English version available here.
Ond beth fydd yn rhaid ei wneud i gyrraedd y fan honno a sut allwn ni osgoi llithro’n ôl i hen arferion, anghynaladwy? Rydym wedi holi nifer o bobl sydd wedi cymryd rhan yng ngŵyl yr wythnos hon a dyma beth oedd gan rai ohonynt i’w ddweud:
Matt Rayment, economegydd
Buddsoddi £68 miliwn mewn adfer ac ehangu cynefinoedd (coetiroedd, rhostiroedd, mawnogydd, gwlyptiroedd a’r arfordir) yng Nghymru bob blwyddyn am y 10 mlynedd nesaf. Byddai hyn yn creu 1000 o swyddi, yn cyflawni blaenoriaethau natur, storio carbon, cryfhau cyfalaf naturiol a bydd yn creu buddiannau i bobl a’r economi.
Cyfarwyddwr Coed Cadw, Natalie Buttriss
Taliadau cefnogi ffermydd y dyfodol i gynnwys cynllun Gwrychoedd ac Ymylon a fydd ar gael i bawb sy’n buddsoddi arian cyhoeddus yn seilwaith gwyrdd ffermydd gan roi cymorth uniongyrchol gweladwy i amaethyddiaeth gyda buddiannau cyhoeddus pendant i fywyd gwyllt, rheoli adnoddau dŵr a storio carbon.
Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford
Canolbwyntio ar ‘y pethau bychain’ – fel y bydd gan bawb natur ar garreg eu drws ac y gallwn helpu i ofalu amdano, ac y byddwn yn ei werthfawrogi. Gerddi blodau gwyllt, rhandiroedd, coetiroedd. Mi all rhannu’r ymrwymiad i’r pethau bychain ddylanwadu ar y penderfyniadau mawr rydym yn eu gwneud.
Cyfarwyddwr RSPB Cymru, Katie-Jo Luxton
Sefydlu cynllun cyflogadwyedd a hyfforddi Gweithlu Gwyrdd i ddiwallu’r anghenion cyflogaeth gyfredol, gan gynnwys darparu hyfforddiant newydd i bobl ifanc yn ogystal â rhai a wnaed yn ddi-waith yn ddiweddar i helpu i sicrhau swyddi gwyrdd a chyfrannu at adferiad cynefinoedd naturiol Cymru ac economi carbon niwtral.
Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Sophie Howe
Cefnogaeth i raglen genedlaethol i ôl-osod cartrefi. Mae prosiect Ail-egnïo Cymru’r Sefydliad Materion Cymreig wedi amcangyfrif bod angen buddsoddiad o £5 biliwn am gyfnod o 15 mlynedd ond y byddai hynny'n arwain at gynnydd o £2.2 biliwn yn GVA economi Cymru, ac arbediad o tua £350 i bob aelwyd a thua £67 miliwn o arbedion i’r gwasanaeth iechyd.
Cyfarwyddwr Black Mountains College, Ben Rawlence
Os ydym am gael dyfodol mwy gwyrdd rhaid ei addysgu. Nid oes dim y mae mwy o frys amdano na galluogi cenedlaethau’r dyfodol i wynebu heriau creadigol ac addasedig planed gynhesach a mwy ansicr.
Llefarydd Materion Gwledig Plaid Cymru, Llŷr Huws Griffiths AS
Pennu safonau ar gyfer effeithlonrwydd carbon fel rhan o gaffael cyhoeddus i hybu mwy o ddefnydd o opsiynau carbon isel. Dylai cyrff cyhoeddus hefyd gyhoeddi cofrestru o ble maent yn cael nwyddau a gwasanaethau i helpu i annog mwy o gaffael lleol a lleihau milltiroedd bwyd.
Cyfarwyddwr Cymdeithas y Tirfeddianwyr, Cymru, Nigel Hollett
Mae Strategaeth Coetiroedd i Gymru Llywodraeth Cymru a’r argyfwng presennol yn gyfle i gymell creu coetiroedd bychain mewn rhannu llai cynhyrchiol o ffermydd Cymru. Byddai cefnogaeth i amaeth-goedwigaeth a rheoli coetiroedd/coedwigoedd mewn ffordd gynaliadwy yn helpu i liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd a chynhyrchu deunyddiau gwyrdd ar gyfer datblygiadau tai ar raddfa fach.
Dr Ludivine Petetin, Prifysgol Caerdydd
Dylem lunio polisi amaeth-fwyd cyfannol sy’n fwy democrataidd ac aml-lefel ei natur gyda phwyslais ar gynhyrchu bwyd cynaliadwy lleol, Cymreig, cyflogi gweithwyr lleol ac annog bwyta cynnyrch tymhorol ac iach, ac ar yr un pryd cynnal sicrwydd bwyd.
Arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru, Anthony Slaughter
Mae’n hen bryd cael Bargen Werdd gredadwy. Mae angen newid yn gyflym a chyfiawn at economi sero carbon gyda buddsoddiad mewn swyddi gwyrdd, seilwaith a chymunedau. Rhaid i warchod ac adfer natur a bioamrywiaeth fod yn flaenoriaeth.
Cynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru a Maniffesto Bwyd Cymru, Jane Powell
Rhaid i Adferiad Gwyrdd weithio i bawb. Rhaid i’n system fwyd gael cydweithrediad a hyder ffermwyr, busnesau, aelwydydd a llunwyr polisi, gyda chamau y gallwn eu cyflawni ar bob lefel i addysgu ac ysbrydoli gwybodaeth am natur, cynhyrchu bwyd a choginio cartref, a chefnogaeth i gael cenedl iach, amrywiol a chydnerth.
Llefarydd Materion Gwledig Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, William Powell
Mae Adferiad Gwyrdd i Gymru yn dibynnu ar drawsnewid Deddf Cynllunio (Cymru) 2016. Yn benodol, dylai’r genhedlaeth nesaf o wariant cyhoeddus ar seilwaith, ysgolion, ysbytai a chanolfannau trafnidiaeth gyhoeddus, fod yn garbon niwtral o leiaf ac yn garbon negyddol pan fo hynny’n bosibl.
Prif Swyddog Gweithredol y Comisiwn Bwyd, Ffermio a Chefn Gwlad, Sue Pritchard
Dylai pawb allu cael bwyd iach sy’n wedi’u gynhyrchu’n gynaliadwy. Mae cyswllt anorfod rhwng hyn a phenderfyniadau ar iechyd a llesiant, ffermio, defnydd o dir, adferiad natur a’r economi wledig. Er mwyn newid mewn ffordd deg, rhaid sicrhau buddsoddiad cyhoeddus i gyflawni uchelgais fframwaith cyfreithiol Cymru.
Cadeirydd Rhwydwaith Ffermio Cyfeillgar i Natur Cymru, Hilary Kehoe
Cynnal ac ailgyfeirio taliadau uniongyrchol tuag at ffermio cyfeillgar i natur prif ffrwd: dylai polisi amaethyddiaeth newydd fod yn seiliedig ar arian cyhoeddus am nwyddau cyhoeddus sy’n gwobrwyo ffermio cyfeillgar i natur a’r buddiannau amgylcheddol lluosog sy’n dod yn ei sgil.
Prif Weithredwr Ffermwyr a Thyfwyr Organig, Roger Kerr
Mae angen buddsoddi mewn rhaglenni ymchwil a datblygu agro-ecolegol a Chyfnewid Gwybodaeth. Bydd costau tymor hir, yn gymdeithasol ac economaidd, yn lleihau’n sylweddol drwy fynd i’r afael â’n heriau mwyaf drwy help i ffermwyr a busnesau wrth iddynt droi at systemau y profwyd sy’n amrywiol a chadarn.
Llefarydd Gwledig Ceidwadwyr Cymru, Andrew R T Davies AS
Os ydym am weld adferiad economaidd gwyrdd rhaid inni fynd â phobl a chymunedau ar daith. Byddai Ceidwadwyr Cymru’n cyflwyno cynulliad dinasyddion i sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed yn eglur.
Pennaeth Polisi Undeb Amaethwyr Cymru, Nick Fenwick
Mae angen cadw at yr arferion da a ddatblygwyd o ganlyniad i gefndir trychinebus y pandemig drwy ymyriadau rhagweithiol o’r brig. Mae datganiadau i’r wasg sy’n dweud ‘prynwch yn lleol’ yn gwbl ddiwerth os yw polisïau, biwrocratiaeth a chostau’n atal cynhyrchwyr bwyd, lladd-dai bychain neu siopau pentref Cymru.
Cyfarwyddwr Cynorthwyol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru, Rebecca Williams
“Mae ein bywydau’n rhy llawn, yn rhy gyflym ac yn rhy swnllyd. Mae angen tawelwch arnom. Mae angen harddwch arnom. Mae angen lle i anadlu arnom.” Mae geiriau sylfaenydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Octavia Hill yr un mor berthnasol heddiw ag oeddent 125 mlynedd yn ôl. Rhaid i’r Adferiad Gwyrdd gydnabod bod mynediad at natur, harddwch a hanes yn hanfodol i’n llesiant a rhaid i hyn fod yn ganolog i bolisïau’r dyfodol.
Er bod yr wŷl wedi dod i derfyn, mae dal posib i chi wylio’r holl sesiynau, yn ogystal â lawr-lwytho’r gweithgareddau a darllen ein blogs trwy fyn ar wefan Adferiad Gwyrdd Cymru.