Clust i'r ddaear yn COP15

English version available here

Blog gwadd gan Joe Wilkins

Ar ôl cael ei gohirio am fwy na dwy flynedd, o'r diwedd cynhaliwyd pymthegfed Cynhadledd y Partïon yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Amrywiaeth Fiolegol ym mis Rhagfyr. Diolch i’r drefn, mae’r gynhadledd yn fwy adnabyddus fel COP15, sy’n rhyddhad enfawr i ni sydd wedi bod yn dilyn y broses oherwydd mae’r enw llawn hwnnw’n dipyn o lond ceg!

Bu’r ffordd i Montreal yn hir iawn, a dweud y lleiaf! Trefnwyd y gynhadledd ar gyfer mis Mai 2020 i ddechrau, ond cafodd ei gohirio oherwydd pandemig COVID-19. Gan hynny, mae COP15 yn benllanw dros bedair blynedd o drafodaethau anodd, logisteg a oedd yn newid o hyd i ymdopi ag effeithiau’r pandemig, a thirwedd geowleidyddol ansicr.

Er gwaethaf ymdrechion gorau ymgyrchwyr bioamrywiaeth a chyrff anllywodraethol, roedd sylw’r cyfryngau wedi bod yn gymharol gyfyngedig yn y cyfnod cyn y cyfarfod hwn, ac wedi ei roi yn y cysgod, braidd, gan y gynhadledd newid hinsawdd yn yr Aifft a Chwpan y Byd FIFA yn Qatar. Ond cafwyd bwrlwm o weithgarwch pan ddywedodd Christiana Figueres, pensaer Cytundeb Paris, y gallai COP15 gynrychioli “moment Paris” ar gyfer Natur.

Wrth i mi a llawer o gynrychiolwyr eraill deithio i Montreal, roedd un cwestiwn ar ein meddwl: a fyddai’r gynhadledd yn llwyddo? A fyddai’n gwireddu’r datganiad “moment Paris i Natur”? Roedd pythefnos hir o’n blaenau cyn y byddem yn gwybod.

Felly, sut beth oedd bod ym Montreal?

Ar ôl mynd i Gynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig yn Glasgow a chlywed straeon o COP27 yn yr Aifft, gallaf ddweud bod awyrgylch y gynhadledd bioamrywiaeth hon bron a bod yn fyd ar wahân. Wrth gwrs, roedd tensiwn yn y trafodaethau, ac oedd, roedd nifer o ddadleuon rhwng y cynadleddwyr. Ond nid oedd y teimlad bygythiol hwnnw sydd i'w gael gyda’r prosesau hinsawdd. Roedd y digwyddiad ei hun yn llai, a allai fod wedi cyfrannu at hynny. Er hynny, rwy’n meddwl hefyd fod yr unigolion a oedd yn bresennol (gan gynnwys gweinidogion) wedi ymddangos yn fwy agored i drafod.

Nid yw hynny’n golygu nad yw COP15 yn brysur. Mae’n ferw o weithgarwch gyda thrafodaethau, digwyddiadau ymylol ar bopeth o hawliau cynhenid i dechnoleg enetig arbrofol, a stondinau gwledydd, etholaethau a chyrff anllywodraethol. Rwy’n meddwl mai COP15 oedd pythefnos brysuraf fy mywyd! Ar gyfartaledd, roeddwn i’n cerdded 21,000 o gamau y dydd, gan redeg i fyny ac i lawr coridorau’r lleoliad.

I mi, y digwyddiadau ymylol a’r sgyrsiau ynghylch y trafodaethau oedd rhan fwyaf cyffrous y digwyddiad. Dysgais am syniadau a strategaethau nad oeddwn erioed wedi eu hystyried rhyw lawer. Yr un sy’n aros yn y cof yw’r sgwrs gynyddol ynghylch Hawliau Natur, sef yr egwyddor bod gan Natur yr hawl i fodoli a ffynnu. Hyd yma, mae hyn wedi cael ei weithredu’n bennaf yng ngwledydd America Ladin, ond mae wedi ennyn fy niddordeb mewn archwilio sut gallai hyn ddigwydd yng Nghymru.

Fe wnes i gwrdd â Gweinidog Newid Hinsawdd Cymru, Julie James, i drafod ei chynlluniau ar gyfer gweithredu bioamrywiaeth yng Nghymru, a oedd yn arbennig o berthnasol o ystyried argymhellion yr Archwiliad Dwfn o Fioamrywiaeth a’r ffaith bod canlyniadau COP15 yn dal yn ansicr bryd hynny. Cyflwynais hefyd lyfr o leisiau o Gymru a oedd yn eiriol dros Gymru o Blaid Natur, yr oeddem wedi bod yn ei gasglu ynghyd yn y cyfnod yn arwain at y gynhadledd hon.

Fel rhan o Reserva: Dirprwyaeth yr Youth Land Trust, fe wnaethom drosglwyddo llythyrau â llaw gan bobl ifanc o bob rhan o’r byd i gynrychiolwyr yn COP15, gan gynnwys deg gweinidog amgylchedd, pedwar prif negodwr, a naw cyfarwyddwr asiantaethau cyhoeddus, ymysg eraill. Roedd pob amlen yn cynnwys llythyrau unigryw wedi eu hysgrifennu â llaw neu wedi eu teipio gan bobl o dan 26 oed a oedd yn galw ar gynadleddwyr yn COP15 i weithredu yn awr dros Natur. Yng nghanol trafodaethau polisi trwm, nododd llawer o gynrychiolwyr mai’r llythyrau hyn oedd yr hwb oedd ei angen arnynt i barhau i weithio.

Felly i mi, roedd COP15 yn brofiad anhygoel o rwydweithio a rhannu gwybodaeth, ac fe wnes i adael gyda theimlad o optimistiaeth newydd - rhywbeth eithaf prin o ran cynadleddau’r Cenhedloedd Unedig.



Ond beth oedd gwir ganlyniadau COP15?

Fframwaith bioamrywiaeth Byd-eang Kunming-Montreal oedd ffocws canolog y trafodaethau a’r gynhadledd yn ei chyfanrwydd. Mae’n cael ei alw’n “Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang ôl-2020”, ac mae’n gosod canllawiau a thargedau ar gyfer cyflawni gweledigaeth 2050 o fyw mewn cytgord â Natur.

Erbyn hyn, rwy’n gwybod bod llawer o ddadleuon yn erbyn cael cynadleddau o’r fath gyda chynadleddwyr yn teithio o bob cwr o’r byd. Onid ydynt yn rhagrithiol? A yw eu heffaith yn cyfiawnhau’r allyriadau? Ac yn y blaen! Gallaf ddweud â llaw ar fy nghalon eu bod yn hanfodol i lwyddiant y prosesau hyn. Roedd yn teimlo bod mwy o gynnydd wedi ei wneud ar y fframwaith byd-eang newydd mewn pythefnos ym Montreal na thros ddwy flynedd o gyfarfodydd rhithiol o amrywiol weithgorau penagored. Wrth olrhain y sesiynau ar-lein a’r ddau gyfarfod cyn-COP yn Nairobi a Genefa, roeddwn yn amheus a fyddai fframwaith fyth yn cael ei gwblhau. Ar adegau, roedd yn teimlo ein bod yn symud ymhellach oddi wrth gytundeb gyda phob cyfarfod, gyda chwestiynau hollbwysig ynghylch cyllido, rhannu gwybodaeth, a hawliau yn dal heb eu hateb. Roedd pob un ohonom yn gwybod na allai Natur aros fawr hirach ac roedd llofnodi’r fframwaith hwn yn gam hanfodol tuag at wrthdroi colli bioamrywiaeth yn fyd-eang.

Felly, credwch fi pan ddywedaf fy mod i’n teimlo rhyddhad a hapusrwydd enfawr pan drawyd y morthwyl ar ddiwedd y cyfarfod llawn. Roedd pobl yn cofleidio, yn neidio’n llawen, ac mae'n bosibl bod deigryn neu ddau wedi syrthio, hefyd.

Wrth gwrs, nid yw’r fframwaith yn berffaith. Mae’n annelwig mewn mannau, wedi ei lastwreiddio mewn mannau eraill, ac mae’r cwestiwn ynglŷn â chyllid i'w roi ar waith yn dal yn fwgan. Fodd bynnag, gadewais Montreal gydag ymdeimlad gwirioneddol o obaith. Mae’r fframwaith hwn yn bodoli erbyn hyn, ac mae bron pob gwlad ar y Ddaear wedi ei lofnodi. Rydyn ni wedi cael targedau a fframweithiau bioamrywiaeth o’r blaen ond dydw i ddim yn meddwl ein bod ni wedi cael ymwybyddiaeth ar draws y gymdeithas o bwysigrwydd Natur. Roedd natur yn rhywbeth i’r selogion, ond mae newid wedi bod tuag at werthfawrogiad ehangach o’n perthynas â’r byd o’n cwmpas, ac rwy’n credu o ddifri bod mwy o ewyllys i gyflawni’r nodau hyn.

Nid wyf yn ddall yn fy optimistiaeth, gan dybio fod popeth yn iawn erbyn hyn. Gwn fod gennym gryn ffordd i fynd. Ond credaf fod y fframwaith hwn a momentwm COP15 yn gam enfawr i’r cyfeiriad cywir. Rwy’n bwriadu chwarae fy rhan yn y gwaith o’i symud ymlaen ac annog pawb arall i wneud hynny hefyd.