English version available here

Blog gwadd gan Liam Olds o Buglife Cymru, ein partneriaid gyda phroject Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd.

Mae Hyb Cymunedol Tredelerch yn un o lawer o safleoedd Buzz Trefol gwych drwy Gaerdydd sy’n cael ei gefnogi drwy brosiect Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd. Gyda help gan Grow Cardiff a Rumney Seedlings – grŵp gerddi cymunedol pwrpasol ar gyfer pobl Rhymni – mae ardaloedd o gyn-laswelltir amwynder o gwmpas yr Hyb wedi cael eu trawsnewid yn gynefinoedd rhyfeddol ar gyfer peillwyr. Ymysg pethau eraill, mae hyn wedi cynnwys trawsnewid lawnt a dorrwyd yn rheolaidd ac a oedd o ychydig werth ar gyfer pryfed sy’n peillio yn ddôl flodau gwyllt sy’n awr yn darparu ffynonellau helaeth o baill a neithdar ar gyfer pryfed sy’n peillio, tra’n darparu lleoedd yn ogystal ar gyfer nythu, llochesu a chuddio ar gyfer pryfed a bywyd gwyllt eraill.

Yn ystod y flwyddyn, mae tîm Rhoi Cartref i Fyd Natur wedi bod yn brysur yn cynnal digwyddiadau tymhorol yn Hyb Cymunedol Tredelerch – mae’r un digwyddiadau ar gael ar gyfer holl safleoedd Buzz Trefol. Yn ystod digwyddiad yn hwyr ym mis Awst, gwnaed darganfyddiad cyffrous gan y tîm! Tra’n arwain sesiynau hela trychfilod gyda theuluoedd a phlant, sylwodd Swyddog Cadwraeth Buglife Cymru (Liam Olds) ar yr hyn a dybiwyd oedd yn wenynen ‘ddiddorol’. Yn dilyn ei dal mewn rhwyd bryfed a’i throsglwyddo i mewn i bot i’w harchwilio yn well, roedd yn amlwg yn wir bod y wenynen hon yn ‘ddiddorol’. Sylwodd Liam mai’r gardwenynen fain oedd hon (Bombus sylvarum) – un o gacwn prinnaf Prydain. Yn naturiol, roedd tîm Rhoi Cartref i Fyd Natur a phawb a oedd yn mynychu’r digwyddiad y diwrnod hwnnw yn llawn cyffro.

Roedd y gardwenynen fain unwaith yn gyffredin iawn drwy Gymru a Lloegr ac mae wedi profi dirywiad difrifol a gwyddys yn awr ei bod mewn dyrnaid yn unig o safleoedd yn ne Cymru a de Lloegr. Fel y cyfryw, ystyrir ei bod yn flaenoriaeth ar gyfer cadwraeth yma yng Nghymru o dan Adran 7 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Mae Lefelau Byw Gwent – tirwedd unigryw o gaeau a ffosydd draenio rhwng Caerdydd a Cas-gwent – yn cefnogi un o’r poblogaethau mwyaf a’r pwysicaf o’r gardwenynen fain ym Mhrydain ac mae dafliad carreg o Hyb Partneriaeth Tredelerch. Yn ddiweddar, gwelwyd y gardwenynen feinlais ychydig o weithiau yn nwyrain Caerdydd, yn cynnwys ym Mharc Llyn Hendre yn Llaneirwg ac mewn gardd yn Trowbridge yr haf hwn. Er hynny, ei hymddangosiad yn Hyb Partneriaeth Tredelerch oedd y tro cyntaf i’r rhywogaeth brin hon erioed gael ei gweld ar safle Buzz Trefol ac mae’n dangos yn eglur bod ymdrechion i wneud mannau gwyrdd Caerdydd yn fwy ‘cyfeillgar i beillwyr’ yn wir yn gallu helpu ein rhywogaethau prinnaf. Gobeithiwn y bydd y gardwenynen fain yn parhau i ffynnu a lledaenu drwy Gaerdydd, ac yn wir rydym yn gobeithio y bydd yn ymddangos ar fwy o safleoedd Buzz Trefol drwy’r ddinas yn y dyfodol agos.

Anonymous