To read this blog in English please click here



Barddoniaeth, llefaru, beatbocsio, rapio, graffiti, cerddoriaeth a phlant yn dawnsio gyda brain coesgoch wyth troedfedd o uchder - i gyd yn enw byd natur Cymru. Roedd ddoe yn ddydd i’w gofio.

Mae Sefyllfa Byd Natur Cymru wedi bod ar daith, yn lledaenu negeseuon llym yr adroddiad ers ei diwrnod cyntaf yng Nghanolfan Siopa Sant Elli yn Llanelli ar 15 Medi, cyn diweddu ar Yr Aes yng Nghaerdydd ddoe. Fel un o’r ardaloedd prysuraf yng Nghaerdydd, roedd y lansiad cyhoeddus at ddant bawb. Bu’r cyhoedd yn dangos diddordeb mawr yn ffeithiau’r adroddiad, drwy ofyn cwestiynau a darganfod yr hyn y gallant ei wneud i helpu ffawd byd natur Cymru.

Drwy lansio'r adroddiad mewn digwyddiad cyhoeddus, fe aeth ymhellach. Nid oedd y cyhoedd yn mynychu i dderbyn gwybodaeth am yr adroddiad yn unig. Bu nhw'n cymryd lluniau o'r cynfasau. Bu nhw’n recordio’r perfformiadau byw a'u negeseuon am fyd natur. Bu nhw’n trafod yn ddiddiwedd ar gyfryngau cymdeithasol. Mae'r adroddiad hwn wedi cyrraedd mwy o bobl nag erioed.



Lluniau: Organised Kaos a cynfas Ysgol Gynradd St Bernadette's 

Mae ein lansiad creadigol wedi creu eiddigedd ymysg ymwelwyr Marchnad Camden. O farddoniaeth byw gan Martin Daws (Awdur Llawryfog Pobl Ifanc Cymru 2013-16) ac Aneirin Karadog (Prifardd Eisteddfod Genedlaethol2016), rapio a beatbocsio gan Mr Phormula (Ed Holden), alawon cerddorol gan Ellie Makes Music, graffiti byw gwych gan Millimagic a pherfformiad syrcas unigryw gan Organised Kaos. Roedd hi’n amlwg fod Cymru’n gartref i lu o dalent greadigol.

Cawsom lwyth o sylw gan y wasg ledled sianeli'r BBC a sianeli newyddion Cymreig. Bu ITV Wales yn cynnal cyfweliad arbennig o ysgol gynradd St Bernadette’s yng Nghaerdydd, lle bu’r plant yn brysur yn creu negeseuon unigryw a chreadigol ar gyfer ein cynfas gwenynen - a bu nhw hefyd yn dathlu wythnos-eco cyntaf yr ysgol!

Hoffwn hefyd dynnu eich sylw at lansiad adroddiad y DU yr wythnos diwethaf yn San Steffan yn Llundain. Bu Syr David Attenborough ac Iolo Williams yn cyflwyno ac yn rhoi llais i fyd natur; tra bu Trevor Dines o Plantlife yn cyflwyno araith angerddol a chofiadwy am bwysigrwydd natur i genedlaethau’r dyfodol. Bu’n ymddangos fod Andrea Leadsom, Ysgrifennydd Gwladol yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, yn derbyn bod angen gwneud newidiadau mawr os yw'r DU am wella ei fioamrywiaeth yn y dyfodol.

Lluniau: artist graffiti, Millimagic, rapiwr, Mr Phormula, a'r cyhoedd yn ysgrifennu eu negeseuon ar gyfer byd natur

Ond mae’n bwysig cofio, aethon ni ar y daith hon i wella dyfodol byd natur. Canfu'r adroddiad fod 1 o bob 14 rhywogaeth yng Nghymru wedi diflannu’n llwyr neu'n bron a darfod. Am wlad sy'n aml yn ymfalchïo ac sy’n ddibynnol iawn ar ei hamgylchedd naturiol - nid yw hyn yn ddigon da.

Cytunodd partneriaeth o 50 cyrff cadwraethol cryf fod angen i Gymru roi cynnig ar rywbeth newydd i godi ymwybyddiaeth am gyflwr byd natur. Cyflwynwyd rhywbeth gwahanol a chreadigol gyda'r gobaith o ymgysylltu â chymaint o bobl â phosibl, ac mae'r daith a’r lansiad yn sicr wedi ymateb i’r her yma.

Gan ystyried popeth uchod, gobeithio bydd Sefyllfa Byd Natur Cymru 2016 yn cael effaith parhaol ar fyd natur ac yn ddydd arbennig i’w gofio yn y blynyddoedd i ddod.

 




Lluniau: beirdd Aneirin Karadog, Martin Daws a Mr Phormula