Byd rhyfedd a rhyfeddol defodau paru
English version available here

Edrych yn gariadus i mewn i lygaid eich gilydd, mynd am dro ramantus drwy goedwigoedd hudol, ar hyd copaon bryniau gwyllt neu arfordiroedd dramatig, a mynd â’ch partner am bryd o fwyd ffansi neu brynu tusw o flodau iddo ef/iddi hi. Dyma rai o'r nifer o ffyrdd y gallwch chi fynegi eich teimladau ar ddiwrnod Santes Dwynwen ar 25 Ionawr a diwrnod Sant Ffolant ar 14 Chwefror. Oeddech chi hefyd yn gwybod bod gan natur ei hynodion ei hun o ran dangos cariad? Dyma rai o’r pethau nodedig...

 Y grugiar ddu yn paru

Ym mis Ebrill ar doriad gwawr, bydd grugieir du gwrywaidd yn ymgynnull ac yn arddangos eu hunain drwy wyntyllu eu plu, torsythu a gwneud synau byrlymog - y cyfan yn enw cariad. Fel arfer, bydd hyn yn digwydd mewn mannau agored i ffwrdd o goetiroedd, ac fel arfer mae'n tueddu i gynnwys 10 neu lai o rugieir du, er bod hyd at 30 yn bosibl! Bydd y defodau paru'n cynnwys ymladd yn yr awyr, gwyntyllu cynffonau a galwadau caru cyn i'r fenyw benderfynu ar ei dewis o bartner. O fis Mawrth tan ddechrau mis Mai, bydd cyfle i chi weld yr arddangosfa garwriaethol enwog hon wrth i deithiau cerdded y grugieir du ddychwelyd i Goedwig Llandegla. Rhagor o wybodaeth yma.

Arddangosfa’r gwyachod mawr copog

O fis Chwefror i fis Mehefin, bydd gwyachod mawr copog yn cyflwyno eu sioe liwgar eu hunain o fale ar lynnoedd a chronfeydd dŵr ledled Cymru. Gyda'u wynebau du a oren, bydd y gwyachod yn llithro'n nes at ei gilydd yn osgeiddig ac yn taflu eu pennau o ochr i ochr. Bydd y garwriaeth yn cyrraedd ei phenllanw gyda'r adar yn dal tuswau o chwyn dŵr yn eu pigau, gan badlo'n ffyrnig i gynnal eu hosgo unionsyth, brest wrth frest - cyn ymdawelu ac aros am gardiau sgorio'r beirniaid.

Bodau tinwen yn dawnsio yn yr awyr

Ewch am dro i’r ucheldiroedd i dystio defod garwriaethol bodau tinwen gwryw yn codi ac yn plymio’n acrobatig dro ar ôl tro i gynulleidfa anweledig, gan obeithio temtio'r bod tinwen fenywaidd sy'n edrych arno i fod yn gymar iddo. Gellir gweld yr arddangosfa ddawnsio ysblennydd hon yn yr awyr uwchben yr ucheldiroedd yn ystod y gwanwyn, pan fydd y gwrywod a'r benywod yn mynd ar drywydd ei gilydd yn uchel dros rostiroedd a choedwigoedd wrth ddawnsio'n orffwyll.

Palod yn pig-gusanu

Dros yr haf yn RSPB Ynys Lawd, cadwch olwg am balod yn dangos eu serch at ei gilydd drwy 'big-gusanu'. Byddant yn rhwbio eu pigau’n serchus gyda'i gilydd yn debyg i'r modd mae pobl yn cusanu ei gilydd. Bydd yr arddangosfa hon fel arfer yn dennu torf o balod i rannu yn y cyffro. Fodd bynnag, os bydd gan y gwrywod gystadleuwyr am sylw'r benywod, mae'n bosibl y bydd gwrthdrawiadau chwyrn yn datblygu. Drwy chwyddo eu cyrff i ymddangos yn fwy ac agor eu hadenydd a'u pigau, a tharo eu traed llachar i ddangos eu bod yn anfodlon ar y gystadleuaeth o'u blaenau, byddant yn ceisio tynnu sylw eu dewis o bartner er mwyn bod yn ddewis cyntaf iddynt.

Lluniau yn y drefn y maen nhw'n ymddangos: Bod tinwen gan Mark Thomas, grugieir duon gan Mike Lane a phalod gan John Bowler.