English version available here
RHYBUDD! Peidiwch â darllen os nad ydych wedi gwylio’r rhaglen Wild Isles – Y Môr ar y BBC eto
Aeth pennod yr wythnos hon â ni o’r ardal fwyaf deheuol yn y Deyrnas Unedig i’r ardal bellaf yn y Gogledd. Ledled y Deyrnas Unedig ac Iwerddon, mae ein harfordir yn ymestyn 22,000 o filltiroedd, ac nid oes yr un ohonom yn byw dros 70 milltir o’r môr. Ond faint ohonom sydd erioed wedi bod yn ddigon lwcus i blymio o dan y tonnau a gweld y rhyfeddodau sydd yno? Unwaith eto, roedd y bennod hon yn un gwerth chweil, gyda Morloi Llwyd tiriogaethol, Dyfrgwn chwareus a chywion fflwfflyd adar Drycin Manaw yn hedfan am y tro cyntaf.
Brwydro drwy’r bloneg
A oedd unrhyw un arall ar bigau drain wrth i ni wylio lloi y Morloi Llwyd yn gwneud eu gorau glas i symud o ffordd y morloi gwryw cryf a thrwm iawn a ddaeth i’r lan i baru? Roedd y morloi gwryw mwyaf, a oedd yn pwyso 350kg ac yn mesur tua 3m, yn cystadlu am safle yn y grwpiau o fenywod magu. Arweiniodd hyn at frwydr aruthrol rhwng dau forlo gwryw penodol, gyda’r lloi druan yn ceisio osgoi cael eu gwasgu o dan eu pwysau - tipyn o gamp i rai bach newydd gael eu geni dyddiau ynghynt! Morloi Llwyd yw’r morloi mwyaf prin yn y byd ac mae 40% o’r boblogaeth yn dibynnu ar y moroedd o amgylch y DU ac Iwerddon, gyda Chymru’n gadarnle pwysig. Mae tymor lloia y Morloi Llwyd yn dechrau mor gynnar â mis Medi yng Nghymru, ac arfordir Sir Benfro yw’r lle gorau i gael cipolwg arnynt. Mae’r niferoedd yma’n dda ar hyn o bryd ond maent mewn perygl o hyd oherwydd gweithgarwch pobl a llygredd plastig.
Yn ôl o’r dibyn
Roedd y bennod forol hefyd yn rhoi cipolwg i ni ar ymddygiad hyfryd a chwareus Dyfrgwn, sy’n aml yn gysylltiedig â’n hafonydd yn hytrach na’n moroedd. Gwelsom sut roedden nhw’n llywio eu ffordd drwy’r dyfroedd gogleddol oer yn chwilio am ysglyfaeth, gan blymio i ddyfnder o hyd at ddeg metr a dal eu hanadl am tua 90 eiliad ar y tro. Roeddwn i’n gwenu fel giât wrth wylio Dyfrgi ifanc yn gwledda ar ei ginio o weflogyn - roedd o fel plentyn bach gyda thegan newydd! Yn weddol ddiweddar, yn y 1950au, roedd Dyfrgwn ar fin diflannu yn y DU oherwydd dinistrio cynefinoedd, hela a chemegau yn gollwng i gyrsiau dŵr. Ers hynny, mae Dyfrgwn yn cael eu diogelu gan y gyfraith, mae’r cemegion wedi cael eu gwahardd, gan wella ansawdd dŵr, ac mae eu niferoedd wedi sefydlogi. Fodd bynnag, llygredd yn ein moroedd yw un o’u bygythiadau mwyaf o hyd. Os ydych chi eisiau gweld y creaduriaid difyr hyn yn y gwyllt, beth am alw draw i warchodfa Ynys-Hir.
Cyfrinach orau Cymru
Adar Drycin Manaw. Mae arfordir Prydain ac Iwerddon yn gartref i’r boblogaeth fyd-eang bron iawn, gyda Chymru’n dal dros 50%. Roedd hi’n anodd peidio â chael ein hysbrydoli gan yr adar môr hudolus hyn, yn enwedig wrth i ni wylio’r cywion fflwfflyd, trwsgl yn paratoi i hedfan ar eu pen eu hunain am y tro cyntaf. Ac nid unrhyw daith oedd hon. Na, doedd hyn ddim yn daith brawf o un wyneb clogwyn i un arall, roedd hon yn daith beryglus a llafurus o arfordir Cymru i Dde America, bron i 6000km i ffwrdd. Dychmygwch yrru mor bell â hynny mewn car cyn i chi ddechrau ymarfer hyd yn oed! Mae’r aderyn Drycin Manaw yn fach gydag adenydd tenau hir a syth, sy’n ddu uwchben ac yn wyn o danynt. Gan ddefnyddio cyfres o fflapiau cyflym stiff maen nhw’n llithro dros wyneb y môr ar adenydd syth a stiff. O bryd i’w gilydd, maen nhw’n defnyddio newidiadau yng nghyflymder y gwynt i lywio drwy’r awyr, sef y ‘shearing’ y mae eu henw Saesneg yn cyfeirio ato (The Manx Shearwater). Ar hyn o bryd, maent i’w gweld yn eu holl ogoniant yn ein gwarchodfa RSPB ar Ynys Dewi, lle byddan nhw’n aros tan fis Gorffennaf cyn symud yn ôl i Dde America i dreulio’r Gaeaf. Ysglyfaethwyr a llygredd yw eu bygythiadau mwyaf o hyd, a dyna pam ein bod yn gwneud ein gorau glas i gadw Ynys Dewi yn rhydd o lygod mawr drwy weithredu mesurau bioddiogelwch cadarn.