BBC Wild Isles - Pennod 4 - Dŵr Croyw

English version available here.

RHYBUDD! Peidiwch â darllen ymlaen os nad ydych wedi gwylio rhaglen y BBC Wild Isles - Freshwater - eto

Aeth pennod yr wythnos hon â ni o geg yr afon, yr holl ffordd i fyny i’r ucheldiroedd lle mae’r dŵr croyw yn dechrau fel nentydd bach. Ar draws y Deyrnas Unedig mae dros 10,000 o afonydd, pob un yn achubiaeth hollbwysig i fyd natur. O Wyachod yn dawnsio ac eogiaid yn neidio i frwydrau tebyg i’r  un rhwng Dafydd a Goliath, unwaith eto roedd y bennod hon yn cynnwys y cyfan.

Mwy nag un cam bach i’r rhan fwyaf o bysgod, un naid enfawr i eogiaid.

Pwy na allai eistedd mewn rhyfeddod a gwylio camp anhygoel yr eogiaid yn llamu i fyny rhaeadr tri metr o uchder. Yr hyn sy’n gwneud y gamp hon yn fwy rhyfeddol yw, hyd yn oed ar ôl blynyddoedd i ffwrdd ar y môr, diolch i signalau cemegol, mae eogiaid yn gallu dychwelyd i’r afon lle cawsant eu geni ac i’w hardal fagu. Yr hyn sy’n gwneud y creaduriaid hyn yn fwy gwych fyth yw’r ffordd y mae eu lliw arian pan oeddynt yn y môr yn troi’n lliw tywyllach er mwyn cuddio’u hunain yn erbyn gwely’r afon.

Ond er gwaethaf y delweddau gwych o’r eogiaid yn nofio’n ôl i fyny’r llif, diolch i’r naid tri metr honno, y realiti yw bod niferoedd eogiaid yn gostwng yn sylweddol, gyda chwymp o 70% yn nifer yr eogiaid sy’n dychwelyd. Os na fydd pethau’n gwella’n ddramatig o fewn yr 20 mlynedd nesaf, bydd eogiaid yn diflannu’n llwyr o’n hafonydd, gan adael bwlch gwag yn y 50 neu fwy o afonydd lle y gellir dod o hyd i eogiaid yng Nghymru. Os ydych chi eisiau cael cipolwg ar y pysgod hardd hyn, yna maen nhw i’w gweld ar ein gwarchodfa yn Ynys-Hir.

Brwydr i oroesi

Roedd y bennod am ddŵr croyw hefyd yn rhoi cipolwg i ni ar sut mae rhai o’n creaduriaid hardd yn goroesi drwy hela am eu bwyd. Mewn un olygfa drawiadol o’r bennod, gwelwyd brwydr yn yr awyr, wrth i’r cudyll coch amseru pethau’n gywir drwy ddod yn ôl o Affrica yn y gaeaf i ddal gweision y neidr wrth iddynt ymddangos – golygfa brin ond un a gipiwyd yn hyfryd ar gamera. Cymaint yw deallusrwydd y cudyll, fel ei fod yn bwyta ar yr adain, cyn hedfan o gwmpas er mwyn sgubo i lawr eto i ddal y cannoedd o weision y neidr sy’n ymddangos.  Gellir gweld y cudyll coch yn ystod misoedd yr haf ar ein gwarchodfa yn Llyn Efyrnwy  ond cofiwch gadw’ch pellter gan ei fod yn aderyn Atodlen 1 dan y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad ac yn cael gwarchodaeth ychwanegol.

Mae angen dau Wyach i ddawnsio’r tango

Byddwn i’n dychmygu bod y rhan fwyaf ohonoch chi sy’n darllen y blog hwn wedi ceisio creu argraff ar berson arall rhyw dro drwy arddangos eich dawn i ddawnsio. Ond byddwn i’n cwestiynu a oedd unrhyw un ohonoch mor drawiadol â dawns baru’r Gwyachod mawr copog. Gall y ddawns bara am sawl munud cyn i bob Gwyach fynd i’w gyfeiriad ei hun. Y rheswm dros y ddefod hon yw creu cwlwm carwriaeth cryf rhwng y gwryw a’r fenyw.

Os hoffech chi gael cipolwg ar y ddefod urddasol hon, sy’n cynnwys rhywfaint o ysgwyd pen, trochi pig, a hyd yn oed gorchuddio’u hunain mewn chwyn, beth am ymweld â’n gwarchodfa yn Ynys-hir un bore cynnar yn y Gwanwyn. Beth sy’n gwneud y ddawns hon hyd yn oed yn fwy arbennig, fel y clywsom yn y rhaglen – mae Gwyachod sy’n dawnsio gyda’i gilydd, yn aros gyda’i gilydd.

Ond nid Gwyachod yn dawnsio ac eogiaid yn llamu yw realiti’r sefyllfa. Mae cysylltiad rhwng bioamrywiaeth a’r argyfwng hinsawdd ac maent yn cael effaith ddinistriol ar ddyfrffyrdd ac aberoedd ledled Cymru.  Nid yw hanner yr afonydd a’r llynnoedd mewn cyflwr da ar gyfer byd natur. Fel arbenigwyr ym maes adfer arfordirol ac afonydd, rydym yn arwain y ffordd o ran diogelu’r cynefinoedd hanfodol hyn ar gyfer adar mudol rhyngwladol, llyswennod, eogiaid a’r bywyd gwyllt sy’n dibynnu ar y cyrsiau dŵr hyn. Gall dyfrffyrdd sy’n cael eu rheoli’n dda ddiogelu cartrefi a chymunedau rhag llifogydd a chyfnodau o sychder hefyd.