Sgroliwch i lawr am y fersiwn Saesneg / Scroll down for the English version
Cyfle i CHI ddweud eich dweud a’n helpu ni i osod bywyd gwyllt ar frig yr agenda yn Bil yr Amgylchedd (Cymru) – blog gwestai gan Annie Smith, Rheolwr Datblygu Cynaliadwy RSPB Cymru
Yn adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2013 nodwyd prinhad dychrynllyd bywyd gwyllt Cymru a ledled y DU. Ond mae deddf newydd sydd ar ei thaith drwy Gynulliad Cymru ar hyn o bryd yn cynnig cyfle i ni wrthdroi’r prinhad hwn.
Mae Bil yr Amgylchedd (Cymru) yn trafod ystod eang o faterion yn cynnwys newid hinsawdd, ailgylchu gwastraff, trwyddedu morol a’r tâl pum ceiniog ar fag plastig. Y peth pwysicaf i’n bywyd gwyllt yw mai nod Rhan Un o’r Bil yw gwella iechyd amgylchedd Cymru drwy reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
Mae Pwyllgor Amgylchedd a Chynaladwyedd y Cynulliad Cenedlaethol yn archwilio’r Bil, ac wedi cymryd y cam anghyffredin o wahodd pobl Cymru i ddatgan eu barn amdano drwy gyfrwng arolwg ar-lein syml. Rydw i wedi rhoi tystiolaeth arbenigol yr RSPB gerbron (sgroliwch i lawr i ddarllen ein hatebion i cwestiynau yr arolwg), ond fel dinesydd byddaf yn cymryd y cyfle hwn i ddweud fy nweud hefyd!
Er mwyn dod â cholledion mewn bioamrywiaeth i ben ac adfer byd natur, rydym yn gwneud cais i’r Bil hwn gynnwys targedau clir i adfer natur, er mwyn sicrhau bod Llywodraeth Cymru’n gwneud digon bob blwyddyn i wrthdroi sefyllfa bresennol ein bywyd gwyllt. Ond ar hyn o bryd mae’r Bil yn methu gwneud yn fawr o’r cyfle i sicrhau y bydd rheolaeth tir a dŵr yn gweithio dros fywyd gwyllt yn y dyfodol, a’i fod yn ymgorffori gweithredu positif i helpu i wrthdroi’r prinhad.
Rhowch ychydig o’ch amser os gwelwch yn dda i ateb cwestiynau byr yr arolwg a gadael i’r Pwyllgor wybod eich barn, a helpu i roi llais i fywyd gwyllt yn y broses https://www.surveymonkey.com/r/environment-wales-bill
Byddai’r newidiadau yr hoffem eu gweld yn amlygu’r ffaith bod gwrthdroi prinhad bywyd gwyllt yn un o amcanion ‘rheolaeth adnoddau naturiol’, yn cynnwys ychwanegu’r targedau cyfreithlon pwysig hynny dros adfer bioamrywiaeth ac, wrth wneud hynny, rydym yn sefyll ochr yn ochr â chyrff megis Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt Cymru a Chadwraeth Gloÿnnod Byw.
Wedi i chi gwblhau’r arolwg, rhowch wybod i’ch Aelod o’r Cynulliad! Byddan nhw’n pleidleisio ar y Mesur yn ystod ei gamau diweddarach, felly beth am i ni ddangos iddyn nhw y bydd bywyd gwyllt yn fater pwysig? Gallwch ddod o hyd i’ch Aelodau o’r Cynulliad a chysylltu â nhw drwy gyfrwng:
https://www.writetothem.com/ neu beth am gysylltu ar Trydar Tweet them ar #NeedNature?
English
Have YOUR say and help us put wildlife top of the agenda in the Environment (Wales ) Bill – guest blog by Annie Smith, RSPB Cymru Sustainable Development Manager
The 2013 State of Nature report highlighted shocking declines in wildlife in Wales and across the UK. But a new law now passing through the Welsh Assembly brings us an opportunity to ensure we can reverse these declines.
The Environment (Wales) Bill covers a broad range of issues, including climate change, waste recycling, marine licensing and the five pence plastic bag charge. Most importantly for our wildlife, Part One of the Bill aims to improve the health of Wales’ environment through the sustainable management of natural resources.
The National Assembly’s Environment and Sustainability Committee is scrutinising the Bill, and has taken the unusual step of inviting Welsh people to give their views on it via a simple online survey. I’ve submitted the RSPB’s expert evidence (scroll down to see our views on the survey questions), but as a citizen will be taking this chance to have my say too!
In order to halt biodiversity loss and restore nature, we are calling for this Bill to include clear nature recovery targets, in law, to ensure that the Welsh Government does enough each year to turn around our wildlife’s current situation. But right now the Bill falls short of seizing this brilliant opportunity to make sure that in future the management of land and water works for wildlife, and incorporates positive action to help reverse the declines.
Please take a moment to answer the survey’s short questions and tell the Committee your views, and help give our wildlife a voice in the process https://www.surveymonkey.com/r/environment-wales-bill.
The changes we want to see would make it explicit that reversing wildlife declines is an objective of ‘natural resource management’, including the addition of those important legal targets for biodiversity recovery, and in and in calling for these we’re standing side by side with organisations like Wildlife Trusts Wales and Butterfly Conservation.
When you’ve taken the survey, please tell your Assembly Member! They’ll be voting on the Bill in later stages, so let’s show them that wildlife will be an important issue. You can find and get in touch with your AMs through https://www.writetothem.com/ or why not Tweet them using #NeedNature
****************************************
Dyma ymateb RSPB Cymru i gwestiynau’r arolwg / Here is how RSPB Cymru responded to the survey questions.
CWESTIWN 1 - Bydd Bil yr Amgylchedd (Cymru) yn gosod dyletswydd gryfach ar gyrff cyhoeddus fel ysbytai a chynghorau lleol i gynnal a gwella bioamrywiaeth neu fyd natur cyn belled â phosibl wrth ddarparu eu gwasanaethau. Mae ambell un wedi awgrymu'r hoffen nhw weld y Bil yn cynnwys targedau cryfach i’w gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru ddod â cholledion mewn bioamrywiaeth i ben ac adfer byd natur. Ydych chi’n credu y dylai’r Bil gynnwys targedau o’r fath?
Ein hateb: Ydym– rydym yn credu y dylai fod yn ofynnol bod Llywodraeth Cymru’n gwireddu yn erbyn targedau statudol dros adfer bioamrywiaeth. Yn arbennig, credwn y dylid gosod targedau tymor hir i wella statws rhywogaethau â blaenoriaeth (y rhai sydd wedi prinhau’n ddifrifol) ac i sicrhau bod mannau gwarchodedig mewn cyflwr da. Dylai’r targedau i’r Llywodraeth sicrhau ei fod yn defnyddio’r holl arfau sydd ar gael iddo i’w defnyddio (yn cynnwys dylanwad dros gyrff eraill) i wrthdroi prinhad mewn bioamrywiaeth.
CWESTIWN 2 – Mae Bil yr Amgylchedd (Cymru) yn cynnwys cynigion i greu cynlluniau amgylcheddol ardal. Bydd y cynlluniau yma’n amlinellu’r blaenoriaethau, y cyfleoedd a’r heriau dros yr amgylchedd mewn ardal benodol. Er enghraifft defnyddio ardaloedd dros fywyd gwyllt neu ddefnyddio adnoddau naturiol i gynhyrchu ynni neu leihau risg llifogydd. Wrth feddwl am eich ardal leol, beth fyddai eich blaenoriaethau o ran yr amgylchedd? Dewiswch eich tri phrif flaenoriaeth amgylcheddol o’r rhestr isod. Ein hateb: Credwn ei bod yn bwysig bod y datganiadau ardal yn ystyried anghenion bywyd gwyllt.
CWESTIWN 3 – Mae Bil yr Amgylchedd (Cymru) yn gosod targed i Lywodraeth Cymru leihau gollyngiadau o nwyon tŷ gwydr o 80% erbyn 2050. Ydych chi’n credu y dylid cynnwys targed yn y cyfamser yn y Bil? Ein hateb: Ydym - bydd targed yn y cyfamser yn helpu i sicrhau bod ffocws ar weithredu yn y tymor byr.
CWESTIWN 4 - Os na fydd Llywodraeth Cymru yn llwyddo i ateb y targedau hyn, a ddylid gosod sancsiynau? Ein hateb: Dylid. Fe all ‘sancsiynau’ gynnwys gofynion i adrodd ynglŷn â pham nad yw targedau wedi eu hateb ac i adnabod ffurfiau o weithredu i fynd i’r afael â hyn. Rhaid i fethiant i ateb targedau arwain at weithredu adferol.
CWESTIWN 5 – Ers 1 Hydref 2011 mae lleiafswm tâl o bum ceiniog ar bob bag cludo nwyddau un-defnydd. Cyflwynwyd y tâl am fagiau plastig i leihau’r nifer o fagiau cludo a ddefnyddir yng Nghymru. Ar hyn o bryd fe all Llywodraeth Cymru, pe baent yn dymuno hynny, orfodi siopau a busnesau eraill i roi unrhyw arian a gesglir o’r tâl i achosion amgylcheddol yn unig. Mae Llywodraeth Cymru’n dymuno newid hyn fel bod siopau a busnesau eraill yn gallu trosglwyddo’r arian a gesglir i unrhyw achos elusennol. A ddylai arian a gesglir o’r tâl bagiau cludo gael ei roi i achosion amgylcheddol neu i bob elusen? Ein hateb: Ei gyfrannu i achosion amgylcheddol yn unig – hoffem weld yr arian yn mynd i elusennau amgylcheddol a chynlluniau gwella amgylcheddol o ystyried bod pwrpas yr elusennau hyn yn cynnwys cynorthwyo i gynnal ein hamgylchedd naturiol ac, mewn sawl achos, gweithio i liniaru effeithiau negyddol bagiau cludo plastig.
CWESTIWN 6 – Ydych chi’n credu y dylai Llywodraeth Cymru osod tâl ar ystod ehangach o fagiau cludo? (Er enghraifft, bagiau am oes, bagiau hesian, bagiau cotwm) Ein hateb: Ydym – mae ‘Bagiau am Oes’, sy’n fwy gwydn ac yn llai bioraddadwy, yn effeithio mwy felly ar yr amgylchedd na bagiau un-defnydd, ac mae’n bwysig nad yw’r tâl am fagiau plastig yn cael yr effaith anfwriadol o annog pobl i brynu mathau eraill o fagiau a ddefnyddir dim ond unwaith. Hoffem weld polisi gydag isafswm prisio i’w hannog i gael eu defnyddio’n wirioneddol fel Bag am Oes.
Mae CWESTIYNAU 7-9 yn trafod gwastraff, yn enwedig ailgylchu. Rydym yn cydweithio gyda nifer o gyrff o fewn Cyswllt Amgylchedd Cymru (y Cyswllt), a dyma’r farn yr ydym yn ei rhannu ar y rhan hon o’r Bil: mae’r Cyswllt yn cefnogi’r cynigion parthed casglu a gwaredu gwastraff ac yn cytuno bod angen y pwerau ychwanegol hyn ar Weinidogion i’w gwneud yn ofynnol i gasglu gwastraff ar wahân os ydyn nhw’n mynd i weithredu gofynion arfaethedig yr UE ar gyfer casglu metel, papur, plastig a gwydr ar wahân, gan fod rhai awdurdodau lleol yn parhau i gasglu’r rhain gyda’i gilydd. Rydym hefyd yn cefnogi’r grym i rwystro rhai deunyddiau ailgylchadwy rhag cael eu llosgi gan ei bod yn bwysig bod deunyddiau’n cael eu hail-ddefnyddio’n hytrach na’n cael eu colli o’r economi.
Ein hateb i gwestiynau 7-9 oedd ‘Ydym’.
Mae CWESTIYNAU 10, 11 a 12 yn gwestiynau personol yn ymwneud ag oedran, ym mha ran o Gymru yr ydych yn byw, ac a hoffech gael y newyddion diweddaraf ynglŷn â thaith y Bil.
QUESTION 1 - The Environment (Wales) Bill will place a stronger duty on public bodies like hospitals and local councils to maintain and enhance biodiversity or nature as far as is possible when they are delivering services. Some people have suggested that they would like the Bill to include stronger targets to require the Welsh Government to halt biodiversity loss and restore nature. Do you think the Bill should include such targets? Our answer: Yes – we think the Welsh Government should be required to deliver against statutory targets for biodiversity recovery. In particular, we think long term targets should be set to improve the status of priority species (those that have suffered severe declines) and to get protected areas into good condition. Targets for Government should ensure it uses all the tools at its disposal (including influence over other bodies) to reverse biodiversity declines.
QUESTION 2 - The Environment (Wales) Bill includes proposals to create area environment plans. These plans will set out for an area the priorities, opportunities and challenges for the environment. For example improving areas for wildlife or using natural resources to generate energy or reduce flood risk. Thinking of your local area, what would be your environment priorities? Please choose your top three environmental priorities from the list below. Our answer: We think it is important that the area statements consider the needs of wildlife.
QUESTION 3 - The Environment (Wales) Bill sets a target for the Welsh Government to reduce greenhouse gas emissions by 80% by 2050. Do you think an interim target should be included in the Bill? Our answer: Yes – an interim target will help ensure there is a focus on action in the short term.
QUESTION 4 - If the Welsh Government fail to meet these targets, should sanctions be imposed? Our answer: Yes. ‘Sanctions’ could include requirements to report on why targets have not been met and to identify actions to address this. Failure to meet targets must lead to some remedial action.
QUESTION 5 - Since 1 October 2011 there has been a minimum charge of five pence on all single use carrier bags. The carrier bag charge was introduced to reduce the number of carrier bags used in Wales. At present the Welsh Government could if it wanted to make shops and other businesses give any money raised from the charge to environmental causes only. The Welsh Government wants to change this so that shops and other businesses could pass the money raised on to any charitable cause. Should money raised from the carrier bag charge be donated to environmental causes or to all charities? Our answer: Donated to environmental causes only – we would like to see the levy go to environmental charities and environmental improvement schemes given that the remit of these charities involves helping to support our natural environment and, in many cases, work to directly mitigate the negative impact of plastic carrier bags.
QUESTION 6 - Do you think the Welsh Government should put a charge on a wider range of carrier bags? (For example, bags for life, hessian bags, cotton bags) Our answer: Yes - the more durable, longer-lasting ‘Bags for Life’ are less biodegradable and therefore have a greater impact on the environment than single-use bags, and it is important that the carrier bag levy does not have the unintended effect of encouraging people to buy other types of bags which are only used once. We would like to see a minimum pricing policy to encourage them to truly be used as a Bag for Life.
QUESTIONS 7-9 are about waste, in particular recycling. We are working with a number of other organisations Wales Environment Link (WEL), and this is our shared position on this part of the Bill: WEL supports the proposals relating to the collection and disposal of waste and agree that Ministers require these extra powers to require the separate collection of waste if they are to implement imminent EU requirements for the separate collection of metal, paper, plastic and glass, as some local authorities still collect these together. We also support the power to ban certain recyclable materials from incineration as it is important that materials are recovered rather than lost to the economy.
We answered ‘yes’ to questions 7-9.
QUESTIONS 10, 11 AND 12 are personal questions relating to age, in which area of Wales you live, and if you want to be kept up to date with the Bill’s progression.