To read this blog in English please slick here

Blog gwadd gan Eleri Wynne, Swyddog Cyfathrebu RSPB Cymru

Mae mis Gorffennaf wedi cyrraedd pan fo’r haf yn llawn murmuron bywyd gwyllt o fore gwyn tan nos, gan gyfuno toriad y wawr a machlud pinc yr haul gyda’r nos. Ond wrth i ddyddiau poeth yr haf ddod i ben ac mae’n pennau ni’n cyffwrdd â’r gobennydd, y tu allan i’n ffenestri mae natur yn gwbl effro.

Yma yng Nghymru mae gyda’r nos yn cynnig posibiliadau diddiwedd i fywyd gwyllt, wrth i natur ymgynnull am ei hantur nos ei hun; o gri frawychus y dylluan frech, gwibio sydyn yr ystlum lleiaf soprano i sgrech y llwynog wrth iddo chwilio am gymar.

  
Chwith: Cysgu Dan y Sêr ar Ynys Echni, Dde: Llun gan Frank Herhold/Image Source

Diwedd Gorffennaf edrychwn ymlaen at dreulio noson gofiadwy yn y gwyllt ar gyfer ein noson Cysgu Dan y Sêr flynyddol, felly beth am ymuno â ni? Dyma’r cyfle perffaith i fynd yn wyllt a darganfod yn union pa rywogaethau sy’n dod allan wedi iddi nosi, p’un ai drwy glampio mewn carafán, gwneud lloches byd natur i chi eich hun neu gysgu dan y lloer.

Os nad yw aros adre’n apelio gallech hefyd ymuno â ni yn un o’n gwarchodfeydd natur i weld cyfoeth o fywyd gwyllt. Boed hynny yng nghoedwig dawel gwarchodfa RSPB Ynys-hir neu gors gwarchodfa  RSPB Conwy ac RSPB Gwlyptiroedd Casnewydd, mae gennym weithgareddau hwyl at ddant pawb - o wylio’r sêr a rhwydo pyllau, i hel straeon o gwmpas y tân. Mae’r hwyl yn parhau ar Ynys Echni yng Nghaerdydd hefyd lle’r rydym ni’n trefnu antur arbennig i ddarganfod trysorau byd natur ar drip gwersylla teuluol bythgofiadwy. Gyda harddwch Aber Afon Hafren o’n cwmpas, bydd y gwersyllwyr yn cael mwynhau golygfeydd hyfryd o diroedd pell. Mae cyfle iddyn nhw chwilio am drychfilod, cymryd rhan mewn saffari traeth a syrthio’i gysgu yn gwrando ar y tonnau’n torri ar y traeth.

Mae yna rywbeth hollol ramantus ac anturus am dreulio noson o dan y sêr. I ni oedolion gallai ddwyn atgofion am blentyndod yn yr awyr agored, ymhell o straen ein bywydau dyddiol. A pha blentyn sydd ddim yn hoff o aros ar ei traed yn hwyr? Gall y plant dreulio noson mewn lloches o frigau a dail, chwilio am drychfilod a darganfod pa greaduriaid sy’n ymddangos gyda’r nos. Efallai nad yw’r syniad o noson yn y gwyllt yn apelio llawer, ond p’un ai ydych yn wersyllwr o fri neu beidio, rydym ni’n addo os rhowch gynnig ar ymuno â chreaduriaid y nos Cymru, bydd yn brofiad gwerth chweil beth bynnag yw eich oedran.

I ddarganfod mwy am ein digwyddiadau Cysgu Dan y Sêr ar draws Cymru, ewch i www.rspb.org.uk/sleepout. Bydden ni wrth ein bodd yn clywed am eich anturiaethau gyda’r nos felly cofiwch gysylltu ar Twitter @RSPBCymru neu Facebook drwy fynd i RSPB Cymru – a defnyddio #BigWildSleepout or #CysguDanYSer.