English version available here.
Telor Savi yn nythu am y tro cyntaf yng Nghymru
Yn ystod yr haf eleni, fe gawsom ni newyddion hynod o gyffroes gyda’r cyhoeddiad fod yna deloriaid Savi wedi nythu ar y warchodfa. Dyma’r tro cyntaf i’r adar nythu yn RSPB Cors Ddyga, ac i Gymru gyfan hefyd. Fe gafodd un telor Savi unigol ei weld gan Ken Maurice, un o Wardeiniaid y warchodfa, ar 14 Mehefin. Fe welodd grŵp o wirfoddolwyr ail aderyn yn cario bwyd i nyth guddiedig fis yn ddiweddarach.
Mae teloriaid Savi yn olygfa gyffredin i dde Ewrop, ond anaml y byddent yn ymweld â Chymru. Dim ond ymweliadau sydyn y maent yn eu gwneud, ac nid ydynt yn debygol o aros am fwy nag ychydig o ddyddiau ar y tro. Mae'r gwrywod dril hir, byrlymus, ac yn aml iawn dyma’r unig gliw o’u presenoldeb.
Adar y bwn yn dychwelyd i Gymru
Pan sefydlwyd RSPB Cors Ddyga nôl yn 1994, roedd gennym ni un bwriad penodol mewn golwg. Roedden ni eisiau denu adar y bwn yn nôl i Gymru. Anaml y gwelwch yr adar dirgel hyn mewn mannau agored. Maent yn anodd ei gweld ymysg y cyrs oherwydd eu cuddliw ardderchog a’u plu cryptig. Fe wnaeth y pâr diwethaf nythu yn 1984 ac fe ffurfiwyd RSPB Cors Ddyga i greu’r cynefin perffaith iddynt, i’w tynnu’n ôl.
Ar ôl blynyddoedd o waith caled i adfer y gwlyptiroedd, fe nythod pâr o adar y bwn yn 2016, y tro cyntaf yng Nghymru ers 32 o flynyddoedd. Maent wedi nythu yma pob blwyddyn ers hynny, ac wedi magu cywion yn llwyddiannus.
Boda’r gwerni yn ymgartrefu ymysg y cyrs
Mae pâr o foda’r gwerni hefyd wedi setlo ar y warchodfa. Yn 2016 fe nythodd y ddau yma a magu pedwar cyw. Maen nhw wedi nythu ar y warchodfa pob blwyddyn ers hynny ac wedi magu eu cywion yn llwyddiannus.
Yn ystod y tymor bridio, mae’r adar ysglyfaethus mawr hyn yn perfformio arddangosfa anhygoel yn yr awyr, wrth iddyn nhw hedfan yn uchel i’r awyr a phlymio tuag at y llawr tin dros ben.
Gwaith caled yn talu ar ei ganfed
Ni fyddai’r llwyddiannau cadwraethol hyn wedi bod yn bosib heb waith caled ein tîm ymroddedig a’n staff a gwirfoddolwyr angerddol ar y warchodfa. Maen nhw wedi bod yn holl bwysig yn eu gwaith i adfer yr ardal i wlyptir sy’n gyfoethog gyda natur ac sy’n darparu cartref i bob mathau o fywyd gwyllt arbennig.
Mae’r gwaith diddiwedd tîm y warchodfa yn amrywio o waith cadwraethol ymarferol i recordio a monitro gwahanol rywogaethau. Mae rhan fawr o’r gwaith wedi mynd tuag at osod llifddorau i ddal y dŵr yn nôl ar wlâu’r cyrs. Mae’r project hwn, wedi’i ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a Chronfa Gweithredu Bioamrywiaeth WREN, wedi creu brithwaith o wlâu cyrs, glaswellt gwlyb a choetir gwlyb. Mae’r tîm hefyd wedi creu llwybrau i ymwelwyr sy’n plethu trwy’r cyrs, yn ogystal â cherflun trawiadol o aderyn y bwn, wedi’i wneud gan y cerflunydd lleol Duncan Kitsen. Ewch am dro ar hyd un o’r llwybrau hyn, ac efallai y gwelwch weision y neidr lliwgar a gloÿnnod byw yn hedfan gyda’r awel, dyfrgwn a llygod dŵr yn nofio trwy’r sianeli, ac arddangosfeydd o flodau anhygoel.
Dros y blynyddoedd nesaf, bydd gwaith yn parhau i wneud RSPB Cors Ddyga yn hafan i natur. Bydd y safle hefyd yn ehangu ar ôl i ni brynu 39 acer o dir i’r gogledd o’r warchodfa. Tybed pa greaduriaid wnaiff setlo i lawr yn y lle arbennig hwn ar Sir Fôn!