Croesawu'r Gaeaf: Canllaw ar Feithrin Natur yn ystod y Misoedd Oer

English version available here

Wrth i’r tymheredd ostwng ac wrth i’r dail ddechrau disgyn, mae heriau a chyfleoedd unigryw yn codi i bobl sy’n frwd dros fyd natur.

Yma yn RSPB Cymru, rydym yn eich annog nid yn unig i werthfawrogi harddwch y gaeaf ond hefyd i gyfrannu’n weithredol at lesiant y natur ar garreg eich drws a’r ecosystem ehangach. Yn y canllaw hwn, rydym ni’n edrych ar sut gallwch chi ofalu am fyd natur y gaeaf hwn.

Darparu Lloches dros y Gaeaf i Adar

Gall y gaeaf fod yn anodd i adar wrth iddynt geisio dod i arfer â thymheredd oerach a phrinder bwyd. Un o’r ffyrdd symlaf o gefnogi ein ffrindiau pluog yw drwy ddarparu lloches yn eich gardd. Llenwch eich teclynnau bwydo adar â hadau llawn egni, cnau a pheli siwet, a’u hongian yn eich gardd. Neu, gadewch yr hadau ar blanhigion fel maen nhw gan eu bod nhw’n ffynhonnell fwyd ardderchog i’r adar yn eich gardd. Gwnewch yn siŵr nad oes rhew yn y baddonau adar, sy’n cynnig ffynhonnell ddŵr hanfodol ar adeg anodd.

Mae’n well gosod teclynnau bwydo adar yn strategol, fel nad oes modd i ysglyfaethwyr posibl gael mynediad atynt, ac mae hi’n bwysig sicrhau amrywiaeth o fwydydd i ddenu gwahanol rywogaethau o adar. Er y bydd rhai adar fel Aderyn y To yn bwyta o declynnau bwydo yn ogystal ag oddi ar y ddaear, bydd rhai adar eraill yn tueddu i wneud un neu’r llall – ni fydd y Titw Tomos Las, er enghraifft, yn bwyta oddi ar y llawr yn aml, ond mae’r Fronfraith neu Llwyd y Berth yn chwilio am eu pryd nesaf ar y ddaear. Drwy greu amgylchedd croesawgar yn eich gardd, rydych chi’n cyfrannu at gadwraeth poblogaethau adar yn ystod misoedd heriol y gaeaf.

Mae popeth sydd ei angen arnoch chi i fwydo’r adar yn eich gardd yn ein siop ar-lein – cymerwch gipolwg!  

Plannu Coed a Pherthi sy’n Ystyriol o Fywyd Gwyllt

Dydy’r gaeaf ddim yn golygu bod bywyd yn dod i ben yn eich gardd; mae’n gyfle i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Rydym ni’n cefnogi plannu coed a pherthi brodorol, sy’n ystyriol o fywyd gwyllt ac sy’n darparu cynefinoedd a ffynonellau bwyd hanfodol. Mae planhigion bytholwyrdd, fel celyn ac eiddew, yn cynnig lloches a chynhaliaeth i adar a phryfed drwy gydol y gaeaf.

Mae hi’n syniad i chi ystyried creu tirwedd amrywiol sy’n darparu ar gyfer gwahanol rywogaethau. Mae perthi sy’n cynhyrchu aeron nid yn unig yn ychwanegu lliw at eich gardd yn ystod y gaeaf, ond hefyd yn ffynhonnell fwyd werthfawr i adar fel y Fronfraith a hyd yn oed y Cynffon Sidan.

 

Arferion Garddio Cynaliadwy yn ystod y Gaeaf

Mae garddio yn ystod y gaeaf yn gyfle i werthfawrogi harddwch eich gardd, yn ogystal â rhoi cyfle i fabwysiadu arferion cynaliadwy sydd o fudd i’r amgylchedd. Mae dulliau garddio organig a dulliau sy’n ystyriol o fywyd gwyllt yn ffyrdd gwych o gefnogi eich ecosystem leol. Dylech chi osgoi plaladdwyr cemegol a gwrteithiau sy’n gallu niweidio adar, pryfed ac iechyd pridd. Yn hytrach, gallwch ddewis opsiynau naturiol amgen a chompost heb fawn i roi maeth i’ch gardd.

Ar ben hynny, mae gadael rhan o’ch gardd heb ei phalu – gyda dail wedi disgyn, canghennau a glaswellt heb ei dorri – yn darparu hafan ddiogel i bryfed a mamaliaid bach. Fel arall, ewch ati i greu gwrych marw gyda’ch holl wastraff garddio, a fydd yn gynefin perffaith ac yn ffynhonnell fwyd i lawer o greaduriaid. Mae’r mannau gwyllt hyn yn cyfrannu at fioamrywiaeth ac yn creu ecosystem gytbwys. Efallai y bydd eich hen goeden Nadolig yn cael ei defnyddio wedi’r cyfan!

 

Cymryd rhan mewn Gwyddoniaeth i Ddinasyddion

Ymrowch i ysbryd ymgysylltu â’r gymuned drwy ddod yn ddinesydd-wyddonydd. Mae’r RSPB yn dibynnu ar ymdrechion unigolion i fonitro a diogelu poblogaethau adar. Ymunwch â’n harolwg ar gyfer y gaeaf sydd ar y gweill! Mae digwyddiad Gwylio Adar yr Ardd yn ffordd berffaith o wneud eich rhan i warchod adar. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru eich diddordeb o fis Rhagfyr 13 ymlaen i gymryd rhan yn nigwyddiad Gwylio Adar yr Ardd rhwng 26 a 28 Ionawr 2024.

Cymerodd dros 25,000 o bobl ran yn nigwyddiad Gwylio Adar yr Ardd yn 2023 o bob cwr o Gymru, gan gyfrif dros hanner miliwn o adar. Drwy gymryd rhan weithredol mewn mentrau gwyddoniaeth i ddinasyddion, byddwch yn dod yn rhan annatod o’r broses gadwraeth. Mae eich arsylwadau yn helpu i nodi tueddiadau a llywio strategaethau i amddiffyn rhywogaethau sy’n agored i niwed.

Y gaeaf hwn, gadewch i ni gofleidio’r oerfel gyda chalonnau agored ac ymrwymo i feithrin natur. Mae egwyddorion yr RSPB yn ein harwain i greu hafan i fyd natur, hyrwyddo bioamrywiaeth, a chymryd rhan mewn ymdrechion cadwraeth ystyrlon. Drwy weithredu’r arferion hyn, rydym ni’n gwella ein hamgylchedd cyfagos yn ogystal â chyfrannu at blaned iachach a mwy gwydn am genedlaethau i ddod.