I ddarllen y blog yma yn Saesneg cliciwch yma os gwelwch yn dda.

100 o bobl, 100 dawns, 100 man gwyrdd trefol – i gyd yn cyfuno i ddathlu bywyd gwyllt Caerdydd.

Yn dilyn llwyddiant TAPE a Drwy Lygaid yr Anifail, rydym yn eich gwahodd i ddawnsio yn eich hoff fan gwyrdd yn y ddinas i ddathlu popeth sy'n wyllt ac yn wych am ein mannau gwyrdd trefol.

Mewn cydweithrediad â’r artist o America, Ely Kim, bydd Boombox Caerdydd yn dod â 100 o bobl ynghyd i gael eu ffilmio’n dawnsio i'w hoff gerddoriaeth yn eu hoff fannau gwyrdd yn y ddinas - gan ddathlu a mynegi eu cysylltiad â byd natur a'r mannau maen nhw’n eu mwynhau fwyaf. Bydd y ffilm fer a fydd yn deillio o hyn yn cael ei harddangos yng ngwanwyn 2017 i dalu teyrnged i gymunedau’r ddinas a’i mannau gwyllt.

Uchod: Cipolwg o rai o'r danswyr hyd yma. Lluniau gan Migrations

Wedi ei drefnu ar y cyd â sefydliad celfyddydol, Migrations, Boombox Caerdydd yw’r cyfle perffaith i chi roi sylw i'r mannau gwyllt sy'n golygu rhywbeth i chi – ac efallai dathlu llefydd nad ydym hyd yn oed wedi dod o hyd iddyn nhw eto. A’r hyn sy’n wych, nid oes rhaid i chi fod yn ddawnsiwr proffesiynol - gall unrhyw un, yn ifanc neu'n hen - gymryd rhan. Yr hyn sy'n bwysig yw cael hwyl a mwynhau’r pleser o ddawnsio.

O ddolydd blodau gwyllt a pherllannau Fferm y Fforest yng Nghaerdydd i lynnoedd llonydd Parc y Rhath, yr hafan i fyd natur yn eich gardd gefn neu'r man gwyrdd y tu allan i ffenestr eich swyddfa - chi biau’r dewis lle byddwch chi'n mynd i ddawnsio. Y cyfan mae angen i chi ei wneud yw dewis eich hoff drac i ddawnsio a’ch hoff man gwyrdd ac fe wnawn ni'r gweddill.

Mae Caerdydd yn enwog am nifer o bethau, o’n cestyll a lleoliadau celf i'n canolfannau siopa a stadia chwaraeon. Fodd bynnag, rydym hefyd wedi ein bendithio â mannau awyr agored hyfryd, boed yn barc neu’n ardd cefn. Ers 2014, mae ein project Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd wedi cysylltu 20,000 o bobl â byd natur ledled y ddinas, a bydd Boombox Caerdydd yn cyfoethogi’r ymdeimlad o ryfeddod a gawn gan fyd natur, gan gysylltu teuluoedd, a’r rhai sy’n caru natur a chelf, gyda mannau gwyrdd arbennig y ddinas.

Os oes gennych chi awydd i ddanswnio yn y gwyllt a bod yn rhan o Boombox Caerdydd, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Ewch i http://migrations.uk/Boombox+Cardiff i gofrestru am ddim ac am ragolwg byr.