English version available here
Yr adeg hon o’r flwyddyn mae byd natur yn mynd amdani go iawn. Ceisiwch ddod o hyd i gywion sydd newydd adael y nyth ac sy'n dysgu hedfan; gwrandewch am sisial cysglyd y dail newydd ar y coed; rhyddhewch eich synhwyrau i fwynhau lliwiau ac arogl y blodau sydd yn eu hanterth ac i wylio ac i wrando ar fwmian y gwenyn a dawnsio ysgafn ieir bach yr haf wrth iddyn nhw fynd ati'n dawel bach i beillio ein planed. Am wlad sydd wedi'i bendithio â golygfeydd naturiol eithriadol, dyma ychydig o enghreifftiau o'r hyn sydd gan fyd natur i'w gynnig yn yr haf i bob un ohonom ni eu mwynhau…
Os ydych chi yng ngogledd Cymru'r haf hwn, ewch i warchodfa RSPB Conwy. Yn gynnar yn yr haf, mae'r warchodfa yn drwch o degeirianau. Bydd miloedd o degeirianau'r gors y de a channoedd o degeirianau gwenynog yn blodeuo. Efallai y gwelwch chi garlymod ifanc yn sgrialu wrth ymyl y morlynnoedd. Edrychwch a welwch chi fwrned chwe smotyn, sef gwyfyn trawiadol lliw coch a du, yn bwydo ymhlith y blodau. Bydd gweision y neidr, fel gwas neidr y De a'r wäell gyffredin, hefyd yn brysur yn dodwy wyau yn y dŵr neu fwd meddal y pyllau llai ar y warchodfa.
Ar warchodfa RSPB Ynys Lawd, mae nythfeydd enfawr adar y môr yn gorchuddio'r clogwyni ac yn fwrlwm i gyd yn ystod yr haf. Yma mae gwylogod, llursod a phalod yn ymgasglu, yn hedfan nôl ac ymlaen i'r môr ac yn plymio iddo i ddod o hyd i fwyd i'w cywion. Golygfa gwbl arbennig. Peidiwch ag anghofio hefyd edrych i'r awyr i ddod o hyd i frain coesgoch enwog y warchodfa!
I lawr y lôn ar warchodfa RSPB Cors Ddyga, hafan hyfryd a thawel i fywyd gwyllt ar Ynys Môn, bydd cywion hyfryd y cornchwiglod yn cerdded ffidl ffadl ar draws y tir. Fe fyddan nhw'n dilyn un cam tu ôl i'w mamau er mwyn gobeithio dysgu am bopeth sydd ei angen i oroesi ac i ffynnu yn ein cefn gwlad.
Os ydych chi yn Sir Benfro, mae RSPB Ynys Dewi yn gorwedd nepell oddi ar yr arfordir a bydd yn ferw o filoedd o adar y môr yn nythu. Bydd hebog tramor a brain coesgoch yn nythu ar y clogwyni tra bydd adar drycin Manaw yn nythu yn eu tyllau tanddaearol. Bydd carpedi o rug yn gorchuddio'r ynys gan greu trefniant trawiadol o liwiau gwyrddlas a phorffor llachar. Gwledd go iawn i'r llygad!
Neu beth am fynd i weld rhai o ymwelwyr mwyaf arbennig yr haf i Gymru, fel telor y coed a'r gwybedog brith? Maen nhw wrth eu bodd yn treulio ein hafau gyda ni oherwydd bod ein tywydd cynnes a gwlyb yn golygu, fel arfer, bod llawer o bryfed yma ar eu cyfer. Bydd ein horiau ychwanegol o olau dydd hefyd yn rhoi mwy o amser i rieni fwydo eu cywion cyn iddynt ddechrau ar eu taith i Orllewin Affrica pan ddaw'r hydref. Mae modd clywed teloriaid y coed a gwybedogau brith yn canu yn y coetiroedd derw gorllewinol a geir yma yng Nghymru. Yn eu plith mae ein gwarchodfeydd coetir yng nghanolbarth a de Cymru fel RSPB Llyn Efyrnwy, RSPB Gwenffrwd-Dinas, RSPB Ynys-hir a RSPB Carngafallt.
Mae byw yng Nghymru yn cynnig tirluniau a golygfeydd sy'n ddigon i ddal dychymyg unrhyw un. Os allwch chi feddwl am ragor o enghreifftiau o fyd natur yr haf ar ei orau ledled Cymru, beth am eu rhannu nhw gyda ni drwy adael sylw isod? Byddem wrth ein bodd cael clywed amdanynt.
Credyd y lluniau yn y drefn maen nhw'n ymddangos: Ben Andrew; Andy Hay; Graham Goodall.