Dyma flog gan dîm eirioli RSPB Cymru.

To read this blog in English, please click here.

Mae dyfodol bywyd gwyllt Cymru yn y fantol. Fel y mae llawer ohonoch yn gwybod, mae’r Adroddiad Sefyllfa Byd Natur wedi datgelu mai’r sefyllfa dros yr hanner can mlynedd ddiwethaf yw bod 56% o rywogaethau a astudiwyd yn y Deyrnas Unedig wedi dirywio. Yng Nghymru, dros y tymor hir, mae hyn yn cynnwys 60% o rywogaethau gloÿnnod byw yn dirywio, 40% o’r rhywogaethau adar a aseswyd yn dirywio, a 57% o rywogaethau planhigion fasgwlaidd yn dirywio. Mae’r ffigyrau hyn yn dangos y lefel eithafol o golli bioamrywiaeth yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig yn ystod y blynyddoedd diwethaf.  Er hynny, mae difrifoldeb y dadansoddiad wedi ysgogi newid - gan danio Cynulliad Cenedlaethol Cymru a chyrff anllywodraethol amgylcheddol i ymateb yn gadarnhaol fel na wnaethant erioed o'r blaen. 

Andy Hay rspb-images.com

Unedig dros Fioamrywiaeth

Mewn trafodaeth bwysig Ddydd Mercher 9 Tachwedd, welodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru Aelodau o bob plaid yn unedig dros fioamrywiaeth. Sbardunwyd y drafodaeth gan gyhoeddi'r  ‘Adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2016’ ym mis Medi – sef yr ail adroddiad o’i fath sy’n casglu tystiolaeth gan fwy na 50 o fudiadau cadwraeth ac ymchwil ledled y DU i asesu sefyllfa bywyd gwyllt a phlanhigion y wlad. Canfu'r adroddiad fod y DU, dros y tymor hir, wedi colli llawer mwy o fyd natur na’r cyfartaledd yn fyd-eang, ac mae’r dirwyiadau’n parhau.

Roedd Aelodau'r Cynulliad yn teimlo’n angerddol am y canfyddiadau ac roeddent yn dweud bod sefyllfa byd natur yng Nghymru yn eu poeni a'u synnu. Yn y drafodaeth gyntaf o’i fath, roedd consensws ymysg y pleidiau gwleidyddol yn y Senedd fod angen mynd i'r afael â cholli bioamrywiaeth fel mater o frys. Roedd llawer o’r Aelodau a fu’n siarad yn y ddadl yn ‘pencampwyr rhywogaethau’, ac yn cynrychioli ffyngau cap cŵyr, y gornchwiglen, y frân goesgoch, y bele, llygoden y dŵr a’r gylfinir. Wrth siarad yn frwd am yr angen i wrthdroi dirywiadau yn y rhywogaethau a gynrychiolir ganddynt, roeddent yn annog y Llywodraeth i fynd i'r afael yn uniongyrchol â’r materion sydd wrth wraidd y colledion.

Roedd cryn dipyn o gytuno bod y ddeddfwriaeth ddiweddar, sef Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) a Deddf yr Amgylchedd (Cymru), yn rhoi cyfle go iawn i wella sefyllfa byd natur yng Nghymru os yw'r Llywodraeth yn sicrhau ei bod yn blaenoriaethu dirywiadau bywyd gwyllt. Roedd yr Aelodau’n sôn am bwysigrwydd sicrhau nad yw Brecsit yn rhwystro ein hymdrechion i adfer byd natur, ond yn pwysleisio bod angen manteisio ar y cyfleoedd newydd a ddaw, megis y cyfle i greu polisi newydd ar reoli tir mewn modd cynaliadwy yng Nghymru (ar ôl y PAC).  I ymateb, fe wnaeth Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, ailbwysleisio:

“Yn dilyn y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, ni fyddwn yn cwtogi ar ein deddfwriaeth nac ychwaith ar ein hymrwymiad i fioamrywiaeth. Bydd ein deddfwriaeth yn caniatáu inni hyrwyddo dulliau newydd, dyfeisgar, arloesol a hirdymor i reoli ein bywyd gwyllt.  Rydym wedi ymrwymo i wrthdroi’r dirywiadau mewn bioamrywiaeth, ac yn wir i'w weld yn ffynnu.”


Grahame Madge rspb-images.com

Ond a fydd Cymru yn cyrraedd ei thargedau bioamrywiaeth erbyn 2020?

Er gwaethaf brwdfrydedd ac ymrwymiad amlwg y Cynulliad i hybu bywyd gwyllt Cymru, mae’r newyddion diweddar yn dangos nad ydym yn gwneud cystal. Chwe mlynedd yn ôl, ymrwymodd Cymru i gyrraedd cyfres o dargedau rhyngwladol (targedau AICHI) sy'n addunedu i roi terfyn ar golli bioamrywiaeth erbyn 2020. Ond yr wythnos diwethaf yn y COP Confensiwn ar Fioamrywiaeth ym Mecsico, datgelodd adroddiad gan BirdLife International na fydd y DU - ar ei llwybr presennol - yn cyrraedd y targedau. I Lywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru, bydd y newyddion yma’n arbennig o anodd i'w lyncu gan fod y ddeddfwriaeth ddiweddar yn gwneud ymrwymiadau cryf iawn i amddiffyn a hyrwyddo bywyd gwyllt.

Ond peidiwch ag ofni! Efallai fod y newyddion drwg i Gymru wedi dod ar adeg da iawn - dyma dri rheswm allweddol pam:

  1. Ar hyn o bryd, mae bywyd gwyllt yn uchel ar yr agenda wleidyddol yng Nghymru.
  2. Mae Aelodau’r Cynulliad yn llawn egni a brwdfrydedd dros hyrwyddo eu rhywogaethau.
  3. Ac mae Llywodraeth Cymru dan bwysau i ddangos i’r byd sut y mae hi’n bwriadu troi ei deddfwriaeth uchelgeisiol yn weithredoedd ar lawr gwlad.

Mae hyn i gyd yn golygu y gallai'r newyddion yma fod yn hwb sylweddol i'r cyfeiriad iawn i achub byd natur yng Nghymru.

Fel y dywedodd Huw Irranca-Davies AC wrth gloi’r drafodaeth ar Sefyllfa Byd Natur:

“Gwyddom fod gennym yr offer, gwyddom fod gennym yr uchelgais—mater i ni yn awr yw gweithio gyda’n gilydd... i wrthdroi colli bioamrywiaeth, atgyweirio ein hecosystemau briwiedig, a throsglwyddo planed sy’n gwella a phlaned iach i genedlaethau’r dyfodol.”

Ac mae o’n iawn – y mae’r offer gennym ni. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) a Deddf yr Amgylchedd (Cymru), os cânt eu gweithredu’n effeithiol, yn gyfle pwysig i Gymru ddangos ei harweinyddiaeth i wrthdroi dirywiadau ym myd natur ar y llwyfan rhyngwladol. Gobeithio y bydd y digwyddiadau diweddar yn symbylu camau gwleidyddol i achub byd natur yng Nghymru.