Cyrraedd Sero Net ac adfer natur – beth mae angen i ni ei wneud?

English version available here

Heddiw, 20 Hydref 2023, mae astudiaeth newydd wedi datgelu sut gellir defnyddio tir i adfer natur a'n helpu i gyrraedd targedau sero net, gan gynhyrchu bwyd a phren yn gynaliadwy ar yr un pryd. Yn y blog hwn, mae Arfon Williams, Pennaeth Polisi Tir a Môr RSPB Cymru yn esbonio sut gall tir Cymru ddarparu rhai o'r atebion i gyrraedd sero net.

Bydd 2050 yn flwyddyn bwysig i Gymru. Ynghyd â gweddill y DU, mae gennym darged i leihau ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr a chyrraedd sero net erbyn y flwyddyn hon. Gydag ychydig dros 26 mlynedd i gyrraedd y targed uchelgeisiol hwn, mae gennym lawer o waith i’w wneud.

Er mwyn cyrraedd sero net, bydd angen gwneud newidiadau mawr ar draws pob sector a diwydiant yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys sut rydym yn rheoli ac yn defnyddio ein tir. Os yw'n cael ei wneud yn y ffordd iawn, gall fod yn eithriadol o fuddiol i fyd natur, yr hinsawdd a phobl.

Dyna beth mae astudiaeth newydd gan RSPB a phartneriaid wedi'i ddatgelu heddiw. Mae'r Prosiect Senario Defnyddio Tir (LUSP) yn dangos sut gall tir Cymru chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gyrraedd targedau hinsawdd a natur Llywodraeth Cymru, gan sicrhau hefyd ein bod yn gallu tyfu bwyd iach a chynaliadwy.

Dull strategol – beth mae hyn yn ei olygu?

Mae’r astudiaeth yn dadlau bod angen dull strategol a chynaliadwy o reoli tir. Yr hyn a olygwn wrth hyn yw ei bod yn bwysig mabwysiadu dull gweithredu cydgysylltiedig i sicrhau bod y ffordd rydym yn rheoli tir yn ein helpu i gyrraedd targedau sero net, i adfer natur, i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy ac i fod o fudd i gymdeithas yn ehangach.

Beth mae’r astudiaeth yn ei ddangos?

Rydyn ni eisoes yn gweld effaith newid hinsawdd ar dir a sut rydyn ni’n ei reoli, gan gynnwys yng Nghymru. Er enghraifft, mae llifogydd mawr yn fwy cyffredin, ac mae’r hafau poethach yn cynyddu’r risg o danau gwyllt a sychder. Gan gadw hyn mewn cof, mae'r papur a gyhoeddwyd heddiw yn ystyried naw senario sy'n cyfuno amrywiaeth o fesurau ar gyfer lleihau effeithiau newid hinsawdd.

Mae’r mesurau hyn yn cynnwys atebion sy’n seiliedig ar natur, fel adfer mawndiroedd sydd wedi dirywio a chreu coetiroedd newydd. Enghraifft arall yw addasu sut rydyn ni’n ffermio er mwyn helpu i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, fel newid i ddefnyddio peiriannau fferm trydan.

Yna, asesir effeithiau pob senario ar allyriadau nwyon tŷ gwydr, adar, a chynhyrchu bwyd a phren hyd at 2050, sef targed sero net Llywodraeth Cymru.

Mae’r ymchwil yn dangos mai'r senarios gyda’r defnydd mwyaf uchelgeisiol o atebion seiliedig ar natur sydd wedi cyflawni’r gostyngiad mwyaf mewn allyriadau. Mae pedair senario’n cyflawni sero net, neu'n dod yn agos at hynny, yn y sector ‘amaethyddiaeth, coedwigaeth a defnydd tir arall’ yng Nghymru, ac yn y DU yn ehangach. Mewn geiriau eraill, po fwyaf o atebion seiliedig ar natur sydd, po fwyaf fydd y gostyngiadau mewn allyriadau.

Yn y senarios uchelgeisiol hyn, cynyddodd y cynefinoedd i adar coetir ond roedd adar tir amaethyddol ar eu colled. Mae hyn yn tynnu sylw at bwysigrwydd cynlluniau ffermio sy'n ystyriol o natur a'r amgylchedd wrth helpu i wella ansawdd y cynefinoedd tir amaethyddol sy’n weddill ar gyfer natur.

Roedd lefelau cynhyrchu bwyd hefyd wedi gostwng yn y senarios hyn, wrth i dir amaethyddol gael ei ddefnyddio at ddibenion eraill. Fodd bynnag, gellir lleihau’r gostyngiadau hyn mewn cynhyrchiant drwy fynd i'r afael â gwastraff ledled y gadwyn gyflenwi a sicrhau deiet iach a chynaliadwy sy'n cyd-fynd yn well â’r hyn y mae ein tir amaethyddol yn ei gynhyrchu.

Mae'r angen am y math hwn o ddiwygiad i’r system fwyd, mewn ymateb i newid hinsawdd a cholli bywyd gwyllt, eisoes yn eglur ac yn cael ei amlygu mewn adroddiadau fel System fwyd sy'n addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol gan WWF Cymru ac Adolygiad Dasgupta, sy'n cyfeirio at yr angen am ymateb byd-eang.

Beth yw ein barn ni?

Mae’r astudiaeth bwysig hon yn dangos nad oes un ateb sy'n addas i bawb ar gyfer datrys sut mae tir yn cael ei ddefnyddio a'i reoli. Fodd bynnag, yr hyn sy'n cael ei amlygu'n glir yw pa mor bwysig yw hi fod Llywodraeth Cymru yn edrych ar ddefnydd tir yn strategol.

Rhaid i ddull strategol o ddefnyddio tir hefyd gynnwys rhoi Cynlluniau Interim newydd y Llywodraeth ar gyfer Ffermio Cynaliadwy a Chynefinoedd Cymru ar waith, a’i thargedau o ran creu coetiroedd. Mae'n hanfodol ein bod yn gwneud hyn, os ydyn ni am gefnogi ffermwyr a rheolwyr tir eraill i fynd ati i gynhyrchu bwyd a phren yn gynaliadwy, gan ddiogelu ac adfer natur, a chyfrannu at y targedau sero net ar yr un pryd.