Chwe pheth ni wyddoch chi am albatrosiaid

English version available here

Ddydd Sadwrn 19 Mehefin 2021 yw Diwrnod Albatros y BydEicon gwirioneddol o’r moroedd mawr, mae’r creaduriaid swil hyn yn treulio’r rhan fwyaf o’u hamser yn llithro dros y cefnfor agored.  Fodd bynnag, mae gweithgarwch pobl yn bygwth y crwydriaid cefnforol hyn, sy’n golygu ei bod yn hollbwysig codi ymwybyddiaeth am yr adar hyn.  Felly, i ddathlu’r adar môr godidog hyn, dyma chwe pheth nad oeddech chi’n eu gwybod am albatrosiaid 

1. Mae ganddyn nhw hyd adenydd mwyaf unrhyw aderyn byw.  
 

Gall hyd adenydd yr albatrosiaid mwyaf – yr albatros crwydrol – dyfu i hyd anhygoel o dri metr.  Mae albatrosiaid yn defnyddio eu hyd adenydd i hwylio gwyntoedd y cefnfor am oriau heb ysgwyd eu hadenydd.  Maent yn ehedwyr mor effeithlon, gallant ddefnyddio llai o egni tra byddant yn yr awyr nac y byddent wrth eistedd ar eu nyth!  Mae gwyddonwyr a pheirianwyr yn ymchwilio i weld sut y gellir ailadrodd y strategaeth hedfan hon er mwyn cynllunio awyrennau mwy effeithlon o ran tanwydd.  


2. Gall albatrosiaid fyw nes y byddant yn 70 oed.
 

Mae’r albatros hynaf y gwyddom amdano, albatros Laysan benywaidd, yn 70 oed o leiaf.  Cafodd yr aderyn enwog hwn,  a elwir yn Wisdom, ei modrwyo am y tro cyntaf ym 1956 yn Midway Atol yn Hawaii ac mae’n parhau i fagu cywion yn llwyddiannus yn 2021.  Drwy astudio Wisdom, mae gwyddonwyr wedi sicrhau dealltwriaeth well o sut mae adar môr yn byw a sut gallwn ddiogelu’r adar hyn a’u cynefinoedd yn well.  




3. Mae gan albatrosiaid gasgliad gwych o symudiadau dawnsio.
 

Mae gan albatrosiaid ddefodau paru cywrain ac unigryw. Mae albatrosiaid yn perfformio dawns baru sy’n cynnwys cylchu ei gilydd yn gyflym, plygu, agor eu pig a galw “whoo-ooo” ar ei gilydd.  Mae yna 22 elfen ddawnsio wahanol y gellir eu hadnabod.  Mae’r patrwm o symudiadau yn creu dawns unigryw i bob cwpl, a byddant yn ei defnyddio i adnabod ei gilydd. 


4. Mae yna lawer o wahanol fathau o albatros. 

Mae yna 22 rhywogaeth o albatros, yn amrywio o’r albatros crwydrol, yr albatros mwyaf a mwyaf adnabyddus, i adar prin fel yr albatros cwta.  Mae 15 o’r rhain dan fygythiad o ddifodiad.  Mae wyth rhywogaeth yn cael eu dosbarthu fel rhai mewn perygl neu mewn perygl difrifol.  Y prif fygythiad i’r adar hyn yw pan fyddant yn cael eu dal mewn bachau abwyd pysgota llinell hir.  Mae llygredd plastig yn broblem aruthrol hefyd, gydag albatrosiaid yn aml yn camgymryd balwnau a mathau eraill o blastig am fwyd, sy’n debyg i’r môr lawes.  Mae hyn yn achosi problemau pan fyddant yn cyfogi plastigau i fwydo eu cywion, sy’n achosi i oedolion a chywion lwgu. 

        

5. Gall albatrosiaid ffurfio cyplau o’r un rhyw
 

Mae albatrosiaid Laysan benywaidd yn aml yn paru gyda benywod eraill.  Mae’r parau hyn yn magu cywion gyda’i gilydd ar ôl i’w wyau gael eu ffrwythloni gan wryw.  Mae hyn yn gyffredin iawn mewn nythfeydd sydd â llawer mwy o adar benywaidd nac adar gwrywaidd.  Er enghraifft, ar ynys Oahu yn Hawaii, canfuwyd bod 31 y cant o barau yn gyplau o’r un rhyw.  Er bod cyplau o’r un rhyw yn cael llai o lwyddiannau atgynhyrchu o gymharu â phartneriaethau gwryw-benyw, mae’n  opsiwn gwell na’r dim cywion y byddai adar benywaidd yn eu cynhyrchu heb unrhyw bartner o gwbl! 


6. Gallant fynd am flynyddoedd heb gyffwrdd tir.
 

Mae albatrosiaid yn treulio’r rhan fwyaf o’u bywydau ar y môr a gallant hedfan 16,000 cilomedr heb ddychwelyd i’r tir.  Gall albatros ifanc ddechrau hedfan rhwng tri a deg mis, gan adael y tir ar ôl am rhwng pump a deng mlynedd nes y byddant yn cyrraedd aeddfedrwydd rhywiol ac yn dychwelyd i fagu.  Mae tracwyr GPS wedi galluogi ymchwilwyr i ddarganfod bod albatros penllwyd wedi hedfan y pellter anhygoel o 22,000 cilomedr o amgylch y byd yn hemisffer y de mewn 46 diwrnod. 

I gael gwybod mwy am albatrosiaid, gallwch ddarllen am ein gwaith ar Ynys Gough.