English version available here
I ddathlu dwy flynedd ers i dŵr gwenoliaid duon lawr ym Mae Caerdydd gael ei agor, dyma Alan Rosney o Glwb Adar Morgannwg i hel atgofion am y digwyddiad pwysig a chyffrous hwn!
Mae gwenoliaid duon mewn trafferth. Rhagwelir y bydd yr aderyn hwn yn cael ei ychwanegu at y rhestr goch yn y dyfodol agos. Y rhestr flaenoriaeth cadwraeth uchaf yw’r rhestr goch, lle mae angen gweithredu ar frys ar gyfer rhywogaethau – ac wrth i niferoedd y gwenoliaid duon ddisgyn, gyda cholledion o tua 5% y flwyddyn ar hyn o bryd, mae’n ymddangos y bydd yn anochel y bydd enw’r aderyn hwn yn cael ei ychwanegu at y rhestr, yn anffodus. Os bydd y gostyngiad hwn yn parhau, gallem golli’r wennol ddu fel rhywogaeth sy’n bridio o fewn y 30 mlynedd nesaf.
Tua phum mlynedd yn ôl, cafwyd trafodaethau rhwng Clwb Adar Morgannwg a RSPB Cymru ynghylch sut gallem helpu’r rhywogaeth eiconig hon i adfer. Canlyniad y trafodaethau hyn oedd ein bod wedi cyflwyno cais am grant i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i gael tŵr gwenoliaid duon ar Forglawdd Bae Caerdydd. Bu Awdurdod Harbwr Caerdydd yn hael wrth gyfrannu arian hefyd, a neilltuodd ddarn o dir ar gyfer codi’r tŵr. Tybiwyd bod y morglawdd yn safle da gan fod gwenoliaid duon yn defnyddio’r bae ar gyfer bwydo ac mae ambell bâr yn yr ardal leol yn barod.
Nid yw’r tyrau gwenoliaid duon yn syniad newydd. Roeddent yn gymharol gyffredin yn yr Eidal yn yr oesoedd canol. Fodd bynnag, nid oedd pwrpas y tyrrau hyn yn anhunanol - mae’n debyg bod y wennol ddu yn eithaf blasus. Mae’r syniad modern yn ymwneud â chadwraeth. Gallai’r tyrau ddisodli’r safleoedd nythu sy’n cael eu colli ar hyn o bryd. Mae gwenoliaid duon yn nythu mewn ceudodau mewn waliau a thoeon, ac mae mannau fel y rhain yn diflannu o ganlyniad i ailddatblygu adeiladau modern.
Y gobaith yw y bydd y wennol ddu yn mynd i nythu mewn tyrau, fel y gwelwyd gyda'r wennol borffor yn yr Unol Daleithiau. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae nifer o dyrrau wedi cael eu codi drwy gyfandir Ewrop gyda rhywfaint o lwyddiant. Daeth y dyluniad o’n dewis gan benseiri o Wlad Pwyl, Menthol, ac mae siâp ‘Y’ y tŵr yn cynrychioli adain aderyn.
Yn dilyn cais llwyddiannus i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, cafodd y tŵr ei ddanfon a’i osod ar 16 Mai 2019. Daeth Arglwydd Faer Caerdydd, Dianne Rees a hyrwyddwr gwenoliaid duon y Senedd, Jenny Rathbone, i’r lansiad, ynghyd â chynrychiolwyr o Glwb Adar Morgannwg, RSPB Cymru ac Awdurdod Harbwr Caerdydd.
Mae galwad sy’n denu gwenoliaid duon wedi cael ei osod yn y tŵr, i ddenu adar i archwilio’r blychau nythu - mae 90 ohonynt yno i gyd. Nid oeddem yn disgwyl i’r gwenoliaid duon ddefnyddio’r tŵr am ychydig o flynyddoedd, gan fod parau’n ffyddlon i safleoedd, ac mae’n debygol mai dim ond adar ifanc fyddai’n cael eu denu i’r tŵr ac nid ydynt yn bridio nes byddant yn dair neu bedair oed o leiaf. Sylwyd ar wenoliaid duon yn dod at y tŵr yn 2019 (yn anffodus, ni wnaed unrhyw waith monitro yn 2020 oherwydd cyfyngiadau Covid) ac rydym yn disgwyl yn eiddgar am dymor bridio 2021.
Yn ogystal â chodi’r tŵr, rydym wedi bod yn cynnal arolwg ledled Caerdydd i asesu nifer y gwenoliaid duon sydd gennym yn y ddinas. Nid yw’r darlun yn un gwych. Mae gwenoliaid duon yn tueddu i ffafrio adeiladau hŷn ac wrth i rannau o’r ddinas gael eu hadnewyddu, mae safleoedd y nythod yn cael eu colli. Mae’r crynhoad mwyaf o wenoliaid duon yn ardal Trelái, o bell ffordd, ac yn yr haf dylech weld a chlywed y gwenoliaid duon yn sgrechian uwchben – sŵn yr haf.
Helpwch ni i gofnodi a diogelu safleoedd nythu gwenoliaid duon drwy ddefnyddio mapiwr gwenoliaid duon