Helpu pryfed sy'n peillio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru

English version available here.

Blog gwadd gan Matthew Jones, Rheolwr Cynaladwyedd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, sydd newydd sefydlu man gwyrdd yn arbennig ar gyfer pryfed sy’n peillio.

Gydag awydd i wella bioamrywiaeth o amgylch y safle, fe gofrestrodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ddiweddar i weithio gyda RSPB Cymru a Buglife Cymru i wneud eu hystâd ym Mae Caerdydd yn safle Buzz Trefol.

 Roedd y Cynulliad wedi cymryd rhai camau yn y gorffennol, gan gynnwys cwpl o westai i bryfed, gardd a rhai coed ffrwythau yn y maes parcio. Fodd bynnag, gweithredodd prosiect Gwenyn y Pierhead, a lansiwyd yn 2018, fel catalydd ar gyfer gwelliannau pellach. Roedd gosod cychod gwenyn ar y Pierhead wedi codi ymwybyddiaeth o bryfed sy’n peillio a'r angen i wella eu cynefinoedd.

Er gwaethaf bod mewn lleoliad trefol, a chyda lle cyfyngedig ar yr ystâd, mae'r Cynulliad wedi dechrau gwella rhai ardaloedd. Mae gwirfoddolwyr sy'n staff wedi dechrau plannu planhigion mwy cyfeillgar i bryfed sy'n peillio o amgylch y safle, ac maent ynparhau i gwrdd yn rheolaidd ar gyfer sesiynau cynnal a chadw.

Wedi'i drefnu drwy grŵp Yammer mewnol, mae'r tîm yn defnyddio'r gweithgareddau garddio a bioamrywiaeth i ddysgu mwy am ofalu am blanhigion, yn ogystal â pha greaduriaid y gallant ddarparu cartref ar eu cyfer yn eu gerddi eu hunain. Mae'r garddio nid yn unig yn dod â staff o wahanol rannau o weithrediad y Cynulliad ynghyd, ond hefyd yn cefnogi iechyd a lles yn y gweithle.

Bydd y camau nesaf yn cynnwys arolygu bywyd pryfed sy'n ymddangos ar y safle; i asesu effeithiolrwydd y gwelliannau dros amser. Mae'r tîm yn edrych ymlaen at weld sut y mae eu hymdrechion wedi gwneud gwahaniaeth i fywyd planhigion ac anifeiliaid ar ddarn bach o dir.

I gael rhagor o wybodaeth, ebostiwch ni yn RSPB Cymru ar GNaHCardiff@rspb.org.uk, neu os hoffech fwy o wybodaeth am y safle Buzz Trefol yn y Cynulliad, cysylltwch â cynaliadwyedd@cynulliad.cymru