Binocwlars a bioddiogelwch - gofalu am ein hadar môr wrth i ni ymweld â nhw

English version available here.

Mae tymor gwylio adar y môr yn ei anterth, wrth i ynysoedd arfordirol Cymru groesawu llawer o ymwelwyr sy’n gobeithio cael cipolwg ar nythfeydd mwyaf niferus a syfrdanol rhai o adar môr y byd. Ond beth yw’r prif fygythiadau i’r adar hyn, a sut gallwn ni chwarae ein rhan i’w helpu?

 Ar Ynys Dewi cewch hyd i frain coesgoch, gwylogod duon, a’r di-ddal, adar drycin Manaw. Mae Ynys Sgomer, a redir gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru, yn gartref i 6,000 o barau palod yn ystod uchafbwynt y cyfnod nythu ym mis Mehefin a Gorffennaf. Mae ymweld â’r ynysoedd hyn yn gyfle gwych i brofi amrywiaeth o fywyd gwyllt, ond rhaid i ni fod yn ofalus gan gofio pa mor fregus yw’r creaduriaid hyn a’u diogelu ar gyfer y dyfodol. 

Ysglafaethwyr digroeso

Mae llawer o’r nythfeydd adar pwysicaf yn ffynnu oherwydd eu bod ar ynysoedd heb ysglyfaethwyr mamalaidd ar y tir. Mae eu habsenoldeb yn hanfodol ar gyfer cadwraeth ein hadar môr ac adar sy’n nythu ar y ddaear i’r dyfodol. Mae ysglyfaethwyr mamalaidd fel llygod mawr, llygod, y carlwm a’r minc yn medru cael effaith dinistriol andwyol ar nythfeydd adar môr ar ynysoedd trwy fwyta’r wyau, y cywion a’r adar hŷn.

 Yn hanesyddol, roedd llygod mawr yn cyrraedd yr ynysoedd ar longddrylliadau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae llygod mawr yn medru addasu yn anhygoel, yn magu yn sydyn, yn bwyta unrhyw beth ac yn nofwyr da. Dros y ganrif nesaf, rheibiwyd ynysoedd fel Ynys Dewi gan lygod mawr goresgynnol a dinistrio poblogaethau adar môr. Erbyn 1999 nid oedd palod ar ôl ar Ynys Dewi, ac roedd poblogaeth adran drycin Manaw mewn perygl ac yn wynebu’r un tranc. Ond gydag ymdrech arwrol gan wirfoddolwyr ac arbenigwyr, llwyddwyd i gael gwared â’r plâu a bellach nid oes yr un llygoden fawr ar Ynys Dewi. Yn yr un modd, roedd Ynys Seiriol - oddi ar Ynys Môn yng Ngogledd Cymru - yn gartref hyfyw i’r palod fridio. Amcangyfrifwyd bod hyd at 50,000 ohonynt ar yr ynys yn 1805. Fodd bynnag, oherwydd i lygod brown gael eu cyflwyno’n ddamweiniol yn 1816, erbyn 1990 - roedd llai nag 20 pâr o balod ar ôl. Ond trwy’r rhaglen waredu, mae poblogaeth y pâl yn adfer yn araf.

Mae nifer o ynysoedd ledled y DU ac yng Nghymru bellach wedi’u gwaredu’n llwyr o blâu, sy’n rhoi cyfle i boblogaethau adar môr adfer eu poblogaeth. Fodd bynnag, ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd bioddiogelwch wrth ymweld yn ystod y tymor gwylio adar. Gyda niferoedd cynyddol o ymwelwyr i’r ynys yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r perygl o lygod mawr a llygod i ddychwelyd yn cynyddu. Yn syml - mae atal yn llawer gwell

Beth yw bioddiogelwch?

Bioddiogelwch yw’r ymarfer o ddiogelu rhag bygythiadau i fywyd gwyllt sy’n deillio oherwydd cyflwyno afiechydon newydd neu fathau o blanhigion neu anifeiliaid nad ydynt yn bodoli’n naturiol yno. Mae adar môr yn dewis nythu ar ynysoedd lle nad oes ysglyfaethwyr y tir, a’u bod yn hyglwyf i gyflwyniad ysglyfaethwyr.  Mae Biosecurity for LIFE, yn bartneriaeth rhwng yr RSPB a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a sefydlwyd i sicrhau bod adar môr ar ynysoedd y DU yn cael eu diogelu. Bwriad y prosiect yw gwella mesurau bioddiogelwch, rhoi hyfforddiant bioddiogelwch i grwpiau cymunedol, a sefydlu hybiau deori cyflym ledled y DU i ymateb i fygythiadau bioddiogelwch a gofnodwyd. Bydd hyn yn codi ymwybyddiaeth o beth yw bioddiogelwch, pam ei fod yn bwysig a pha gamau y gall unigolion eu cymryd wrth ymweld ag unrhyw ynys.

Beth allwch chi ei wneud i helpu i ddiogelu’r adar môr?

I gadw ein hynys arbennig yn fioddiogel, mae yna nifer o bethau y gallwch eu gwneud i helpu os ydych yn ymweld dros yr haf:

  1. Paciwch unrhyw fwyd ar ddiwrnod y daith.
  2. Storiwch unrhyw fwyd mewn cynwysyddion wedi’u selio
  3. Gwiriwch eich bagiau/storle/ gwaelodion am arwyddion o gudd-deithwyr.
  4. Peidiwch glanio ar ynys ar y môr gydag unrhyw famaliaid ar fwrdd y cwch.
  5. Rhowch wybod am unrhyw famaliaid ysglyfaethus estron goresgynnol i wardeiniaid ynys.
  6. Ewch â’ch sbwriel adref gyda chi.

I ddarganfod mwy am gymryd cyfrifoldeb dros eich bioddiogelwch a’r gwaith a wneir i gadw’r ynysoedd hyn yn ddiogel, ewch i wefan Biosecurity LIFE

Lluniau:

Ynys Dewi - David Wootton (rspb-images.com)

Aderyn drycin Manaw - Chris Gomersall (rspb-images.com)