English version available here
Dros y ddau ddegawd diwethaf, mae'r artist a'r animeiddiwr, Sean Harris, wedi defnyddio animeiddio fel ffordd o archwilio a mynegi'r berthynas gymhleth rhwng pobl a thirweddau ledled Cymru a thu hwnt. Mae ei brosiect diweddaraf, The Conference of the Birds: Curlew & Great Auk, yn rhoi llais i ddau aderyn eiconig - un sy'n gyfarwydd i genedlaethau hŷn a'r llall sydd yn symbol o ganlyniadau pellgyrhaeddol ein gweithredoedd fel defnyddwyr.
Yn y blog hwn, mae Sean yn rhoi ei farn ar y daith y mae wedi'i gweld rhwng pobl, tirweddau a'r rhywogaethau eiconig sy'n galw Cymru'n gartref iddynt.
RSPB
‘Wnaeth o ddim crïo. Fe dagais i fo.’
Dyma ddywedodd Sigurdur Islefson, ffermwr a physgotwr o Wlad yr Iâ, am ei hanes yn cael gwared ar un o’r ddau Garfil Mawr olaf ar y Ddaear. Daw’r geiriau o gyfres o hanesion a adroddwyd gan y criw o ddynion a rwyfodd am ddeuddeg awr ym mis Mehefin 1844, drwy ddyfroedd peryglus, i gyrraedd ynys Eldey. Yno daethant o hyd i’r pâr hysbys olaf, ac ymosod arnynt, gan arwain y rhywogaeth at ddifodiant.
Wrth geisio adrodd stori dda, byddai’n hawdd dweud pethau cas am y dynion. Fodd bynnag, ffermwyr yn ei chael hi’n anodd darparu ar gyfer eu teuluoedd mewn tirwedd anodd oedd y dynion yma mewn gwirionedd. Nid oedd ganddynt unrhyw gysyniad o ‘ddifodiant’ ac yn syml, dim ond ymateb i gyfle a grewyd gan ‘rymoedd y farchnad’ oedd y dynion. Roedd niferoedd y Carfil Mawr wedi gostwng yn ystod y ddwy ganrif flaenorol: canlyniad dinistrio nythod ar gyfer plu, olew a bwyd. Roedd y prinder cynyddol hwn yn creu galw dybryd am sbesimenau – ac roedd dynion ar y ddwy ochr i’r Iwerydd yn barod i dalu arian mawr. Felly, er mai yn 1844 y credir i’r Carfil Mawr gymryd ei anadl olaf, roedd hi’n amlwg bod pethau wedi mynd o ddrwg i waeth ymhell cyn hynny.
Ar y llaw arall, rydyn ni’n gwybod bod y Gylfinir, fel llawer o rywogaethau eraill, bellach wedi mynd ymhell ar hyd y llwybr at ddifodiant. Mae llawer o dystiolaeth i brofi bod hyn yn newyddion drwg i ni oherwydd ein bod ni’n gwbl ddibynnol ar fioamrywiaeth er ein lles ein hunain.
Felly, mae marwolaeth dawel y pâr olaf o Garfilod Mawr yn symbol o'r hyn yr ydym ni fel cymdeithas yn ei wneud i ni ein hunain ac i’n hamgylchedd ar hyn o bryd. Rydyn ni’n gwasgu ein gyddfau ein hunain – ac yn gwneud hynny er bod yr holl ffeithiau gennym ni.
Rydyn ni’n cydnabod bod ein system cynhyrchu bwyd yn hollbwysig o ran ailagor y tonnau awyr. Ein hymateb ni? I anghytuno’n gryf, mae’n debyg, dros fanylion biwrocrataidd yn ymwneud ag ‘asedau’.
Rwy’n gwybod bod hyn yn gymhleth. Pan ddechreuais i ar y prosiect ‘Cymanfa’r Adar’ (yn adeilad y Senedd a’r Pierhead ar hyn o bryd), penderfynais y byddwn i’n ceisio gwrando; er mwyn cael cymaint o ddealltwriaeth â phosibl o wahanol safbwyntiau – ac yn enwedig safbwyntiau ffermwyr.
Roedd y dull hwn yn adeiladu ar waith cynharach yng Ngwastadeddau Gwlad yr Haf, lle des, drwy weithio gyda’r Great Crane Project gan yr RSPB, i adnabod a gweithio gyda ffermwyr a oedd wedi addasu eu busnesau i ymateb i lifogydd trychinebus 2013/14. “Allwch chi ddim brwydro yn erbyn natur” meddai un ffermwr a oedd wedi rhoi’r gorau i ffermio llaeth dwys yn sgil y trychineb.
O ganlyniad, yma yng Nghymru, rwyf wedi dod i adnabod ffermwyr sydd wedi plannu miloedd o goed derw, sy’n arallgyfeirio mewn modd deallus a chreadigol aruthrol, sy’n cofleidio arferion adfywiol neu ‘ystyriol o natur’. Mae’n debyg eu bod nhw dal yn lleiafrif – oherwydd mae’r dulliau cylchol hyn yn mynd yn groes i'r graen pan fo cynhyrchiant yn cyfateb i hunanwerth.
Ond maen nhw yno ac maen nhw’n cynyddu o ran nifer. Maen nhw’n arwyr a dylid cydnabod hynny; rhaid eu talu’n iawn – ac yn gyflym, fel y bydd mwy yn ymuno â nhw. Mae’n gwbl amlwg bod llesiant cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol yn dibynnu ar hynny. Mae tynged y ‘Carfilod Mawr’ olaf yn arwydd o’r posibiliadau tywyll sydd ar y gorwel.