I ddarllen y blog yma yn Saesneg, cliciwch yma os gwelwch yn dda.

Gydag alaw hollol unigryw, nid oes dim sy’n cymharu â harddwch naturiol cân yr adar. Os ydych chi’n deffro i gloc larwm byd natur gan y fwyalchen, y titw tomos las a’r robin goch neu’n gwrando ar berfformiad unigol y fronfraith gyda’r nos, mae cân yr adar o’n cwmpas ym mhob man ac yn rhan o’n bywydau bob dydd.

Gelwir Cymru’n aml yn wlad y gân ac mae gennym yma lu o gantorion Cymreig niferus, o’n hadar a’n corau meibion i’n cefnogwyr rygbi a phêl-droed. Fodd bynnag, yr hydref hwn rydym yn barod am brofiad cerddorol arbennig iawn wrth i gân yr adar a cherddoriaeth Gymreig uno’n hyfryd fel un.

Cynhyrchiad newydd sbon a ysbrydolwyd gan warchodfa natur RSPB Carngafallt ym Mhowys yw Birdsong / Cân yr Adar ac mae’n teithio i theatrau’r mis Tachwedd hwn, diolch i arian gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae RSPB Carngafallt yn gartref i ecosystemau cymhleth sy’n cyfuno i greu rhai o goedlannau Atlantig Gorllewinol mwyaf trawiadol Cymru, a elwir hefyd yn goedwig law Geltaidd Cymru.Yr hydref hwn bydd synau a golygfeydd unigryw’n cyfuno i ddathlu’r cwbl sy’n hardd am y warchodfa ac amgylchedd naturiol Cymru, wrth i ni fwynhau cyngerdd arbennig gan yr artistiaid Cymreig Gwilym Simcock a Kizzy Crawford, yn ogystal â’r gerddorfa siambr flaenllaw Sinfonia Cymru.


Llun: Gwilym Simcock a Kizzy Crawford

Bydd Gwilym Simcock, un o bianyddion a chyfansoddwyr jas mwyaf dawnus a llawn dychymyg Ewrop, yn cydweithio gyda’r dalent Gymreig/Bajan eithriadol Kizzy Crawford wrth iddyn nhw gyfuno cerddoriaeth llawn enaid, gwerin a jas gyda Sinfonia Cymru. Wedi ei greu mewn partneriaeth â RSPB Cymru, maen nhw wedi datblygu casgliad unigryw o gerddoriaeth sydd newydd ei chyfansoddi a ysbrydolwyd gan harddwch RSPB Carngafallt a’r bywyd gwyllt hynod o arbennig sy’n byw yno.

Bu RSPB Carngafallt yn leoliad perffaith i Kizzy a Gwilym glywed ein hadar yn perfformio ymysg y coed. Gyda phob tymor daw cân newydd; yn y gwanwyn mae adar ymfudol fel y tingoch, telor y coed a chorhedydd y coed yn llenwi’r canopy gwyrdd uwchben. Wrth i’r rhostir ddod yn fyw yn yr haf mae’r cywion yn gadael y nyth, gan wahodd cyfle i wylio ambell i gnocell y coed a chrec yr ethin hardd. Wrth i’r misoedd oer ddynesu mae’r goedwig yn heddychlon, wrth i garpedi o fwsogl a chen greu awyrgylch o hud a lledrith yn y coedlannau hynafol. Yn y gaeaf mae adar ysglyfaethus fel y barcud, y bwncath a’r hebog tramor yn gallu hedfan yn uchel uwchben y tirlun barugog trawiadol.

Wrth weithio gyda Gwilym a Kizzy, hoffwn ddod â bywyd gwyllt hardd RSPB Carngafallt yn fyw. Mae natur yn llawn o ganeuon a synau hyfryd ac wrth ddod â’r alawon yma i’r llwyfan gallwn wir ddathlu ein gwlad y gân unigryw.

Mae Birdsong / Cân yr Adar yn teithio i’r lleoliadau canlynol:
2 Tachwedd - Pontio (Bangor)

3 Tachwedd - Neuadd Dwyfor (Pwllheli)

5 Tachwedd - Theatr Mwldan (Aberteifi)

10 Tachwedd – Canolfan Gelfyddydol Chapter (Caerdydd) – perfformiad i ysgolion, a arweinir gan broject RSPB Cymru, Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd.

10 Tachwedd – Glan yr Afon (Casnewydd)

11 Tachwedd – Coleg Brenhinol Caerdd a Drama Cymru (Caerdydd)

14 Tachwedd – Gŵyl Celfyddydol Hampstead a Gŵyl Jazz EFG Llundain (Eglwys Sant Ioan, Hampstead Heath)

Am rhagor o fanylion ac i fwcio tocynnau, ewch i www.birdsong-canyradar.com os gwelwch yn dda.