English version available here.
Dros y chwarter canrif ddiwethaf, mae’n wardeiniaid a’n gwirfoddolwyr gwych wedi gweithio’n ddiflino i wneud yr ynys hon, sy’n warchodfa natur, yn hafan i fywyd gwyllt. Heddiw, mae gan RSPB Ynys Dewi amrywiaeth trawiadol o fywyd gwyllt, ac mae miloedd o ymwelwyr yn teithio yno pob blwyddyn i fwynhau’r hyn sydd ganddi i’w chynnig.
Dathlu prydferthwch RSPB Ynys Dewi trwy gelf
I nodi’r garreg filltir bwysig yma, fe wahoddodd wardeiniaid yr ynys, Greg a Lisa Morgan, David Cowdry, arlunydd o Landeilo, i dreulio amser yno i beintio’r bywyd gwyllt a’r golygfeydd sydd i’w weld yno.
Mae gan RSPB Ynys Dewi ddigonedd o olygfeydd anhygoel i ysbrydoli unrhyw artist. Fe allwch ddod o hyd i brydferthwch syfrdanol, moroedd geirwon a thawel, a chytrefi o adar môr swnllyd yn nythu ar glogwyni serth. Mae’r lliwiau a’r atmosffer yn wahanol pob dydd, diolch i’r tywydd sydd wastad yn newid wrth iddo rowlio’i mewn o’r môr. Mae’n gyfuniad perffaith i artist fel David sy’n arbenigo mewn peintio tirluniau.
Fe dreuliodd David dri diwrnod ar yr ynys yng ngwanwyn 2018. Fe dynnodd luniau, brasluniodd y golygfeydd ac ymgollodd yn nheimlad yr ynys fechan a hudolus hon. Ar ôl dychwelyd i’r tir mawr, fe aeth ati i beintio’r bywyd gwyllt arbennig a welodd ar yr ynys.
Fe ddefnyddiodd David baent acrylig, ac mae’r lliwiau a’r graddiant yn gweithio’n dda er mwyn portreadu’r gwahanol fathau o olau sydd i’w gael ar RSPB Ynys Dewi, fel niwl môr trwchus i fachlud yr haul sy’n rhoi ffrwydrad o olau.
Hwb i'r gwaith hanfodol ar yr ynys
Mae’r darluniau hyn yn ffordd ardderchog o ddangos i bobl beth sydd gan RSPB Ynys Dewi i’w gynnig. Fe fyddent hefyd yn helpu mewn ffordd arall. Yn garedig iawn, mae David yn cyfrannu 30% o werthiant pob llun i RSPB Ynys Dewi. Mae cadw a hybu bywyd gwyllt yr ynys, ynghyd â chadw popeth mewn trefn wrth i’r ymwelwyr gyrraedd, yn waith drud. Bydd y cyfraniad hael yma’n llawer o help i wneud yn siŵr fod y gwaith hanfodol yma’n parhau yn y dyfodol.
Mae un o’r peintiadau mwyaf trawiadol (golygfa o RSPB Ynys Dewi o’r awyr, llun y faner uchod) hefyd yn cael ei roi i RSPB Cymru. Mae’n dangos yr ynys wedi ei hamgylchynu gan fôr glas Swnt Dewi, a bydd yn cael ei arddangos yn St Davids Kitchen, Tyddewi.
Mae’r darluniau yn cael eu harddangos mewn arddangosfa gyhoeddus yn Nhyddewi tan 26 Mai, ac yn cael ei gynnal gan ein partneriaid yn St Davids Kitchen. Rydym yn gweithio gyda nhw ar sawl project, fel O’r Fferm i’r Fforc a menter Jin Ynys Dewi. Mae’n wych i weithio gyda nhw eto, ac mae’n braf gweld y lluniau yn cael eu harddangos dim ond ychydig filltiroedd o’r ynys.
Mae’r arddangosfa’n digwydd yn Cathedral Villas, Tyddewi, ac yn rhedeg tan Mai 26. Dilynwch y linc i ddysgu mwy.