Bywyd gwyllt yn cael eu hudo gan lonyddwch safle RSPB Cors Ddyga

English version available here.

Mae'n anodd credu bod dwy flynedd wedi mynd heibio ers agor llwybr ymwelwyr newydd yn RSPB Cors Ddyga.

Mae’r ariannu hael a gawsom gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi rhoi’r cyfle i ni greu prosiect i wella'r cynefinoedd ar gyfer rhywogaethau prin a rhai dan fygythiad, ac ar yr un pryd, gwella profiad ymwelwyr gan ganiatáu i ni gysylltu â’r rhai oedd llai cyfarwydd â'r safle yn flaenorol. Mae'r llwybr sydd wedi ei gyfeirio yn eich tywys heibio gwelyau cyrs y warchodfa ac adfeilion Pwll Glo Berw - un o'r safleoedd olaf i’n hatgoffa o ddiwydiant glo Ynys Môn ac sydd bellach yn Heneb Gofrestredig Hynafol. Heddiw, mae llwybrau cerdded cyhoeddus a llwybr beicio Lôn Las Cefni yn galluogi ymwelwyr i fwynhau'r glaswelltiroedd agored a’r gwelyau cyrs mwy o faint ar ochr ddeheuol y warchodfa.

Yn y gwanwyn a'r haf, clywir synau'r gornchwiglen, y gylfinir a'r ehedydd yn llenwi’r awyr uwchben. Symuda bod y gwerni yn osgeiddig uwchlaw gwely cyrs, a chlywir sŵn ‘bŵm’ dwfn yr aderyn y bwn swil. Yn yr hydref, gall fod cymaint â 100,000 a mwy o ddrudwy yn clwydo; ac os yw'r warchodfa yn gorlifo â dŵr yn y gaeaf, ceir miloedd o adar dŵr a rhwydwyr yn gwledda ar y nifer helaeth o hadau a phryfed wedi’u golchi i’r lan am gyfnod byr. Mae olion dyfrgwn, ysgyfarnogod, a llygod pengrwn y dŵr i'w darganfod, a chyfle i weld yr anifeiliaid hyn i’r rhai ffodus. Mae botanegwyr yn mwynhau amrywiaeth o blanhigion dyfrol prin ar y safle yn ogystal ag arddangosfa odidog o flodau'r gwanwyn, sy’n gwneud y tirlun yn un arbennig dros ben. Yn hela ymhlith y planhigion mae 17 o rywogaethau o weision neidr gan gynnwys yr ymerawdwr a gwas y neidr eurdorchog - y ddau fwyaf o’u rhywogaeth yn y DU. Mae hefyd yn le gwych i weld gloÿnnod byw cyffredin.

Gwarchodfa wedi'i llenwi â chynefin bywyd gwyllt pwysig

Gorwedda RSPB Cors Ddyga o fewn cynefin gwlyptir fwyaf Ynys Môn. Nid yn unig mae'r cynefin hwn yn eithriadol o bwysig i'r ecosystem leol, mae hefyd yn cyfrannu at system o wlyptiroedd ledled y DU sydd dan bwysau oherwydd y newid yn yr hinsawdd, diffyg rheolaeth a datblygiad. Am y rhesymau hyn, nod y warchodfa yw rhoi profiad mor naturiol â phosibl i ymwelwyr - llecyn o fwynhad distaw.

 Mae profiadau ymwelwyr yn RSPB Cors Ddyga yn cyd-fynd â phrofiadau tebyg sydd wedi datblygu yn RSPB Ynys Lawd ac RSPB Conwy. Mae'n cael ei werthfawrogi'n fawr gan bobl leol a phobl frwdfrydig dros fyd natur sy’n dymuno taith gerdded trwy gefn gwlad rhagorol yn llawn bywyd gwyllt, a phrofiad gwahanol i'r gwarchodfeydd sy'n denu nifer o bobl. Mae'r tirluniau eang lle yn aml gwelir adar gwefreiddiol yn hedfan uwchben, a diffyg canolbwyntiau bywyd gwyllt, yn golygu bod y warchodfa ar ei gorau pan fyddwch yn cerdded trwyddo’n dawel ac yn gwneud darganfyddiadau ar y ffordd.

Mae natur sensitif cynefinoedd Cors Ddyga a’i awyrgylch llonydd a distaw yn golygu bod y tîm yma yn hynod ofalus o'r gwaith y maent yn ei wneud ar y warchodfa, a chadw seilwaith ar gyfer ymwelwyr yn syml. Mae'r staff cadwraeth sy'n rheoli’r safle yn aml yn bresennol ac yn hapus i sgwrsio gydag ymwelwyr sy’n galw heibio. Cofiwch ddweud helo wrthyn nhw pan fyddwch chi’n ymweld â’r safle a gofynnwch am eu gwaith anhygoel yno ac am y bywyd gwyllt maen nhw'n ei amddiffyn – mae’r tîm hefyd yn hoffi clywed am ba fywyd gwyllt rydych chi wedi'i weld yn y warchodfa.