To read this blog in English please click here

Mae gwyliau'r haf yn ei anterth ac mae’n siŵr eich bod chi’n brysur yn mwynhau cefn gwlad Cymru a’i nifer o fywyd gwyllt arbennig. Efallai eich bod chi wedi sylwi ar gwtieir yn clebran ar lyn, neu ddyfrgi’n nofio tuag at y lan cyn plymio’n ôl i lawr eto i nôl ei ginio. Mae bywyd gwyllt yn ei gynefin naturiol yn agwedd fendigedig ar fywyd, ac rydyn ni’n lwcus bod gennym ni hynny ar garreg ein drws. Fodd bynnag, mae byd natur Cymru’n wynebu mwy o fygythiadau nag erioed o’r blaen, ac mae 1 ym mhob 14 o rywogaethau wedi diflannu’n llwyr neu ar fin diflannu. Y newyddion da yw, gallwch helpu i leddfu’r bygythiadau hyn dros y pythefnos nesaf. Yr unig beth sydd angen i chi ei wneud yw cysylltu â’ch cwmni dŵr a gofyn iddynt wneud #MwyDrosNatur.

Mae disgwyl i gwmnïau dŵr wario £3bn ar reolaeth amgylcheddol yng Nghymru rhwng 2020 a 2025, a dyma ein cyfle ni i wneud yn siŵr bod natur yn cael y fargen orau. Ar ddiwedd y dydd, byddant yn buddsoddi eich arian chi, a byddant yn ei wario fel rydych chi’n dymuno. Mae'r ymgyrch #MwyDrosNatur wedi ei sefydlu ers dechrau mis Mehefin, a bydd yn dod i ben ddiwedd mis Awst. Rydym yn ddiolchgar i'r rheini ohonoch sydd wedi sefyll dros natur hyd yma, ac rydym yn eich annog i ddweud wrth eich teulu, eich ffrindiau a’ch cydweithwyr i sefyll dros natur hefyd yn ystod y pythefnos nesaf.

Gallwch drydar eich cyflenwr dŵr a phwysleisio eich cefnogaeth dros natur drwy ddefnyddio’r hashtag #MwyDrosNatur. Gallwch neilltuo amser i roi galwad ffôn gyflym i’ch cwmni dŵr, gan wneud yn amlwg eich bod yn dymuno gweld natur yn flaenoriaeth o ran eu gwariant. Neu, gallwch anfon e-bost byr yn pwysleisio pwysigrwydd bod cwmnïau dŵr yn gwneud #MwyDrosNatur yn eu cynlluniau busnes rhwng 2020 a 2025.

Mae mor syml ag y mae’n swnio. Byddant yn gwario fel rydych chi’n dymuno. Does dim anfanteision. Dyma’ch cyfle i wneud #MwyDrosNatur. Mae gennych ddwy wythnos i drydar, ffonio neu anfon e-bost atynt!

*Os ydy’ch dŵr chi’n cael ei gyflenwi gan Dŵr Cymru, trydarwch @dwrcymru, anfonwch e-bost neu ffoniwch drwy ddilyn y ddolen hon: http://www.dwrcymru.com/contact-us?sc_lang=cy-GB. Os ydych chi’n cael eich cyflenwi gan Severn Trent Water, trydarwch @stwater, anfonwch e-bost neu ffoniwch drwy ddilyn y ddolen hon: https://www.stwater.co.uk/help-and-contact/contact-us/. Os nad ydych chi’n siŵr pwy yw’ch cwmni dŵr, bydd y map hwn yn gallu’ch helpu i ddod o hyd i’ch darparwr - http://www.water.org.uk/consumers/find-your-supplier.