English version available here
RHYBUDD! Peidiwch â darllen os nad ydych wedi gwylio’r rhaglen Wild Isles - Grasslands ar y BBC eto
Llond gwlad o laswellt.
Yn ystod y bennod nos Sul, fe aethon ni ar daith drwy laswelltiroedd cyfoethog ac amrywiol y DU ac Iwerddon, lle cawsom gipolwg ar heriau a helyntion dod o hyd i gymar yn y gwyllt – a oedd ychydig yn wahanol i’r rhaglenni realiti arferol!
Mewn fersiwn bywyd gwyllt o speed-dating, gwelsom Ysgyfarnog Frown fenywaidd yn rhoi Ysgyfarnog Frown wrywaidd ar brawf mewn ffordd na allaf ond ei disgrifio fel proses ddethol ddigyfaddawd. Yn gyntaf, rhoddwyd eu cryfder ewyllys ar brawf mewn sesiwn focsio wyllt, gyda’r gwryw yn gwneud popeth y gallai i hudo’r fenyw gyda’i ddewrder a’i ddycnwch. Nesaf, cafodd ei stamina ei brofi i’r eithaf mewn ras ymlid chwim drwy’r ehangder o laswelltir gwastad roeddent ynddo. Hefyd, fel na phetasai hynny’n ddigon, bu’n rhaid iddo ddangos ei ddyfalbarhad a’i ymrwymiad iddi drwy gadw ysgyfarnogod gwryw eraill draw cyn iddo allu profi ei fod yn gymar teilwng – dim amser i fod yn nerfus cyn y dêt cyntaf felly! Mae Ysgyfarnogod Brown yn nodweddiadol iawn gyda’u ffwr brown euraidd, eu boliau a’u cynffonau gwyn, a’u clustiau hir â blaenau du. Gallant gyrraedd cyflymder o hyd at 45 milltir yr awr, sy’n golygu mai nhw yw’r mamaliaid tir cyflymaf ym Mhrydain. Gallwch eu gweld drwy gydol y flwyddyn, ond mae’r ymddygiad bocsio unigryw hwn i’w weld fwyaf yn gynnar yn y gwanwyn wrth i’r tymor bridio ddechrau. Cadwch lygad am yr anifeiliaid anfarwol hyn yn ein gwarchodfa RSPB Ynys Hir.
Os nad oedd ysgyfarnogod yn bocsio yn mynd â’ch bryd, roedd digon o bethau eraill i’ch diddanu – Grugieir Duon gwryw yn canu i ddenu cymar mewn man paru, gwiberod cariadus a hyddod yn rhidio. Ond yr hyn wnes i ei fwynhau fwyaf oedd gwylio taith beryglus y cyw Cornchwiglen diwrnod oed ar ei daith gyntaf i chwilio am fwyd. Am ddrama! Wrth i’r fam geisio cadw’r wylan gyfrwys draw, daeth mamau eraill i ymuno â’r frwydr – mwyaf y nifer, mwyaf diogel – ac fe roddodd hyn ystyr newydd i’r dywediad sy’n honni bod ‘angen pentref i fagu plentyn’. Ac eto, er gwaethaf eu hymdrechion, ac er bod y cyw bach Cornchwiglen wedi goroesi i wynebu diwrnod arall, ni fu’r cyw Pioden Fôr mor ffodus. Mae Cornchwiglod, a elwir hefyd yn Gornicyll, i’w gweld yn aml ar laswelltir gyda llystyfiant byr, ac mae glaswelltiroedd RSPB Cors Ddyga yn cynnal un o’r nythfeydd mwyaf o Gornchwiglod yng Nghymru. Mae Pïod Môr yn fwy cyffredin mewn ardaloedd arfordirol ac o’u hamgylch, fel ein gwarchodfa RSPB Conwy.
Brwydr i oroesi
Nid yw’r darlun mor obeithiol ag y mae’n ymddangos, yn anffodus. Mae tua 90% o dir Cymru’n cael ei reoli at ddibenion ffermio mewn rhyw ffordd, ac ers gormod o amser bellach mae ffermwyr Cymru wedi bod dan bwysau aruthrol i ddwysáu. Ychydig iawn o ddewis sydd wedi bod ganddynt ond ffermio’n ddwys er mwyn goroesi yn y diwydiant. Mae polisïau anaddas a chynlluniau amgylcheddol annigonol wedi gorfodi ffermwyr i gefnu ar dechnegau ffermio traddodiadol, gan leihau gwytnwch ac ansawdd tir amaethyddol. Mae hyn wedi arwain at ostyngiad enfawr ymysg y rhywogaethau hynny sy’n dibynnu ar dir amaethyddol a reolir yn dda er mwyn goroesi, fel y Gornchwiglen, y Gylfinir a’r Cornicyll Aur.
Ond mae yna obaith
Rydyn ni’n falch iawn o arwain y ffordd gyda’n cynllun ffermio Fair to Nature – yr unig gynllun ffermio yn y DU sy’n rheoli tir ar y raddfa sydd ei hangen er mwyn i fywyd gwyllt allu ffynnu unwaith eto. Mae ein gwaith yn dangos mai’r hyn sydd ei angen i adfer llawer o natur ein tir ffermio yw i 10% o’r holl dir ffermio gael ei reoli’n dda gan gadw natur mewn golwg. Mae’r cynllun yn helpu ffermwyr i greu cynefinoedd amrywiol a reolir yn dda ar eu tir – o borfeydd llawn blodau a choed i glustogfeydd torlannol ffyniannus. Yn ogystal â hyn, mae cynghorwyr Fair to Nature yn helpu i sicrhau bod y gwaith rheoli’n cael ei deilwra i’r rhywogaethau sydd â’r angen mwyaf ar y fferm ac o’i chwmpas. Y nod yw gwella gallu ffermwyr i weithio gyda natur a’u helpu i ddatblygu amgylchedd cynaliadwy lle gallant gynhyrchu bwyd a chynhyrchion eraill er mwyn gallu goroesi a ffynnu mewn diwydiant sy’n newid drwy’r amser.
Mwy na dim ond siarad
Fe wnaethom benderfynu ymgymryd â’r her o ffermio hefyd, er mwyn gallu dangos sut gall ffermio fod o fudd i adar a bywyd gwyllt arall heb i ffermwyr golli incwm, ac mae Hope Farm yn enghraifft wych o hynny.
Ffermwyr yw’r ateb, nid y broblem, ond mae angen ein help arnynt
Mae gan ffermwyr gysylltiad cryf â’r tir yng Nghymru; maent yn falch iawn o’r natur y mae’r tir yn gartref iddo ac maent yn cael mwynhad ohono. Maent am ei weld yn cael ei adfer ac yn awyddus i chwarae rhan yn hynny o beth, ond er mwyn i hynny ddigwydd, rhaid i bolisïau a chynlluniau amgylcheddol fod yn addas i’r diben a galluogi ffermwyr Cymru i symud i ffwrdd oddi wrth amaethyddiaeth ddwys. Yn 2022, gwelwyd y posibilrwydd o ddechrau cyfnod newydd i’r system ffermio yng Nghymru drwy ddatblygu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Mae’r cynllun newydd yn seiliedig ar gynhyrchu bwyd, addasu a lliniaru yn erbyn newid yn yr hinsawdd, gwella cydnerthedd ecosystemau a gwella cefn gwlad ac ymgysylltiad pobl ag ef. Mae’r union fanylion yn dal i gael eu trafod, ond mae hwn yn gyfle hollbwysig i sicrhau bod ffermwyr yn cael eu talu i ofalu am y blociau adeiladu sydd eu hangen arnynt i oroesi, gan gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol a darparu manteision amgylcheddol ehangach i gymdeithas – rhywbeth rydyn ni’n ymdrechu i’w gyflawni ar ein fferm fynydd ger Llyn Efyrnwy.
Mae gennym eisoes enghreifftiau gwych o ffermwyr yn gwneud hyn yng Nghymru ac maent wedi gweld y manteision y gall eu cynnig i’w busnes, ond mae angen i ni alluogi mwy o bobl i wneud yr un peth. Os ydych chi’n ffermwr a bod gennych chi ddiddordeb yn yr hyn y gallwch ei wneud i helpu, tarwch olwg ar ein sefydliad partner Farm Wildlife.