English version available here
Beth yw rhywogaeth estron oresgynnol?
Mae unrhyw anifail neu blanhigyn anfrodorol sydd ddim yn gynhenid i ardal arbennig. Mae nifer o rywogaethau anfrodorol yn manteisio ar amgylchedd newydd ac yn ymledu, ac felly’n achosi niwed i fywyd gwyllt. Mae INNS, yn enwedig cnofilod (rodents), yn fygythiad enfawr i adar y môr sy'n byw ar ynysoedd ledled y byd. Beth am edrych ar rai enghreifftiau o rywogaethau estron goresgynnol sy'n effeithio ar ein bywyd gwyllt yma yng Nghymru.
Corchwyn Seland Newydd (New Zealand pygmyweed)
Mae corchwyn Seland Newydd, sy'n cael ei adnabod gan amlaf gan ei enw gwyddonol Crassula helmsii, yn blanhigyn dyfrol sydd cael effaith fawr ar nifer o gynefinoedd. Mae’n broblem ar nifer o safleoedd RSPB, gan gynnwys gwarchodfa RSPB Conwy yng ngogledd Cymru. Mae corchwyn Seland Newydd yn gorchuddio ac yn mygu gwaelod pyllau dŵr ac yn tynnu'r ocsigen o'r mwd lle mae adar rhydio fel y gylfinir a'r rhostog gynffonddu yn bwydo.
Rhododendron ponticum
Efallai ei fod yn hardd, ond mae’r planhigyn estron goresgynnol yma’n cael effaith sylweddol ar ein bywyd gwyllt brodorol. Gall dyfu hyd at wyth metr o daldra ac mae ei waelod yn ymledu sydd golygu ei fod yn blocio golau'r haul rhag cyrraedd llawr coetiroedd a'r blodau sy'n tyfu yno. Mae hyn wedyn yn effeithio ar bryfed sy'n bwydo arnyn nhw ac, yn y pen draw, ar adar fel y gwybedog brith a'r tingoch.
Ond, mae rhywfaint o newyddion da. Mae prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru yn gweithio'n galed i gael gwared ar y rhododendron o rai o'n coetiroedd mwyaf arbennig. Mae hyn wrth gwrs yn cymryd amser a chynllunio gofalus a chryn dipyn o fôn braich.
Cytrefi adar môr
Nid planhigion estron goresgynnol yn unig sy'n effeithio ar ein bywyd gwyllt. Mae yna rai anifeiliaid sy'n fygythiad enfawr i fywyd gwyllt hefyd. Un enghraifft drawiadol yw cnofilod (rodents) ar nythfeydd adar y môr ledled y byd. Pan fydd llygod mawr a llygod yn llwyddo i gyrraedd ynysoedd (yn aml wedi'u cludo yn ddiarwybod mewn cychod a llongau) maen nhw'n creu hafoc drwy fwyta wyau a chywion. Mae hyn wedi bod yn wir ar rai o'r ynysoedd oddi ar arfordir Cymru. Dioddefodd nythfeydd pwysig o balod ar Ynys Dewi ac Ynys Seiriol golledion enfawr oherwydd pla o lygod mawr. Does dim llygod mawr ar y ddwy ynys bellach a fydd, gobeithio, yn rhoi cyfle i balod nythu'n ddiogel yno unwaith eto.
Un prosiect sy'n edrych yn benodol ar y mater hwn yn y Deyrnas Gyfunol yw Bioddiogelwch LIFE. Ei nod yw rhoi mesurau bioddiogelwch ar waith ar ynysoedd adar y môr yma. Mae'r prosiect yn gweithio gydag ystod eang o randdeiliaid i godi ymwybyddiaeth o'r bygythiad y mae ysglyfaethwyr estron goresgynnol yn ei gael ar ynysoedd sy'n gartref i adar y môr. Yma yng Nghymru, mae Ynysoedd y Moelrhoniaid oddi ar arfordir Ynys Môn ac Ynys Gwales yn Sir Benfro (ill dau yn cael eu rheoli gan RSPB Cymru) yn rhan o'r prosiect, yn ogystal ag ynysoedd Ynys Enlli, Ynys Seiriol, Sgogwm a Sgomer.
Nid yw'r broblem hon yn debygol o ddiflannu, yn enwedig gyda newid yn yr hinsawdd yn ei gwneud hi'n haws i rywogaethau anfrodorol sefydlu mewn ardaloedd newydd. Ond gellir delio ag hyn. Yr ateb gorau fyddai atal bywyd gwyllt anfrodorol rhag cyrraedd yn y lle cyntaf, a phan fydd yn digwydd, gweithredu'n gyflym i sicrhau bod ein cynefinoedd bregus ddim yn cael eu bygwth. I ddarganfod mwy am hyn, dilynwch y ddolen hon.
Delweddau:
Clawr: Rhododendron ponticum
Ail: Cael gwared ar rhododendron ponticum i amddiffyn coed derw brodorol yn y prosiect Coedwig Law Geltaidd
Trydydd: Ar rai ynysoedd, mae pâlod wedi dioddef o ysglyfaethu gan lygod mawr, ond gyda’r ynysoedd yn rhydd o lygod erbyn hyn, rydym yn gobeithio y byddant yn dychwelyd.