolaeth sy’n digwydd o ganlyniad i dderbyn y wobr, ac eithrio os achosir hynny gan esgeulustod yr RSPB, ei is-gwmnïau, ei asiantau neu ei ddosbarthwyr, neu eu
    Ni effeithir ar eich hawliau statudol.
  7. Rydych yn cytuno i indemnio’r RSPB (a’i is-gwmnïau) yn erbyn unrhyw hawliad gan unrhyw drydydd parti am fynd yn groes i unrhyw rai o’r Rheolau neu’r Telerau ac Amodau hyn.
  8. Mae’r RSPB yn cadw’r hawl i ddiweddaru’r Rheolau a’r Telerau ac Amodau hyn o dro i dro a bydd unrhyw fersiwn wedi’i ddiweddaru’n weithredol cyn gynted ag y caiff ei gyhoeddi ar flog RSPB Cymru.
  9. Mae eich data yn bwysig iawn i'r RSPB; dim ond yn unol â’r Telerau ac Amodau hyn a Pholisi Preifatrwydd yr RSPB fyddwn ni’n defnyddio eich data personol. Drwy gyflwyno cais, rydych chi’n cadarnhau eich bod wedi darllen telerau ein Polisi Preifatrwydd a’ch bod yn cytuno ag ef.
  10. Bydd unrhyw wybodaeth bersonol a gyflwynir yn cael ei chadw’n ddiogel ac yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) 2016/679. Efallai bydd data personol a ddarparwyd yn cael eu pasio ymlaen i gyflenwyr trydydd parti, ond dim ond i’r graddau sy’n angenrheidiol i gyflawni/danfon/trefnu’r wobr.
  11. Efallai y bydd gofyn i’r enillydd gymryd rhan mewn cyhoeddusrwydd sy’n gysylltiedig â’r gystadleuaeth, a allai cynnwys cyhoeddi eu henw a’u llun ar unrhyw gyfryngau. Rydych chi’n cytuno y ceir defnyddio’ch data personol at y diben hwn.
  12. I osgoi amheuaeth, drwy gyflwyno’ch cais, rydych chi’n gwarantu bod pob unigolyn sydd wedi’i gynnwys yn eich cais wedi rhoi caniatâd datganedig i chi ddefnyddio eu llun, llais neu fanylion eraill ac, yn achos oedolion agored i niwed neu bobl dan 18 oed, rydych chi’n gwarantu eich bod wedi cael caniatâd datganedig gan eu rhieni neu eu gwarcheidwaid cyfreithiol.
  13. Nid yw’r gystadleuaeth hon yn cael ei noddi, ei chymeradwyo na'i gweinyddu gan Instagram, Twitter na Facebook ac nid yw’n gysylltiedig â nhw chwaith. Wrth ddefnyddio Instagram / Twitter / Facebook rydych yn cydnabod ac yn cytuno eich bod yn rhwym wrth Delerau ac Amodau a Pholisi Preifatrwydd Instagram / Twitter / Facebook.
  14. Caiff y gystadleuaeth hon ei rheoli gan gyfraith Lloegr ac mae gan Lysoedd Lloegr awdurdodaeth neilltuedig.
  15. Mae’r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (yr ‘RSPB’) yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, rhif 207076 ac yn yr Alban, rhif SC037654 a’i chyfeiriad cofrestredig yw The Lodge, Sandy, Swydd Bedford SG19 2DL.