To read this blog in English please click here. Mae mis Ionawr yn cynnal amrywiaeth o emosiynau - i rai mae’n gyfle da i ffarwelio â holl ormodedd y Nadolig a dechrau’r flwyddyn o’r newydd. I eraill mae’n amser cael yn heini neu i gynilo arian ar ôl yr holl wario dros y gwyliau. Ond i’r adar yn ein gerddi, mae mis Ionawr bob amser yn gyfnod da i hel cyflenwad o fwyd a mwynhau tameidiau blasus er mwyn wynebu misoedd caled y gaeaf o’u blaenau. Wrth i ni ddianc rhag tywydd oer y gaeaf, rydym yn gofyn i chi feddwl am ein hadar cyn digwyddiad blynyddol Gwylio Adar yr Ardd - yr arolwg mwyaf yn y byd o fywyd gwyllt ein gerddi - a’r cyfan o’ch cartrefi neu’ch man gwyrdd lleol. Mae Gwylio Adar yr Ardd yn rhedeg dros dridiau eto yn 2018, o’r 27-29 Ionawr. Bu dros 24,000 o bobl yn cymryd rhan yng Nghymru yn 2017 a gyda’r gaeaf yn ei anterth mae’n gyfle perffaith i sicrhau bod y teulu cyfan yn cymryd rhan. Rhowch y tegell ymlaen, ewch i nôl bisged a chyfrwch yr adar a welwch yn eich gerddi.