English version available here
Os ydych chi’n ddigon ffodus i weld llygoden y dŵr yn agos at un o’i hoff gynefinoedd; boed ar hyd afon neu nant, o amgylch pyllau neu lynnoedd neu hyd yn oed ymysg gwelyau cyrs ac mewn corsydd, gwnewch y gorau ohono, oherwydd mae’r cymeriad poblogaidd yma yn llenyddiaeth plant mewn perygl o ddiflannu yng Nghymru.
I’r rhan fwyaf ohonom, ymysg tudalennau The Wind in the Willows gan Kenneth Grahame y byddwn wedi dod i gysylltiad â Llygoden y Dŵr am y tro cyntaf, ac nid yn yr awyr agored. Llygoden y dŵr yw Ratty, y prif gymeriad.
Mae gan Lygoden y Dŵr ffwr brown, trwyn crwn, clustiau bach, a chynffon blewog. Mae’n llawer mwy na rhywogaethau eraill o lygod pengrwn. Mae Llygod y Dŵr yr Alban yn edrych yn dywyllach yn aml, ac mae gan lawer ohonynt got ddu. Mae’r llygoden ffyrnig debyg yn fwy, gyda ffwr llwydfrown, trwyn pigfain, clustiau mawr sy’n ymwthio allan o’i ffwr, a chynffon hir, cennog. Mae Llygod y Dŵr yn hoffi eistedd a bwyta yn yr un lle, felly gellir dod o hyd i bentyrrau o laswellt a choesynnau wedi’u cnoi ar ymyl y dŵr, gan ddangos toriad ar ongl o 45 gradd ar y pennau, sy’n nodweddiadol ohonynt. Maen nhw’n dechrau bridio yn y gwanwyn, gyda thair neu bedair torraid bob blwyddyn o hyd at bump o epil.
Fel sy’n digwydd yn aml gyda dirywiad yn y boblogaeth o rywogaethau, mae nifer o ffactorau wedi cyfrannu at eu gostyngiad. Mae dau ffactor penodol wedi cael effaith sylweddol ar boblogaeth llygod y dŵr yng Nghymru. Mae angen glannau arnynt i gloddio tyllau, a llystyfiant trwchus i ddarparu lloches a bwyd. Colli cynefinoedd torlannol a’u darnio, a achosir gan reolaeth ddynol, yw’r ffactor mawr cyntaf i effeithio ar y mamaliaid dirgel hyn. Mae draenio, mewnlenwi, rheoli'r glannau’n amhriodol, llygredd a rheoli llifogydd wedi arwain at boblogaethau presennol o lygod y dŵr yn mynd yn fach ac yn anhyfyw. Nid yw llygod y dŵr ifanc bellach yn gallu teithio i safleoedd newydd na lledaenu, gan leihau eu niferoedd yn sylweddol. Gwaethygwyd y sefyllfa hon gan gyflwyno’r Mincod Americanaidd ddiwedd y 1920au i’r DU. Mae’r Minc wedi cael effaith uniongyrchol ac anuniongyrchol. Yn uniongyrchol drwy ysglyfaethu ar lygod y dŵr ac yn anuniongyrchol drwy orfodi llygod y dŵr i adael cynefinoedd da er mwyn chwilio am ardal heb Fincod. Mae hyn, ynghyd â darnio cynefinoedd, wedi golygu bod llygod y dŵr, mewn rhai ardaloedd, wedi colli ei phoblogaeth yn gyfan gwbl bron.
Mae angen glannau glaswelltog ar lygod y dŵr ar hyd afonydd araf, ffosydd, nentydd, llynnoedd, pyllau, camlesi, corstir neu ucheldir, er mwyn goroesi a ffynnu. Maen nhw’n bwydo ar bethau fel cyrs, glaswelltau, brwyn, hesg, planhigion dŵr a phlanhigion gwlyptir yn y gwanwyn a’r haf a gwreiddiau, gwreiddgyff, bylbiau a rhisgl yn yr hydref a’r gaeaf. Yn achlysurol iawn, byddant yn bwyta pryfed a chreaduriaid di-asgwrn-cefn eraill. Gyda 90% o’r tir yng Nghymru’n cael ei ffermio mewn rhyw ffordd, mae ffermio’n chwarae rhan allweddol o ran gallu adfer cynefin sydd wir ei angen ar gyfer y rhywogaeth hynod bwysig hon. Dyna pam ein bod yn galw ar Gynllun Ffermio Cynaliadwy sy’n gweithio i’n ffermwyr, i bobl ac wrth gwrs i’n bywyd gwyllt. I’n helpu ni i siapio’r cynllun hwnnw cyn ei fod yn rhy hwyr, gwnewch yn siŵr bod eich llais yn cael ei glywed yma.
Os cewch eich hun y tu allan ym myd natur, cadwch lygad am arwyddion o lygod y dŵr lle rydych chi - fel tyllau ar lan yr afon, yn aml gyda ‘lawnt’ o laswellt wedi’i gnoi o amgylch y fynedfa. Os ydych chi’n ddigon ffodus i weld un, rhowch wybod i The People’s Trust for Endangered Species yma.