To read this blog in English please click here
Fe wnaeth bron i 24,000 yng Nghymru gymryd rhan yn Gwylio Adar yr Ardd yr RSPB 2018, gan lwyddo i gyfrif 431,747 o adar - gan weld rhai newidiadau cyffrous a diddorol ymysg ein hadar mwyaf poblogaidd.
Llun: Titw penddu, Ray Kennedy rspb-images.com
Ni wnaeth y tywydd gwlyb ar ddechrau penwythnos Gwylio Adar yr Ardd eleni rwystro’r adar rhag dod i’n gerddi a’n mannau gwyrdd, a gwelodd y cyfranogwyr adar cyffredin a rhai anghyffredin. Aderyn y to oedd yr aderyn a welwyd amlaf mewn gerddi yng Nghymru unwaith eto. Cafodd ei weld 6.1 o weithiau ym mhob gardd ar gyfartaledd, a daeth y titw tomos las i’r ail safle, gan ennill y blaen ar y ddrudwen.
Eto eleni, yr ymwelwyr mwyaf cyffredin yn ein gerddi oedd yr aderyn du a’r robin goch, a gafodd eu gweld mewn bron i 90% o erddi yng Nghymru. Cafwyd cynnydd yn nifer y titw cynffon hir (+26.4%) a’r titw penddu (+20.4%) a welwyd.
Newyddion da arall yw bod cynnydd yn nifer y pila gwyrdd (+28.7%) a’r dryw eurben (+14%) a welwyd mewn gerddi yng Nghymru. Fodd bynnag, mae’r arolwg yn dangos bod cwymp yng nghofnodion y mwyalchen (-12.6%) a llwyd y berth (-7.3%), o’i gymharu â ffigurau y llynedd.
Mae Gwylio Adar yr Ardd yn rhoi data gwerthfawr i ni a fydd yn ein helpu ni i gael gwell darlun o sefyllfa'r adar yn ein gerddi. Rydym yn credu bod y cynnydd yn nifer y titw penddu a'r titw cynffon hir yn gysylltiedig â thymor nythu llwyddiannus yn 2017, ynghyd â’r math o dywydd a gafwyd yn ystod y cyfnod cyn Gwylio Adar yr Ardd. Mae’n debygol bod y tymheredd cynhesach yn ystod yr hydref a’r gaeaf wedi’i gwneud yn haws i’r adar hyn ddod o hyd i fwyd. Byddai hynny wedi bod yn anoddach yn ystod y gaeafau oerach diwethaf oherwydd y rhew a'r eira.
Sylwodd plant ysgol y wlad ar batrwm tebyg wrth gymryd rhan yn Gwylio Adar yr Ysgol yr RSPB 2018 rhwng 2 Ionawr a 23 Chwefror. Yng Nghymru, roedd dros 2,700 o blant ysgol yn rhan o’r arolwg a gynhelir ledled y DU, gan dreulio awr yn cyfri’r adar a oedd i’w gweld ar dir eu hysgol. Yr aderyn du oedd yr aderyn mwyaf cyffredin ar iard yr ysgol y tro hwn, gan neidio o'r pedwerydd safle yn 2017 - gan adael y ddrudwen yn yr ail safle a’r frân dyddyn yn y trydydd safle.
Mae'r cysylltiad rhwng cenedlaethau ifanc a’r bywyd gwyllt sydd ar garreg eu drws yn bwysicach nawr nag erioed. Gyda mwy o adar nag erioed ar y Rhestr Goch yng Nghymru, mae gwyddoniaeth dinasyddion yn rhan allweddol o benderfynu ar gyflwr ein poblogaethau adar.
Gobeithio na fydd y tywydd oer diweddar yn effeithio ar boblogaethau'r adar bach anhygoel hyn, a byddwn ni i gyd yn eu gweld yn ôl yn ein gerddi y flwyddyn nesaf. Drwy wneud ein rhan i'w helpu nhw, rydym yn gobeithio y gallwn ni gyfrannu at y gwaith o wrthdroi rhai dirywiadau.
I gael crynodeb llawn o holl ganlyniadau Gwylio Adar yr Ardd yr RSPB, ac i weld pa adar oedd yn ymweld â gerddi yn eich ardal chi, ewch i www.rspb.org.uk/birdwatch
Dyma'r 10 uchaf yng Nghymru.
Safle 2018
Rhywogaethau
Cyfartaledd pob gardd yn 2018
% gardd 2018
Cyfartaledd pob gardd yn 2017
Safle 2017
% gardd 2017
% newid 2017-2018
% newid mewn % gardd a gofnodwyd 2017-2018
1
Aderyn_y_to
6.1
78.2
5.9
78.8
4.6
-0.8
2
Titw_tomos_las
3.6
81.8
3.3
3
82.1
9.4
-0.5
Drudwen
45.8
3.5
47.6
2.3
-3.7
4
Mwyalchen
2.4
88.8
2.7
92.6
-12.6
-4.2
5
Ji-binc
2.1
53.7
2.2
53.6
-1.2
0.0
6
Titw_mawr
1.9
63.6
1.8
62
7.0
2.6
7
Titw_cynffon_hir
1.7
33.7
1.4
11
31.3
26.4
7.8
8
Robin_goch
1.6
88.7
92.2
-9.8
-3.8
9
Nico
31.1
31.6
-1.5
-1.4
10
Jac-y-do
1.3
32.8
34.9
-2.4
-6.2