English version available here
Mae hi’n fis Rhagfyr – ac wrth i ni arafu am y Nadolig a thymor yr ŵyl, rydyn ni’n edrych yn ôl unwaith eto ar flwyddyn brysur yma yn RSPB Cymru. Blwyddyn o wneud ein gorau glas dros y byd natur sydd ar garreg ein drws. Felly dyma ni – crynodeb byr ond llawn dop o 2024...
Rydyn ni bob amser yn ôl yn llawn egni ar droad y flwyddyn newydd, gyda’r digwyddiad blynyddol Gwylio Adar yr Ardd yn cael ei gynnal ar draws yr ynysoedd hyn ddiwedd mis Ionawr. Er nad oedd llawer o newid yn y deg uchaf yng Nghymru eleni, gydag Aderyn y To unwaith eto yn cyrraedd brig y siart, roedden ni’n falch iawn o weld cynifer ohonoch chi’n cymryd rhan - 29,495 i fod yn union, gan ddychwelyd 17,270 o arolygon ar ôl gwylio 560,978 o adar!
Dyma’r prosiect gwyddoniaeth mwyaf i ddinasyddion yn Ewrop, ac mae Gwylio Adar yr Ardd yn hanfodol i’n gwaith. Mae’n dangos pa adar sy’n gwneud yn dda a pha rai y gallai fod angen ein help arnynt yn y dyfodol – mae hefyd yn gyfle i ni astudio tueddiadau tymor hirach i weld sut mae pethau wedi newid ers y digwyddiad Gwylio Adar yr Ardd cyntaf yn 1979. Mae hefyd yn gyfle gwych i wylwyr adar hen a newydd fynd allan a chwarae eu rhan dros ddyfodol adar gardd Cymru.
“Roeddem ni mor hapus â faint o aelodau’r cyhoedd yng Nghymru a gymerodd ran yn Gwylio Adar yr Ardd eleni – rhai miloedd yn fwy na 2023. Diolch i bob un ohonoch chi sy’n cymryd rhan yn Gwylio Adar yr Ardd – rydych chi gyd yn ein helpu i greu darlun blynyddol o fywyd adar ar hyd a lled Cymru.
Dim ond wrth i ni ddeall sut mae bywyd gwyllt yn ymdopi y gallwn ni eu hamddiffyn. Gwyddom fod byd natur mewn argyfwng ond, gyda’n gilydd, gallwn gymryd camau i ddatrys y problemau hyn.”
Rhys, Swyddog Cyfathrebu RSPB Cymru.
Llwyddiannau rhywogaethau
Mae yna heriau wrth gwrs - rydyn ni yng nghanol argyfwng hinsawdd a natur. Ond mae'n bwysig ein bod ni'n rhannu'r llwyddiannau rydyn ni'n dod ar eu traws drwy ein gwaith cadwraeth.
I fyny yn Ynys Môn, yn RSPB Cors Ddyga, roedden ni’n falch iawn o gofnodi ein bod wedi cyfrif mwy nag erioed o Gornchwiglod bridio - 72 o barau bridio yn magu 120 o gywion, a oedd yn gynnydd o 61 pâr a 102 o gywion yn 2023. I’r de o’r ynys, gwelsom hefyd y niferoedd mwyaf erioed o Frain Coesgoch yn RSPB Ynys Lawd, gyda 14 o barau’n magu 23 o gywion.
Cafodd RSPB Conwy a Gwlyptiroedd Casnewydd eu dynodi’n fannau poblogaidd i Weision y Neidr yn y gwanwyn, gydag RSPB Conwy yn gartref i oddeutu 18 o rywogaethau a Gwlyptiroedd Casnewydd yn gartref i tua 20. Mae llawer ohonynt yn dibynnu ar y rhwydweithiau helaeth o gyrs a ffosydd sydd yn y naill safle a’r llall.
Mae’r Bele yn famal sydd â’i niferoedd ar gynnydd. Yn ychwanegol, credir ei fod yn allweddol i helpu i gynyddu niferoedd y Wiwerod Goch oherwydd ei fod yn tueddu i ysglyfaethu ar Wiwerod Llwyd. Roedd presenoldeb y creadur swil hwn yn RSPB Gwenffrwd Dinas yn achos dathlu, ac rydyn ni’n gobeithio y bydden nhw'n aros yno!
Ar arfordir y De-orllewin, daeth RSPB Ynys Dewi o hyd i rywbeth yn llechu yn y pyllau bas nas gwelwyd ers y 1970au. Roedd ailddarganfod ‘Thymosia Guernei’ yn uchafbwynt anhygoel i’n wardeiniaid, er efallai na fydd arnyn nhw eisiau bwyta tatws stwnsh am sbel.
Draw yn RSPB Ynys-hir, roedden ni mor falch o weld Bodaod y Gwerni yn nythu’n llwyddiannus am y tro cyntaf erioed, gan lwyddo i fagu tri chyw i fagu plu. Ac nid dyma’r unig Fodaod i gyrraedd y penawdau, wrth i nifer y parau o Fodaod Tinwyn, sydd ar y rhestr goch, godi o 25 pâr yng Nghymru i 40.
Yn Llyn Efyrnwy, dyma’r flwyddyn orau erioed i loÿnnod byw wrth i ni gofnodi 27 rhywogaeth dros ddim ond pedwar mis, gan gynnwys Gwibiwr Essex, record newydd i’r warchodfa, sy’n dangos y cyfoeth anhygoel o rywogaethau sydd yno.
Llun gan Jake Stephen (rspb-images.com)
Cyflawniadau polisi ac eiriolaeth
Er ein bod bob amser yn galw ar bawb o bob cwr o Gymru i chwarae eu rhan i achub byd natur Cymru, mae llawer o’r darlun ehangach yn dibynnu ar arian a deddfwriaeth gan ein llywodraethau ym Mae Caerdydd a San Steffan.
Ym mis Rhagfyr 2023, lansiodd Llywodraeth Cymru ei hymgynghoriad ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Roedd hwn yn gyfle unigryw i helpu ffermwyr Cymru i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy ar yr un pryd â mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur. Ym mis Chwefror, roedd bron i 500 ohonoch chi wedi ymuno â ni wyneb yn wyneb neu ar-lein yn ein hwyth gweithdy Cynllun Ffermio Cynaliadwy a gynhaliwyd ar hyd a lled Cymru. Roedd rhain wedi arwain at gyflwyno nifer o ymatebion i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru. Diolch eto i bawb a ddaeth a rhoi o’u hamser i ymateb.
Ym mis Mai, cyhoeddwyd y byddai’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn cael ei ohirio am flwyddyn. Er bod yr oedi’n siomedig, roeddem yn croesawu bod yr amser ychwanegol hwn yn rhoi cyfle i ddatblygu’r Cynllun ymhellach. Ym mis Tachwedd, cadarnhawyd y byddai’r Cynllun yn talu i ffermwyr reoli o leiaf 10% o’u tir ar gyfer bywyd gwyllt ac i gynnal eu Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, sy’n hanfodol i adfer cynefinoedd a rhywogaethau yng Nghymru. Fodd bynnag, cyhoeddwyd hefyd y byddai’r targed o 10% ar gyfer gorchudd coetiroedd yn cael ei ollwng. Mae hyn yn destun pryder, yn yr un modd â’r diffyg eglurder am sut bydd cyllid yn cael ei rannu rhwng gwahanol haenau o’r cynllun. O ganlyniad, rydyn ni’n teimlo nad oes cynllun clir yn amlinellu sut bydd y cynllun yn gyffredinol yn helpu Cymru i gyflawni ei hymrwymiadau bioamrywiaeth ar gyfer 2030. Yn 2025, byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a’r sector gwledig, gan sicrhau bod lleisiau ein hymgyrchwyr yn cael eu clywed, a bod y cynllun mor effeithiol â phosibl i ffermwyr, i bobl ac i fyd natur.
Llun gan Ben Andrew (rspb-images.com)
Ym mis Ionawr eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar y Papur Gwyn ar gyfer Bil ar egwyddorion amgylcheddol, llywodraethu amgylcheddol a thargedau adfer natur, sef y ‘Bil Natur Bositif’. Mae angen y Bil hwn ar frys i fynd i’r afael â’r bwlch mewn gwarchodaeth amgylcheddol a llywodraethu amgylcheddol a gafodd ei greu yng Nghymru pan adawodd y DU yr UE, ac i wreiddio nodau adfer natur yn y gyfraith i sbarduno gweithredu dros ein bioamrywiaeth yn unol ag ymrwymiadau byd-eang.
Rhwng mis Mawrth a mis Ebrill, roedd dros 1,000 ohonoch wedi gweithredu, gan ymuno â ni am weminar a chodi llais drwy bwyso ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn ddigon cadarn ac uchelgeisiol i sicrhau Cymru Natur Bositif. Yn nes ymlaen yn y gwanwyn, fe wnaethon ni weithio gyda Climate Cymru a oedd wedi creu ffilm a oedd yn gofyn i bobl rannu hoff atgofion eu plentyndod o fyd natur a rhannu’r hyn y bydden nhw’n hoffi i genedlaethau’r dyfodol ei gael o fyd natur. Mae hi wedi bod yn wych clywed eich cysylltiadau personol dwfn a’ch atgofion o fyd natur, a fydd yn ein sbarduno i frwydro dros fyd natur Cymru.
Ym mis Awst, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddiweddariad ar y Bil. Mae ganddo lawer o agweddau cadarnhaol ac mae’n ymrwymo i weithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu meysydd allweddol ymhellach. Ond mae llawer o waith i’w wneud i sicrhau bod y Bil yn cyflwyno’r targedau cywir i sbarduno adferiad byd natur a bydd hyn yn flaenoriaeth i ni yn 2025.
Drwy gydol y flwyddyn, rydyn ni wedi parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru ac eraill i greu Strategaeth Cadwraeth Adar y Môr ar gyfer Cymru, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd yn cael ei chyhoeddi yn y flwyddyn newydd. Mae creu strategaeth o’r fath wedi bod yn ofyniad allweddol i’r RSPB ers blynyddoedd lawer, gan fod adar y môr yn wynebu ystod gynyddol o fygythiadau, gan gynnwys newid hinsawdd a mwy o ddatblygiadau morol. Bydd darparu ateb tymor hir ar gyfer bioddiogelwch ynysoedd adar môr Cymru yn rhan annatod o hyn.
Mis Rhagfyr oedd dyddiad cau’r Ddeiseb Briciau Gwenoliaid Duon i’r Senedd, a gafodd ei lansio gan Julia Susan Barrell a'i chefnogi gan RSPB Cymru ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Y targed i sicrhau dadl yn y Senedd yw 10,000 o lofnodion – ac erbyn diwedd mis Tachwedd roeddem wedi chwalu’r targed hwnnw. 10,930 oedd y nifer terfynol ac rydyn ni’n gobeithio, ac yn disgwyl, i’n cynrychiolwyr o bob rhan o'r Siambr gymryd yr achos hollbwysig hwn o ddifrif. Mae’r Gwenoliaid Duon wedi gweld un o’r gostyngiadau mwyaf dinistriol yng Nghymru dros y degawdau diwethaf – mae’r niferoedd wedi disgyn 76% ers 1995 – felly mae hi’n hanfodol cael yr achos blaengar hwn oddi ar y ddaear ac i goridorau pŵer. Ac yn anad dim, gadewch i ni fod yn onest – mae’n syniad eithaf cŵl!
Partneriaethau newydd
Mae gweithio gyda sefydliadau eraill yn hanfodol i gyflawni nodau cyffredin – a dyna oedd y ffocws ym mis Hydref pan gynhaliodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru ddigwyddiad ‘Pêl-droed a Dyfodol Cynaliadwy’ yn Stadiwm Dinas Caerdydd, gyda’r nod o archwilio’r croestoriad rhwng pêl-droed a chynaliadwyedd amgylcheddol, a dod â sefydliadau amgylcheddol a chlybiau pêl-droed Cymru at ei gilydd i ysbrydoli cydweithredu. Uchafbwynt y digwyddiad oedd trafodaeth banel fywiog ar yr argyfyngau hinsawdd a natur gyda golwg ar ‘Uno Pêl droed a Natur i wneud Pêl droed yn fwy Gwyrdd’ ac roedd cyfle i drafod â’r gynulleidfa ac aelodau eraill o’r panel o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Maint Cymru a Cadwch Gymru'n Daclus.
Dim ond llond llaw o uchafbwyntiau 2024 RSPB Cymru yw’r uchod – mae cymaint mwy i siarad amdano! Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith a helpu i achub byd natur ar garreg eich drws.