Cadwraeth ar y Carneddau

English version available here

Mae 'na brosiect cyffrous ar y gweill ar un o gadwyni mynyddoedd mwyaf Cymru a dyma Jack Slattery, un o Swyddogion Cadwraeth RSPB Cymru, i ddweud mwy wrthym amdano.

Mae'r Carneddau yn gadwyn o fynyddoedd mawreddog wedi'u lleoli ym Mharc Cenedlaethol Eryri yng ngogledd Cymru. Mae'r dirwedd ryfeddol hon, sydd wedi'i siapio gan dywydd eithafol a daeareg yn ogystal â bodau dynol, yn gartref i ystod eang o fywyd gwyllt.

Bywyd gwyllt prin

Mae Carnedd Llewelyn, yr ail gopa uchaf yng Nghymru, a'r copaon mynyddoedd cyfagos, yn lloches i blanhigion Arctig-Alpaidd prin fel lili'r Wyddfa a'r tormaen porffor. Daethant i'r Carneddau wedi'r Oes Iâ diwethaf, dros 10,000 o flynyddoedd yn ôl. Mae'r copaon hyn hefyd yn lle da i wylwyr adar i chwilio am hutan y mynydd. Bob gwanwyn, mae'r adar hyn yn oedi yma am ychydig wrth iddyn nhw fudo i'r gogledd. Mae rhostiroedd y mynyddoedd yma yn debyg iawn i'r rhai lle maen nhw'n nythu yn Ucheldiroedd yr Alban.

Hanes cyfoethog

 Mae dylanwad dynol ar y dirwedd hon yn haws i'w weld islaw'r copaon lle mae cynefinoedd fel glaswelltir, ffridd, rhostir a gorgors wedi eu rheoli a'i siapio gan bori da byw am filoedd o flynyddoedd. Mae haneswyr yn credu bod merlod eiconig y Carneddau wedi bod yn byw yma ers yr Oes Efydd.

Mae pori priodol yn hanfodol i gadwraeth nifer o rywogaethau prin sydd dan fygythiad. Mae brain coesgoch yn ddibynnol ar borfa fer i'w galluogi i fwydo ar infertebratau yn y pridd ac mewn tail. Mae planhigion sy'n bwyta pryfed fel chwys yr haul a thafod y gors yn tyfu ar orgors ar lethrau Llwytmor, ac mae'r ffriddoedd yn cynnig mosäig o laswellt, grug, rhedyn a phrysgwydd ar gyfer mwyeilch y mynydd gael nythu a bwydo ynddynt. Mae gweirgloddiau, sy'n gartref i gymuned amrywiol o flodau gwyllt, yn cynnal y boblogaeth olaf o linosod y mynydd yng Nghymru.

Yn ogystal â ffermio, mae mwyngloddio hefyd wedi cynnig cyfleoedd i fywyd gwyllt yn y Carneddau. Mae safleoedd nythu artiffisial sy'n debyg i rai naturiol wedi'u creu ar gyfer nifer o adar gan gynnwys brain coesgoch, cigfrain a hebogau tramor.

Projectau ar y gweill

Mae Partneriaeth Tirwedd y Carneddau yn gynllun sy'n cael ei ariannu  gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol i ddathlu treftadaeth naturiol a diwylliannol y Carneddau ac i warchod eu rhywogaethau a'u cynefinoedd pwysicaf. Bydd RSPB Cymru yn canolbwyntio ar warchod brain coesgoch a llinosod y mynydd.

Yn ddiweddar, cofnodwyd 11 pâr o frain coesgoch yn nythu yn y Carneddau. Dyma 5% o gyfanswm poblogaeth Cymru. Mae cyllid ar gael trwy Bartneriaeth Tirwedd y Carneddau i dracio brain coesgoch gyda chofnodwyr GPS er mwyn i ni allu datblygu gwell ddealltwriaeth o'u hecoleg a'u defnydd o gynefinoedd trwy gydol y flwyddyn. Bydd hyn yn llywio cynlluniau cadwraeth ar eu cyfer yn y dyfodol.

Rydym eisoes yn gwybod mai un o'r prif fygythiadau sy'n wynebu brain coesgoch yw bod eu safleoedd bwydo traddodiadol yn cael eu dominyddu gan eithin. Trwy gyd-ddigwyddiad, mae eithin hefyd yn niweidio nifer o Henebion Cofrestrig yn yr un rhannau o'r Carneddau. Yn ystod y cynllun hwn, bydd llystyfiant yn cael ei glirio ar draws y dirwedd a fydd yn cynyddu faint o dir sydd ar gael i frain coesgoch i fwydo a hefyd yn amddiffyn yr Henebion Cofrestrig. Bydd infertebratau hefyd yn cael eu monitro i ddeall effeithiau clirio'r llystyfiant ar eu hamlder a'u dosbarthiad.

Mae'r boblogaeth olaf o linosod y mynydd sy'n nythu yng Nghymru i'w gweld ar waelod Cwm Ogwen, sydd i'r de-orllewin o fynyddoedd Carneddau. Yn ystod y tymor nythu, mae llinosod y mynydd yn dibynnu ar ddolydd gwair sy'n llawn rhywogaethau gwahanol am eu bwyd. Gan fod mathau gwahanol o blanhigyn yn cynhyrchu hadau ar wahanol adegau o'r flwyddyn, mae dolydd gwair bioamrywiol yn sicrhau bod gan linosod y mynydd sy'n nythu gyflenwad cyson o fwyd. Byddwn yn gweithio'n agos gyda rheolwyr tir i adfer dolydd gwair llawn rhywogaethau a sicrhau bod cyfundrefnau pori priodol yn cael eu gweithredu er mwyn cynnig bwyd i linosod y mynydd drwy gydol y gwanwyn a'r haf.

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am Bartneriaeth Tirwedd y Carneddau.