English version available here
Yn 2011, pan oeddwn yn bedair ar hugain oed a newydd adael y Brifysgol, treuliais ddau haf yn gweithio fel Cynorthwy-ydd Gwarchodfa ar Ynys Dewi yr RSPB. O’r cychwyn cyntaf, roeddwn i mewn cariad llwyr â’r lle. Mae gan fywyd ar Ynys Dewi ryw fath o hud, gyda’i bywyd gwyllt a’i hanes ac mae hyn yn gwneud i chi ddotio arni. O’r adeg honno ac am y ddeng mlynedd nesaf, pa bryd bynnag y mae rhywun wedi gofyn imi beth oedd fy swydd ddelfrydol, Warden ar Ynys Dewi oedd yr ateb, ac nid oedd unrhyw betruster! Felly, yn 2021 pan ddechreuais ar fy swydd newydd fel Warden yr Ynys, gwireddwyd fy mreuddwyd go iawn.
Mae Greg, Rheolwr y Safle a minnau, ac wrth gwrs Dewi’r ci defaid yn cyrraedd yr ynys ar ddechrau mis Mawrth gan dreulio naw mis yn byw ac yn gweithio yma tan ddiwedd mis Tachwedd. Mae’n rhyfeddol bod allan yma o gychwyn cyntaf y tymor pan mae mudwyr y gwanwyn dim ond yn dechrau cyrraedd, a thrwy gydol tymor prysur bridio adar tan yr Hydref pan mae’r adar yn dechrau gadael a phan mae traethau Ynys Dewi yn llawn o forloi llwyd sy’n bridio.
Mae fy swydd yn gymysgfa go iawn, gan gynnwys rheoli’r gwaith gyda’r ymwelwyr a’r gwirfoddolwyr, monitro ac arolygu’r adar, y morloi, y planhigion a’r bywyd gwyllt eraill, cynnal a chadw adeiladau, llwybrau, waliau a ffensys yr ynys ac edrych ar ôl y da byw sydd yno.
Dysgais gymaint yn ystod fy nhymor cyntaf, llawer gormod i’w adrodd yma, ond mae gen i rai hoff sgiliau newydd. Rydw i’n gwybod bob amser yn awr o ba gyfeiriad y mae’r gwynt yn dod a pha amser mae’r llanw yn dod i mewn. Mae’r gwynt a’r llanw yn cael effaith anferth ar fy niwrnod, maen nhw’n penderfynu a all y cwch groesi a pha arolygon y gallaf eu cynnal. Yn ogystal, rydw i’n adnabod pob pâr o frain coesgoch sydd ar Ynys Dewi, rydw i’n gwybod lle maen nhw’n nythu, a pha bryd y maen nhw’n dechrau gori eu hwyau, a pha bryd mae’u cywion yn deor a faint o gywion y maen nhw’n llwyddo i’w magu. Mae dod i adnabod y bywyd gwyllt ar y lefel agos hon yn teimlo’n arbennig iawn. Ac yn olaf, ac yr un mor bwysig, rydw i’n gwybod sut ydych chi’n cael praidd o ddefaid i mewn i gwch!! Er hynny, mae pob tymor yn wahanol ac mae llawer mwy i’w ddysgu bob amser, ac felly, rydw i’n gyffrous ar gyfer fy nyfodol ar Ynys Dewi.
Mae hi mor foddhaus gwybod fy mod yn gwneud fy rhan i gadw Ynys Dewi fel lle gwyllt lle y gall adar y môr a morloi ffynnu. Fodd bynnag, mae’n bwysig cofio, yn arbennig felly gyda rhywogaethau morol, nad yw cadw’r lle y maen nhw’n bridio ynddo yn unig yn ddigon. Gall adar y môr fod yn ddangosyddion amgylcheddol pwysig ac mae eu deall nhw yn gallu ein helpu ni ddeall iechyd yr ecosystem forol fel cyfanwaith. Felly, yn ogystal â monitro’r adar môr sy’n bridio, mae’n rhaid inni feddwl am y darlun ehangach fel lle mae’r adar hyn am fwydo a lle maen nhw am dreulio’r gaeaf pan nad ydyn nhw’n bridio ar Ynys Dewi neu Ynys Gwales? Mae’n bwysig deall y pwysau y gall y rhywogaethau hyn fod yn eu hwynebu pan maen nhw allan yn y môr. Gall gorbysgota, isadeiledd newydd fel ffermydd gwynt alltraeth a newid yn yr hinsawdd fod yn rhai o’r pethau sy’n effeithio arnyn nhw y tu hwnt i draethau Ynys Dewi. Un peth y gallwn ni ei wneud yw cadw golwg manwl ar ein poblogaethau yma a sicrhau bod unrhyw newidiadau yn cael eu canfod yn gyflym. Yn ogystal, rydym yn gwneud rhywfaint o waith tracio ar adar y môr sydd ar Ynys Dewi ac Ynys Gwales, gan atodi dyfeisiau bychain ar gyfer GPS a chanfod lleoliad ar yr adar ac mae’r rhain yn dweud wrthym ni lle mae’r anifeiliaid hynny yn mynd ac maen nhw’n ein helpu ni ddeall sut y gallwn ni weithio tuag at eu cadw nhw ar yr ynysoedd ac alltraeth.
Darganfyddwch fwy am hud Ynys Dewi yr RSPB, ac archebwch eich fferi i gael antur fythgofiadwy!