English version available here.
Helo ’na,
Oherwydd Covid-19, mae ein gwaith ymgyrchu wedi gorfod cael ei ohirio felly, yn anffodus, oni bai am y newyddion gwych bod saethu gwyddau talcenwyn yr Ynys Las wedi cael ei wahardd, does gennym ni ddim llawer o wybodaeth i’w rhannu â chi ar hyn o bryd.
Felly, roeddwn i’n meddwl y byddwn i’n achub ar y cyfle hwn i gyflwyno fy hun i chi, i ddweud ychydig am fy nghefndir, ac i rannu fy nodau ar gyfer y misoedd nesaf. Eleri Morus ydw i a fi yw Swyddog Ymgyrchoedd Gwleidyddol RSPB Cymru. Mae hon yn dal yn rôl gymharol newydd. Cafodd y swydd ei chreu dair blynedd yn ôl a'r person cyntaf i ymgymryd â’r rôl oedd Natasha York-Edgell, sydd wedi mynd ymlaen i fod yn Bennaeth Ymgyrchoedd ar gyfer y DU gyfan. Dim pwysau, felly! Rydw i’n credu bod hyn yn dangos pa mor gyffrous, blaengar a meddwl agored yw’r amgylchedd mae Cymru’n ei gynnig i ymgyrchwyr fel ni.
Cyn i mi ddechrau gweithio i RSPB Cymru, roeddwn i’n ymwneud â Chyfeillion y Ddaear, sef Mudiad Amgylcheddol Anllywodraethol ar gyfer ymgyrchu gwleidyddol, sy’n arbenigo mewn ysbrydoli ac ymgysylltu â’i gefnogwyr i gymryd camau gweithredu pellach yng nghyswllt yr hinsawdd mewn cymunedau.
Roedd 2019 yn flwyddyn llawn protestiadau natur a hinsawdd byd-eang ac mae'r teimlad o weithredu, grymuso a chyfiawnder wnaeth ddeillio o hynny yn dal i’w deimlo yn yr aer. Hoffwn ddefnyddio’r craidd cyffrous hwn i helpu RSPB Cymru i fod yn arloesol o ran y ffordd mae’n cynnal ymgyrchoedd.
Tra mae pandemig Covid-19 yn datblygu, rydyn ni’n deall nad yw ymgyrchoedd hinsawdd ar flaen meddyliau pobl. Yn hytrach, mae pobl yn gwneud gwaith hollbwysig o ofalu am eu hunain ac eraill, boed y rheini’n deulu, ffrindiau, cymdogion neu'r gymuned leol.
Mae’r RSPB yn ceisio adlewyrchu hyn, ac mae ein gwaith cfathrebu wedi bod yn seiliedig ar hunan-ofal drwy hybu gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar yr hapusrwydd y gall natur ei roi i ni, fel ein gweithgaredd Gwylio Adar Amser Brecwast. Rydyn ni hefyd yn cydweithio â sefydliadau eraill fel The Mental Health Collective i ofalu am lesiant meddyliol pobl, sy’n hollbwysig yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Edrych tua’r dyfodol
Er gwaetha’r holl waith caled hwn, dydyn ni ddim eisiau anghofio am ein nodau. Mae materion amgylcheddol yn dal yn mynd rhagddynt ac mae RSPB Cymru yn defnyddio'r amser hwn i weithio gyda sefydliadau eraill er mwyn sicrhau, pan fydd y storm yn cilio, ein bod yn gallu dod yn ôl yn gryfach ac yn fwy brwd nag erioed.
Rwy'n siŵr eich bod chi, fel llawer ohonom ni yma yn RSPB Cymru, yn teimlo'n ddiolchgar am yr harddwch a'r sicrwydd y mae natur wedi'u darparu inni trwy'r amseroedd ansicr hyn. Mae angen i ni ad-dalu’r diolch hwnnw trwy edrych allan am unrhyw gyfle i amddiffyn natur, boed hynny, ymhlith pethau eraill, yn pwyso am yr holl dargedau natur pwysig, deddfau ar egwyddorion amgylcheddol a llywodraethu neu gynllun talu amaeth-amgylchedd newydd i ffermwyr.
Un peth pwysig y byddwn yn canolbwyntio arno yn ystod y misoedd nesaf yw ymgysylltu â chi, ein hymgyrchwyr, ar lefel fwy personol. Fel y nodais eisoes yn y blog yma, rydw i’n credu bod angen i ni fanteisio ar y sefyllfa bresennol i gefnogi ac ysbrydoli pobl i fod yn flaengar ac i weithredu. Dyma pam rydyn ni eisiau clywed gennych chi. Plîs llenwch ein harolwg i ddweud sut y gall yr RSPB gychyn datblygu cysylltiad cryfach gyda’n ymgyrchwyr. Ar ôl i ni gael y canlyniadau, gallwn fynd ati i drefnu gweithgareddau ar-lein, i ddarparu cyfle i rwydweithio â’n gilydd, ac i gydweithio â’n gilydd yn agosach nag ydyn ni wedi’i wneud yn y gorffennol, gyda gobaith. Cadwch lygad am y cam nesaf!
Os oes gennych chi rywfaint o syniadau am sut hoffech chi weithio gyda’r RSPB ar ei ymgyrchoedd neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi anfon e-bost ataf yn uniongyrchol yn campaigns.wales@rspb.org.uk.
Mae’r cynadleddau hinsawdd a bioamrywiaeth byd-eang pwysig oedd i fod i gael eu cynnal yn ystod yr hydref eleni wedi cael eu gwthio ymlaen i 2021. Er bod hyn yn arafu ein cynlluniau, mae’n symud y digwyddiadau hollbwysig hyn yn nes at Etholiadau Cynulliad Cymru ym mis Mai 2021. Os gwnawn ni ddechrau datblygu a chryfhau cysylltiadau gyda’n gilydd nawr, byddwn yn uned gref erbyn y flwyddyn nesaf a gallwn sicrhau y bydd yn flwyddyn wych i natur.
Diolch,
Eleni