BBC Wild Isles - Pennod 3 - Glastwelltiroedd

English version available here

RHYBUDD! Peidiwch darllen yr isod os nad ydych eisioes wedi gwylio Wild Isles - Grasslands

Rydyn ni bellach wedi gwylio’r rhyfeddodau yn nhrydydd pennod y gyfres Wild Isles, yn archwilio glaswelltiroedd helaeth yr ynysoedd hyn a’r creaduriaid bach a mawr sy’n eu crwydro. Mae modd i ni gael cipolwg ar lawer o’r rhain ar hyd a lled Cymru - darllenwch fwy i gael gwybod ymhle mae eu canfod nhw...

Yn y rhaglen heno, gwelsom ysgyfarnog gwryw yn ceisio creu argraff ar fenyw gyda safonau uchel iawn, ac hefyd fe wnaethom ni ddysgu’n gynnar iawn yn y bennod bod y DU wedi colli tua 95% o’i dolydd blodau gwyllt ers y 1930au pan oedd Syr David Attenborough yn blentyn. Mae’n ffaith sy’n ddigon i’ch sobri chi, ond mae’n hollbwysig i’w chynnwys yn y bennod hon wrth edrych a dysgu am yr amrywiaeth eang o adar, pryfed a mamaliaid sy’n dibynnu ar ein cynefinoedd glaswelltir.

Gwelsom ni adar sy’n nythu ar y ddaear fel y gornchwiglen a’r bioden tôr yn gweithio fel cymuned i amddiffyn eu cywion bach rhag gwylan gyffredin fygythiol. Wrth ystyried y gystadleuaeth naturiol sydd fel arfer yn bodoli ymysg gwahanol rywogaethau, roedd hyn yn ddiddorol dros ben. Rydyn ni’n ffodus o gael sawl lleoliad yng Nghymru lle gallwch chi weld heidiau o gornchwiglod gwych; RSPB Cors Ddyga yn Ynys Môn yw’r lleoliad gorau i’w gweld.

 

Tir pori penigamp

Mae’r gyfres hon wedi cyfeirio’n aml at Ffermio sy’n Ystyriol o Natur - rydyn ni wir yn gwybod pa mor bwysig yw hyn i ddyfodol ein bywyd gwyllt yng Nghymru gan mai tir fferm yw 85% o’r wlad. Ond gwelsom ni wahanol fath o Ffermio sy’n Ystyriol o Natur heno, wrth i ni weld rhywogaethau brodorol hynafol fel ceffylau a gwartheg gwyllt yn pori glaswelltiroedd enfawr, yn gwneud lle i lystyfiant, ac yn darparu cynefinoedd ar gyfer pob math o fywyd gwyllt. I gael enghraifft wych o’r ffordd hynafol hon o ffermio gyda natur yng Nghymru, mae’n werth ymweld â’r Coedwigoedd Glaw Celtaidd. Er enghraifft, yn RSPB Ynys-hir rydyn ni’n defnyddio gwartheg yr ucheldir fel ffermwyr naturiol.

Gwelsom ni senario ‘Dafydd a Goliath’ (neu dylluan a llygoden, yn hytrach!) rhwng y Dylluan Glustiog a Llygoden y Gwair. Mae eu niferoedd wedi gostwng yn sylweddol oherwydd - ie, unwaith yn rhagor - colli cynefinoedd. Mae gennym ni sawl ardal yng Nghymru lle mae Tylluanod Clustiog yn aml yn cael eu gweld – mae RSPB Ynys Dewi hyd yn oed wedi eu croesawu yn y gorffennol, ynghyd â Thylluanod Bach preswyl!

Wrth i ni wylio’r Saerwenynen mewn rhyfeddod yn ceisio dod o hyd i’r lloches perffaith ar gyfer ei hwyau, daethom hefyd i ddeall bod traean o’n bwyd yn cael eu peillio gan wenyn. Dyna pam mae’n fater o frys ein bod ni’n gallu adfywio dolydd sy’n cynnal y pryfed peillio hyn. Rydyn ni wedi colli hanner rhywogaethau gloÿnnod byw brodorol y DU, ond cawsom ni weld lindys arbennig iawn yn profi pawb yn anghywir pan oedd morgrug yn ceisio ei fwyta; a dros amser yn datblygu i fod yn Glesyn Mawr mawreddog, a hynny ar ôl twyllo nythfa o forgrug (drwy hylif gwenwynig sy’n debyg i fêl, ynghyd â synnau campus) mai’r Glesyn Mawr hwnnw yw Brenhines y Morgrug!


Pŵer blodau

Mae helpu ein pryfed peillio yn rhywbeth y gallwn ni i gyd ei wneud ar hyd a lled Cymru, p’un ai a ydyn ni’n byw mewn lleoliad gwledig neu drefol. Bydd plannu blodau gwyllt brodorol yn y gwanwyn a’r hydref yn rhoi budd mawr i’ch gardd chi, yn ogystal â’r gwenyn a’r gloÿnnod byw lleol.

Roedd brwydr ddwys rhwng dau Grugiar Ddu gwryw yn ddiddorol iawn, wrth iddyn nhw fynd benben â’i gilydd i gael goruchafiaeth o’r man paru. Mae’r Grugiar Ddu wedi wynebu llawer o drallod, ac erbyn hyn mae ar y rhestr goch er bod ymdrechion cadwraeth yn ystod y degawdau diwethaf wedi gwella’r sefyllfa i’r adar prydferth hyn. Gallwch chi weld y Grugieir Du gwryw yn perfformio defod baru ddifyr os ydych chi am ymuno â ni’n gynnar ar un o’n teithiau tywys yng Nghoedwig Llandegla bob gwanwyn.

Yn hanesyddol, mae’r Boda Tinwyn wedi dioddef erledigaeth anghyfreithlon – gorffennol trist sy’n fwy dryslyd fyth pan welwch chi’r rhain yn dawnsio’n wych yn yr awyr, yn gwehydda, ac yn hedfan yn hamddenol. Roedd gweld y gwryw a’r fenyw yn pasio bwyd i’w gilydd yn yr awyr yr un mor drawiadol - mae hyn yn arbenigedd i’r adar hyn. Diolch byth, maen nhw i’w gweld yn yr awyr unwaith yn rhagor dros y degawdau diwethaf, ac er eu bod nhw’n parhau i fod ar y rhestr goch, rydyn ni’n ffodus iawn o gael gweld y Bodaod tinwyn yn RSPB Llyn Efyrnwy.

Rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw at wylio’r bedwaredd bennod o Wild Isles, a fydd yn canolbwyntio ar y bywyd gwyllt yn ein dyfroedd croyw - ac rydyn ni’n edrych ymlaen hefyd at eich helpu chi i grwydro’r rhannau o Gymru lle bydd modd i chi weld rhai ohonyn nhw â’ch llygaid eich hun!