Bywyd gwyllt Cymru’n deffro!

English version available here   

Gam wrth gam, mae’r dyddiau’n ymestyn a’r tywydd yn cynhesu. Mae’r gwanwyn yma! Dyma amser arbennig o’r flwyddyn. Fel y mae pelydrau’r haul yn dwysau, mae ei ddylanwad ar y natur sy’n ein hamgylchynu yn amlygu ei hun fwyfwy. Mae blodau’n blodeuo, coed yn blaguro, adar yn nythu a magu, ac anifeiliaid yn deffro wedi gaeafgwsg hir. Mae’n amser prysur i fywyd gwyllt, a bydd yr amrywiol gynefinoedd ar hyd a lled ein gwlad yn fwrlwm o weithgaredd. Dyma gipolwg ar rai o’r golygfeydd godidog y gallwch eu gweld yng Nghymru'r gwanwyn yma.


Coetiroedd yn deffro

Gyda’r tywydd yn cynhesu, mae’n coed a’n blodau’n dechrau blodeuo. Mae’n olygfa ysblennydd, gyda’n coetiroedd yn ffrwydro’n gawod o liwiau. Mae’r carpedi clychau’r gog sy’n addurno’r cynefinoedd yma yn olygfeydd i’w croesawu wedi llymder y gaeaf.

Mae RSPB Ynyshir ac RSPB Llyn Efyrnwy yn llefydd gwych i weld y wledd i’r llygad yma. Mae’r gwarchodfeydd yma hefyd yn llefydd da am wybedogion brith a thelorion y coed. Mae’r adar coedwig yma’n dychwelyd i Gymru wedi treulio’r gaeaf yn Affrica, a gallwch eu clywed yn canu nerth eu pennau ar ddechrau’r gwanwyn wrth sefydlu’i hunain ar gyfer y tymor magu.


Adar môr yn dychwelyd i’w dinasoedd ar y clogwyni

Wedi goroesi’r gaeaf drwy fwydo allan ar y môr agored, bydd llawer o adar môr yn dechrau dychwelyd i’w hardaloedd magu yn y gwanwyn. Bydd gweilch y penwaig a gwylogod, gyda’u plu duon trawiadol, unwaith eto’n olygfa gyffredin ar glogwyni RSPB Ynys Lawd ac RSPB Ynys Dewi. Yn ymuno â nhw bydd gwylanod coesddu, adar drycin y graig a gwylanod, gan greu awyrgylch swnllyd wrth iddynt glwydo’n eu nythod ar ymyl y dibyn.

 


Mae huganod hefyd yn dychwelyd i’w cadarnle ar RSPB Ynys Gwales. Treuliant eu gaeafau’n bwydo oddi ar arfordir gorllewinol Affrica, gan ddychwelyd i fagu ar yr ynys fechan greigiog i’r gorllewin o Ynys Dewi. Efallai nad yw’r darn o graig yma sy’n ymwthio o’r môr yn llawer o faint, ond mae 36,000 o barau o huganod yn nythu yma bob blwyddyn. Maent yn gadael eu hargraff hefyd, gyda hanner yr ynys wedi’i gorchuddio’n garped trwchus gwyn gan eu baw! Mae gwylio’r adar ceinwych hyn yn pysgota, gyda’u cyrff mawrion, eu gyddfau a phigau hirion, a’u pennau melynion nodedig, yn olygfa hynod hefyd.


Ymfudwyr estron

Bydd adar fel telorion y coed, y cyrs a’r hesg wedi treulio’u gaeafau yn Affrica, ond cyn bo hir byddant yn cychwyn ar y daith hir yn ôl i Gymru. Mae’n gamp ryfeddol i’r adar bychain yma. Os llwyddant i gyrraedd yn ddiogel, mae siawns dda y gwelwch nhw ymysg gwelyau cyrs RSPB Cors Ddyga, Gwlyptiroedd Casnewydd a Chonwy. Cadwch lygad yn ogystal am wenoliaid, gwenoliaid duon a gwenoliaid y bondo. Mae’r adar yma hefyd yn ymfudo o Affrica, ac yn treulio’r rhan fwyaf o’u hamser yn ehedeg. Gallant gyrraedd mor fuan ag Ebrill, ac mae sŵn sgrech y wennol ddu fry uwchben yn arwydd pendant fod y gwanwyn wedi cyrraedd!



Profi’r gwanwyn yn ei holl ogoniant

Gallwch dystio i lawer o’r golygfeydd godidog yma o fywyd gwyllt wrth ymweld â’n gwarchodfeydd ar hyd a lled y wlad. Bydd gwarchodfa RSPB Ynyshir, sy’n dathlu ei 50fed pen-blwydd eleni, yn cynnal digwyddiadau arbennig i roi cyfleoedd i bobl gael profi bywyd gwyllt y gwanwyn, megis teithiau cerdded côr y wawr. Bydd digwyddiadau hefyd yn cael eu cynnal yn RSPB Conwy, Llyn Efyrnwy, Gwlyptiroedd Casnewydd, Ynys Dewi ac Ynys Lawd. Dewch o hyd i’ch gwarchodfa leol ac ewch allan i fwynhau bywyd gwyllt anhygoel Cymru!