To read this blog in English please click here

Cymrwch gipolwg ar fyd Ben Dymond wrth iddo dreulio ail haf fel un o Wardeiniaid Ynysoedd y Moelrhoniaid, ar ôl cyfnodau’n gwirfoddoli yn RSPB Llyn Efyrnwy ac RSPB Haweswater.

Mae byw ochr yn ochr â rhywogaethau prin ar ynysoedd pellennig am bedwar mis yn brofiad cwbl anhygoel. Mae’r môr-wenoliaid fel teulu i mi, a fyddwn i fyth yn methu ar y cyfle i’w gweld yn agos. Roedd seiniau a naws Ynysoedd y Moelrhoniaid wedi tanio fy nychymyg, ac rwyf mor falch o fod yn ôl yma.

Mae’r grŵp o ynysoedd creigiog hyn yn y môr ger Ynys Môn yn gartref i nythfa eofn sy’n ddigon â byddaru rhywun. Mae glannau’r ynysoedd yn bwysig yn rhyngwladol ac yn gartref i fôr-wenoliaid y Gogledd, môr-wenoliaid cyffredin, ac yn 2016, môr-wenoliaid gwridog prin. Diolch i arian ychwanegol gan broject Roseate Tern LIFE Project, maen nhw wedi ymestyn tymor y wardeiniaid ar yr ynysoedd ac wedi cael offer newydd i helpu i ddenu’r môr-wenoliaid gwridog yn ôl.

Mae ein prif ddyletswyddau fel Wardeiniaid ar yr ynysoedd yn amrywio. Mae pob diwrnod yn wahanol, ac mae’r profiadau rydyn ni’n eu cael yma yn anhygoel. Rydyn ni’n creu adar denu môr-wenoliaid, yn gofalu am fannau abwyd cnofilod ac yn monitro’r holl rywogaethau sy’n bridio ar yr ynys, neu hyd sydd ddim ond yn ymweld â’r ynys - sy’n cymryd cryn dipyn o amser wrth ystyried y miloedd o fôr-wenoliaid y mae’n rhaid i ni eu cyfri!

Mae Ynysoedd y Moelrhoniaid yn hanfodol ar gyfer môr-wenoliaid sy’n bridio. Mae’r ynysoedd yn cynnal un o’r nythfeydd mwyaf ar gyfer môr-wenoliaid y Gogledd yn y DU. Felly, roeddwn i wrth fy modd yn clywed y newyddion fod un o’n rhywogaethau adar y môr prinnaf, môr-wenoliaid gwridog, yn nythu yn 2016. Ond wedi dweud hynny, doedd pethau ddim yn fêl i gyd yn ystod fy nghyfnod ar yr ynys yr haf diwethaf, gan na chafwyd unrhyw barau môr-wenoliaid gwridog yn bridio’n llwyddiannus. Er gwaethaf gweld pâr o fôr-wenoliaid gwridog yn edrych yn eithaf clòs wrth hedfan, ddaeth dim byd o hynny. Eleni, rydyn ni’n gobeithio bod yn ddigon lwcus i weld pâr o fôr-wenoliaid gwridog yn cyrraedd ac yn magu plu’n ifanc.

Dim cyfri môr-wenoliaid yr ynys a’u gwarchod oedd yr unig beth oedd yn fy nghadw i’n brysur yr haf diwethaf, gan ein bod ni wedi cael ymwelydd annisgwyl acw. Credwch neu beidio, roedd colomen rasio wedi penderfynu cael seibiant ar yr ynys, gan achosi cryn anhrefn yn nythfa’r môr-wenoliaid, gan ei fod yn ymddangos eu bod nhw’n meddwl mai hebog tramor oedd Pige. Hefyd, roedd Pige bob amser yn sleifio i’n cegin ac yn gadael ei farc ym mhob man os ydych chi’n deall beth rwy’n ei olygu! Yn anffodus, dydy dal colomen ddim yn dasg hawdd. Ond yn y diwedd, fe wnaethon ni ddenu Pige i focs drwy adael llwybr o greision, ac yna cafodd dychwelyd yn saff i’r tir mawr.

Mi fyddai’n creu blogiau fideo yn ystod yr haf er mwyn rhannu’r profiad unigryw o fod yn Warden a gofalu am nythfa o fôr-wenoliaid ar ynys. Rwy’n dymuno dangos taith y môr-wenoliaid drwy gydol y tymor magu. Gobeithio y bydd hyn yn codi ymwybyddiaeth am eu hynt ac yn helpu i sicrhau dyfodol disglair iddyn nhw.

Cadwch lygad allan am fideos Ben ar Twitter @RSPBCymru a Facebook RSPB Cymru - neu fe allwch eu gwylio nhw yma.