Creaduriaid "brawychus" Calan Gaeaf!

English version available here

Calan gaeaf yw un o uchafbwyntiau’r Hydref i lawer ohonom. O wisgoedd hunllefys i ffilmiau arswydus – mae llwyth o bobl yn mwynhau ei hwyl, ei straeon, ei liwiau a’i chreadigrwydd.

Tra yr ydym yn tueddu i ganolbwyntio ar y naturiol mwy na’r goruwchnaturiol, mae sawl enghraifft o sut y mae ein bywyd gwyllt wedi dod yn ganolog i’r naratif Calan Gaeaf. Mae hefyd sawl enghreifft echrydus yn natur sydd efallai yn llai hysbys – dyma ychydig esiamplau o’r ddau…

Beth am gychwyn gydag un amlwg – ystlymod. Tra rydym ni yn gweld y mamaliaid asgellog rhain fel creaduriaid hyfryd, mae’n realaeth trist eu bod aml yn cael eu portreadu fel bwystfilod bach sy’n ysu am waed. Ond wrth gwrs, mae ein ystlymod brodorol yn hollol ddiniwed i fodau dynol – a sicr heb drawsnewid o vampirod! Mewn gwirionedd, maent yn anifeiliaid anhygoel – mae ein rhywogaeth amlycaf, yr ystlym lleiaf, yn gallu bwyta hyd at 3,000 chwilen y noson, ond yn pwyso yr un peth a 10 clip papur! Mae ystlymod ymysg y rhestr gynyddol o rywogaethau sy’n dioddef oherwydd colli cynefin – ond gallwch roi ychydig o gymorth y gaeaf iddyn nhw wrth adeiladu bocs ystlymod er mwyn iddyn nhw allu gaeafgysgu yn ddiogel.


 Rahul Thanki (rspb-images.com)


Dyma un efallai sy’n llai adnabyddus – a mae’n mynd yn eithaf gwaedlyd! Mae’r cigydd mawr, sydd a gwedd addas iawn i’r cyfnod yma o’r flwyddyn gyda’I fwgwd du ar draws ei lygadau, yn ymwelydd gaeafol I Gymru a’n anodd i’w weld. Ond efallai y gwnewch sylwi ei fod wedi bod yn yr ardal trwy’r modd hynod hunllefys y mae’n cadw ei fwyd. Mae’r cigydd mawr, Vlad the Impaler y byd adar, yn cadw’i ysglyfaeth anlwcus ar ganghenni a draenau fel sgiwers!


Smudge 9000 (flickr.com/photos/smudge9000/)



Rydyn ni wedi hen arfer â delweddu o wrachod yn eu taflu yn eu crochanau, ond mae brogaod a llyffantod yn llawer mwy na chynhwysyn crawclyd mewn diod gref. Ond sut mae gwahaniaethu rhwng y ddau? Gallwch chi weld y gwahaniaeth rhwng brogaod a llyffantod yn ôl siapiau eu corff, gweadau a'u symudiad. Er bod gan y ddau ohonynt bigment blotiog gwyrdd neu frown tebyg, mae brogaod yn fain ac mae ganddyn nhw goesau hir sy'n caniatáu hopian - tra bod llyffantod yn sychach gyda chroen tebyg i ddafadennau a choesau byrrach. Maent hefyd yn tueddu i gropian o A i B. Fodd bynnag, mae'r ddau ohonyn nhw yn tueddu i ddechrau gaeafgysgu o gwmpas yr amser hwn, gan chwilio am bentyrrau dail a boncyff neu fwd pwll i ymgilio ynddynt. Dyna pam y gallwch chi roi help llaw iddyn nhw trwy fod ychydig yn fwy blêr yr hydref hwn a gwneud pentwr iddyn nhw - neu os oes gennych chi'r lle a'r sgiliau DIY, beth am wneud pwll ar eu cyfer!

               
Ben Andrew (rspb-images.com)


“Quoth the Raven ‘Nevermore’"   

Mae’r gigfran wedi cael ei bortreadu’n symbol o ddrygioni a marwolaeth gan Edgar Allen Poe, ynghyd a chael ei weld mewn goleuni tebyg ym mytholeg Geltaidd, yn enwedig marwolaeth milwyr yn rhyfela. Yn wir, yn y Mabinogion, cigfran oedd symbol arfau Bendigeidfran brenin Prydain - a chyn iddo farw o'i glwyfau gan y Gwyddelod, gofynnodd y bydda ei ben yn cael ei gladdu yn ardal Tower Hill yn Llundain, er mwyn amddiffyn Ynys Prydain o unrhyw goncwest yn y dyfodol. Y gred yw taw o’r stori hwn y daw’r syniad o gael cigfrain yn nhwr Llundain. Ond mae ein perthynas ni gyda’r aderyn hwn yn lawer hapusach a goleuach! Yn fawr a’n hynod glyfar, gellir gweld y gigfran ar hyd Cymru, yn esgyn yn yr awyr gan ddangos ei gynffon siâp diemwnt. Fel aelod mwyaf y teulu brain, mae’n un swil, er bod modd clywed ei gri o bellter.


Chris Gomersall (rspb-images.com)

Beth yw eich hoff rywogaethau Calan Gaeaf? A oes yna unrhyw greaduriaid sy’n codi ofn arna chi?  Gadewch i ni wybod ar y cyfryngau cymdeithasol wrth drydar @RSPBCymru neu ar Facebook. Mae hefyd sawl digwyddiad Calan Gaeaf ar hyd ein gwarchodfeydd ar hyd Cymru, os feiddiwch chi fynd am dro gwyllt ddydd Sul yma…

Llun clawr: Cigfran gan Chris Gomersall (rspb-images.com)