English version available here
I ddathlu pob person ifanc 16-24 oed yn cael cyfle i gael mynediad am ddim i holl warchodfeydd RSPB Cymru, fe wnaethom ofyn i’n hintern ifanc, Freya, ddweud beth mae natur yn ei olygu iddi hi.
“Tawelwch, heddwch a chael fy nerbyn. Dyma fydda i’n feddwl amdano wrth feddwl am fod ym myd natur. Roeddwn i’n ddigon ffodus i dyfu i fyny yn cael crwydro anialwch Dartmoor; rwy’n teimlo’n fwy cartrefol mewn coedwig dawel nag ar strydoedd prysur Llundain. Serch hynny, dim ond yn ddiweddar ydw i wedi dod i ddeall manteision go iawn bod yn bresennol ym myd natur; mae’n caniatáu i mi gael persbectif ar fwrlwm bywyd, cael lle i adael i bethau fynd, ac ymddangos yn union fel yr ydw i yn y foment honno.
Dwi’n ddigon ffodus i fyw yng Ngogledd Cymru lle rydyn ni’n cael ein hamgylchynu gan goedwigoedd mwsoglog disglair, mynyddoedd uchel a llynnoedd tywyll dwfn. Mae treulio amser ym myd natur yn fy ngorfodi i symud allan o’m pen ac i’m corff. Fel llawer o bobl, rydw i wedi cael fy siâr o orbryder ac iselder. Mae hyn wedi bod yn gatalydd i gryfhau’r arferion hunanofal sy’n cadw fy nhraed ar y ddaear drwy’r fyny ac i lawr gyda fy iechyd meddwl. Rydw i’n meddwl mai’r hyn sy’n hyfryd am fod ym myd natur (ac mewn rhyw ffordd yn rhan ohono) yw nad oes disgwyliadau, gallwch fod yn hapus, yn drist neu’n isel – does dim gofyniad nac angen ac rydw i’n teimlo bod hynny o fudd mawr. Mae natur wedi dod yn lle diogel lle gallaf deimlo fy mod yn cael fy nghofleidio heb orfod gwneud unrhyw beth ar wahân i fodoli.
Un o fy hoff adegau ym myd natur yw pan fyddaf yn cerdded i fyny’r mynydd wrth ymyl fy nhŷ i lyn cudd. Mae fy nghoesau’n llosgi wrth ymlwybro ar i fyny, ond yn tawelu wrth i’m system nerfol ddechrau rhyddhau, llonyddwch yw’r prif deimlad wrth i mi fynd yn uwch ac wrth i’r byd fynd yn llai. Wrth i amser basio, mae fy synhwyrau’n dod yn fwy cyfarwydd â’r amgylchedd ac mae fy emosiynau’n meddalu. Rwy’n dechrau sylwi ar yr awel yn erbyn fy moch, glaswellt y gors yn dawnsio yn y gwynt, gweadau’r mwsogl a’r cen yn erbyn craig dolciog, cromliniau ac ymylon syth y mynyddoedd yn y pellter. Yr hyn rwy’n ei garu fwyaf am fod yn y mynyddoedd yw eu bod nhw’n gallu rhoi bywyd mewn persbectif, maen nhw wedi gweld dyfnderoedd amser – mae ein hoes ddynol mor fach o’i gymharu, mae hyn yn gathartig i mi. Mae bod ym myd natur yn brofiad corff cyfan o fy meddwl i lawr i fodiau fy nhraed, mae’n teimlo’n ddwys ac yn real. Rwy’n mwynhau hynny oherwydd bod cymaint o’m hamser yn cael ei dreulio’n pendroni am bethau ac rwy’n anghofio cysylltu â’m corff.
Bydd manteision treulio amser ym myd natur, boed hynny’n 5 munud neu’n 5 awr, bob amser o fudd i mi. Does dim geiriau bob tro i ddisgrifio effaith natur a manteision ei fwynhau ar wahân ei fod yn teimlo fel math unigryw o hud a lledrith. Weithiau mae’n gallu bod yn anodd delio ag iechyd meddwl, serch hynny, mae fy mherthynas â natur a’r byd naturiol wedi gwella a dyfnhau oherwydd fy iechyd meddwl, a byddaf yn ddiolchgar am hynny am byth”.