English version available here
Bob blwyddyn, bydd Cymru’n croesawu adar môr o bob cwr o’r byd. O’r pâl i’r llurs i’r fulfran wen a’r gwylog, gwenoliaid y môr lu ac adar drycin Manaw – mae’r haf yn golygu ein bod yn cael gweld yr adar ardderchog hyn yn dychwelyd i aros gyda ni am gyfnod.
Ond oherwydd bod yr adar a enwir uchod mor boblogaidd mae un aderyn sydd efallai’n cael llai o sylw – y pedryn drycin!
Mae’n llai na’r aderyn du, ond yn fwy nag aderyn y to - mae’r pedryn drycin yn aderyn môr du bach sydd â chrwmp gwyn ac adenydd crwn sy’n cael eu dal yn stiff – mae’n ysgwyd ei adenydd yn gyflym yn debyg i ystlum, gyda chyfnodau o gleidio. Mae’n wahanol i bedryn drycin Leach, oherwydd bod ei gynffon yn sgwâr yn hytrach na chynffon fforchog. Fel llawer o adar môr, maen nhw’n gwledda ar gramenogion a physgod, a byddan nhw’n teithio mewn heidiau yn dilyn cychod pysgota mawr. Mae’n debyg eich bod yn fwy tebygol o weld yr aderyn hwn o bell yn bwydo ar y tonnau - pan maen nhw’n bwydo, byddan nhw’n hongian gan godi eu hadenydd i greu siâp ‘V’ ac yn defnyddio’u traed i bitran ar y tonnau, ac weithiau byddan nhw’n setlo ar y môr. Felly, pa ran mae ynysoedd Cymru yn ei chwarae ym mywydau’r adar diddorol hyn? Wel, mae’r pedryn drycin yn nythu mewn holltau a thwyni, gan rannu mynedfeydd ag adar môr eraill weithiau (fel pâl neu aderyn drycin Manaw) neu gwningod – ac mae’n dodwy un wy gwyn, ar bridd moel fel arfer. Ac felly, mae ynysoedd fel Ynys Dewi’r RSPB yn hafan nythu perffaith i’r adar bach hyn. Bydd y ddau aderyn yn rhannu’r amser o ddeori’r wy, ynghyd â’r dyletswyddau bwydo pan fydd y cyw yn cyrraedd. Er ein bod yn gweithio’n galetach nag erioed i gadw ysglyfaethwyr ymledol oddi ar ein hynysoedd, mae’r pedryn drycin hefyd yn darged i adar mwy fel gwylanod, sgiwennod a hyd yn oed tylluanod a hebogiaid sy’n byw ar yr ynysoedd. Ac er bod y twyni’n eu cadw’n ddiogel oddi wrth beryglon o’r awyr, mae bywyd yn gallu bod yn anodd i’r pedryn drycin o dan y ddaear hefyd. Oherwydd eu bod yn fach, maen nhw’n cael eu lladd weithiau gan bâl neu aderyn drycin Manaw os ydynt yn mentro’n rhy agos at eu tiriogaeth nythu. Nid yw’r pedryn drycin yn gallu cerdded yn dda ar y tir – byddan nhw’n ymlusgo ar eu tarsi (canol a chefn eu traed) ac yn defnyddio eu hadennydd i’w helpu i fynd ar flaenau eu traen pan fydd lle. Ond er bod hyn yn eu dal yn ôl ychydig, mae ganddyn nhw nodwedd unigryw arall sy’n eu helpu i ddod o hyd i’w nythod yn y nos. Mae ganddyn nhw fwlb arogli mawr ar eu pig sydd, yn wahanol i’r rhan fwyaf o adar, yn rhoi synnwyr arogli da iddynt. Mae’r bwlbiau arogli hyn yn eu helpu i arogli ei gilydd, gan fod pedrynod drycin yn arogli o lwydni. Mae hyn yn golygu eu bod yn gallu adnabod ei gilydd a bod adaregwyr sydd eisiau ymchwilio iddynt yn gallu eu harogli hefyd.
Yn anffodus, fel nifer o adar mudol eraill, mae diwedd yr haf yn golygu y byddwn ni’n ffarwelio â’r pedryn drycin. Byddant yn cychwyn ar daith epig i’r dyfroedd oddi ar Dde Affrica a Namibia, gan dreulio misoedd y gaeaf yno. Felly, os ydych chi’n awyddus i weld yr adar môr bach hyfryd hyn, bydd yn rhaid i chi fod yn gyflym a chyrraedd arfordir Cymru cyn bo hir!