Coedwig Genedlaethol i Gymru

English version available here

Swyddog Polisi Defnydd Tir RSPB Cymru, Jon Cryer, sy’n edrych ar gynlluniau’r Prif Weinidog ar gyfer Coedwig Genedlaethol newydd yng Nghymru, ac ar bwysigrwydd plannu’r ‘goeden iawn yn y lle iawn’…

Yr wythnos diwethaf, lansiodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, a Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, y cam nesaf yn y broses o ddatblygu’r Goedwig Genedlaethol.

Disgrifiodd Mark Drakeford y Goedwig Genedlaethol fel “rhwydwaith ecolegol cysylltiedig ledled Cymru”, tra roedd Lesley Griffiths yn rhagweld y gellid “cerdded ger coed, a than ganghennau coed, o’r gogledd i’r de ac o’r dwyrain i’r gorllewin yng Nghymru” ac y byddai’n adnodd tebyg i Lwybr Arfordir Cymru.

Ychydig a wyddom am y cynlluniau ar hyn o bryd, ond mae’r rhesymau dros gael rhagor o goed yng Nghymru’n amlwg. Mae cynyddu gorchudd coetir wedi’i nodi fel elfen allweddol a allai ein helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur.

Mae ein gwlad wyrdd a hardd ymhell o fod yn iach. Roedd adroddiad State of Nature 2016 yn nodi bod 53% o rywogaethau coetir y DU wedi gweld dirywiad hirdymor a bod Cymru’n un o’r gwledydd sydd wedi gweld y dirywiad mwyaf. Roedd yr Adroddiad o Gyflwr Adnoddau Naturiol, a gyhoeddwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru, yn nodi nad yw yr un o’n hecosystemau, gan gynnwys coetiroedd, yn gydnerth. A chan fod llai na 12% o goetir Cymru yn hynafol neu’n lled-naturiol, mae’n amlwg pam y mae niferoedd rhai rhywogaethau coetir, fel y gnocell fraith leiaf, yn dirywio’n enbyd.

Er mwyn mynd i’r afael â newid hinsawdd awgrymodd Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd bod angen cynyddu gorchudd coetir o 13% i o leiaf 17% yn y DU erbyn 2050. Ar hyn o bryd mae Cymru ychydig yn uwch na chyfartaledd y DU â gorchudd coetir o tua 15%, sy’n cynnwys coetiroedd llydanddail brodorol a phlanigfeydd masnachol.

Beth fyddwn ni’n ei gael gan Goedwig Genedlaethol?

Mae hyn yn dibynnu! Os caiff ei chynllunio’n dda, gallai Coedwig Genedlaethol yng Nghymru, a fydd yn defnyddio rhywogaethau brodorol, gynnig llawer o wahanol fanteision i natur. Os caiff ei chynllunio i gysylltu a chlustogi cynefinoedd coetir sy’n bodoli’n barod, gallai amddiffyn cynefinoedd coetir pwysig, a’r rhywogaethau sy’n byw yno. Bydd clustogi a chysylltu’r safleoedd hyn hefyd yn eu gwneud yn fwy cydnerth wrth ymateb i effeithiau newid yn yr hinsawdd.

Yn yr un modd, gall plannu mwy o goed wrth ochrau afonydd a chynyddu nifer y coed perthi wella’r cysylltiadau rhwng ardaloedd o goetir ar draws y dirwedd, gan weithredu fel coridorau i fywyd gwyllt.

Gall rhagor o goed hefyd ddal a storio carbon, a chyhoeddasom adroddiad yn ddiweddar a oedd yn edrych sut y gall gwahanol ddulliau o ehangu coetir sicrhau’r manteision gorau o safbwynt natur ac o safbwynt carbon.

Gallai Coedwig Genedlaethol i Gymru, sydd wedi’i chynllunio’n dda, sicrhau’r manteision hyn a manteision eraill, gan gynnwys cyfleoedd hamdden, gwella iechyd a llesiant drwy fynediad i fannau gwyrdd a diwydiant coed cynaliadwy. Gellir sicrhau’r rhan fwyaf o’r manteision gyda’i gilydd os bydd coetiroedd yn cael eu cynllunio’n dda mewn lleoliadau priodol, a bydd yr egwyddor o blannu’r ‘goeden iawn yn y lle iawn’ yn hollbwysig er mwyn sicrhau’r budd mwyaf.

Y risgiau

Mae cyfnodau blaenorol o goedwigo ar raddfa eang wedi rhoi tystiolaeth sy’n dangos i ni sut i beidio â gwneud pethau, a rhaid i ni ddysgu o’r camgymeriadau hyn. Mae plannu planigfeydd coed estron ar ein hucheldir wedi achosi difrod difrifol i’n mawndiroedd, sy’n gynefinoedd pwysig i rywogaethau eiconig fel y gylfinir, ac sy’n hollbwysig er mwyn dal a storio carbon a dŵr. Mae’r difrod wedi arwain at leihad yn niferoedd rhai rhywogaethau, a chynnydd mewn allyriadau carbon. Mae hefyd wedi cyfrannu at broblemau yn ymwneud ag ansawdd a llif dŵr.

Mae’r arfer o ddefnyddio rhywogaethau estron mewn planigfeydd yn yr ucheldir hefyd wedi arwain at broblemau â chlefydau coed. Mae effaith phytophora ramorum ar goed llarwydd yn un enghraifft sydd wedi gadael ei hôl yn sylweddol yng Nghymru, oherwydd bu’n rhaid torri nifer fawr o goed. Mae hyn yn cael effaith economaidd, ac mae perygl hefyd i’r clefyd ymledu i rywogaethau eraill fel llus a grug, gan gael effaith fawr ar gynefinoedd blaenoriaeth.

Mae plannu coed yn yr ucheldir hefyd yn achosi bygythiad i rywogaethau sy’n dibynnu ar dirweddau agored. Byddai rhydyddion sy’n magu yn yr ucheldir, fel y gylfinir, y cwtiad aur a’r gornchwiglen yn cael eu heffeithio, a gall hyd yn oed ardaloedd bach o goed, er enghraifft lleiniau cysgodi ar gyfer da byw, effeithio’n ddifrifol ar eu gallu i fagu’n llwyddiannus, os yw’r coed wedi’u plannu yn y lle anghywir.

Erbyn hyn rydym yn deall beth yw risgiau a chostau coetiroedd sydd mewn lleoliadau anaddas ac sydd wedi’u cynllunio’n wael.

Beth allwn ni ei wneud?

Bydd RSPB Cymru yn gofyn i Lywodraeth Cymru sicrhau bod y rhaglen Coedwig Genedlaethol:

  • yn darparu ar gyfer bioamrywiaeth drwy amddiffyn a chysylltu cynefinoedd coetir sy’n bodoli’n barod.
  • yn mynd ymhellach na dim ond plannu coed ac yn ymgorffori cyllid er mwyn rheoli coetiroedd yn well.
  • yn sicrhau bod coetiroedd newydd yn osgoi effaith negyddol ar gynefinoedd blaenoriaeth a’r rhywogaethau y maent yn eu cynnal drwy gadw at egwyddor ‘y goeden iawn yn y lle iawn’.
  • yn blaenoriaethu’r defnydd o rywogaethau brodorol o goed ac aildyfiant naturiol er mwyn sicrhau bod coetiroedd newydd yn darparu cartrefi i fywyd gwyllt brodorol.
  • yn mynd law yn llaw â rhaglen i adfer cynefinoedd agored y mae cynlluniau coedwigo blaenorol wedi cael effaith negyddol arnynt.