English version available here.
RHYBUDD! Peidiwch darllen yr isod os nad ydych eisioes wedi gwylio Wild Isles - Woodlands
Roedd y bennod yr wythnos hon yn canolbwyntio ar goetiroedd, yn ogystal â’r planhigion a’r anifeiliaid amrywiol sy’n eu galw’n gartref; y baedd gwyllt, y robin goch, a’r ffwng sy’n tyfu ar y ddaear.
Un o uchafbwyntiau ail bennod y gyfres Wild Isles ar BBC One oedd perfformiad anhygoel y drudwennod. Os nad ydych chi wedi gweld y ffenomen hon o’r blaen, yna dylai ymweliad â naill ai Gwlyptiroedd Casnewydd, Conwy neu Ynys Hir fod yn uchel ar eich rhestr flaenoriaeth. Os ydych chi’n bwriadu gweld yr olygfa arbennig hon, yna byddai’n syniad i chi gyrraedd y lleoliad ychydig cyn y cyfnos – dyna pryd y mae'r drudwennod yn dechrau ymgynnull i noswylio ac yn dechrau eu perfformiad.
Er ei fod yn aderyn cyffredin, a’r ffaith ei fod yn treulio’r rhan fwyaf o’r flwyddyn mewn heidiau, yn ôl yr adroddiad diweddaraf ar Adar o Bryder Cadwraethol yng Nghymru mae’r drudwennod yn parhau i fod ar y Rhestr Goch, ac wedi diflannu fel aderyn sy’n bridio mewn rhannau helaeth o Gymru.
Coedwigoedd gwyrdd
Peth arall a welsom yn ystod y bennod hon oedd cyn lleied o goedwigoedd sydd ar Ynysoedd Prydain erbyn hyn. Mae ein coed brodorol yn hanfodol: maent yn puro ein aer, yn dal carbon ac yn darparu bwyd a lloches i filoedd o rywogaethau. Ond ar ôl canrifoedd o reolaeth wael a datblygiadau dinistriol, dim ond 13% o’r Deyrnas Unedig sydd wedi’i gorchuddio gan goed, a dim ond hanner hyn sy’n goetiroedd brodorol. Mae coetiroedd yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o ddiogelu, bwydo a darparu cartref i amrywiaeth eang o rywogaethau.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bu ymdrech i blannu coed newydd. Ond, er gwaethaf yr holl ymdrechion, mae bywyd gwyllt ein coetiroedd yn dal i ddirywio. Mae rhywogaethau fel y Gnocell Fraith Leiaf, Titw’r Helyg, y Pathew y Cyll, a’r gloÿnnod byw sy’n byw yn y coetiroedd i gyd mewn trafferth – ac nid yw plannu coed yn ddigon i’w hachub. Mae angen inni ofalu am y coetiroedd brodorol sydd gennym ar ôl, a phan fyddwn yn plannu coed, mae angen plannu’r coed iawn, yn y mannau iawn.
Yma yng Nghymru, mae’r prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru yn gweithio i ddiogelu ardaloedd o goetiroedd hynafol yng ngogledd a chanolbarth Cymru. Bydd y prosiect, sydd ar waith tan 2025, yn ceisio cael gwared â rhywogaethau goresgynnol o’r Coedwigoedd Glaw Celtaidd a chanfod ffyrdd o reoli’r coedwigoedd hynny’n well – drwy newid sut mae’r coed yn cael eu pori, er enghraifft. Mae RSPB Cymru yn un o’r partneriaid (ynghyd â Pharc Cenedlaethol Eryri).
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymweld â choetiroedd hynafol, beth am fynd ar daith i un o’n gwarchodfeydd natur? Rydym yn ffodus bod gennym nifer o goetiroedd hynafol ar ein gwarchodfeydd yn Ynys-hir, Coed Garth Gell, Gwenffrwd-Dinas a Dyffryn Mawddach.
O wiwer fach goch, i ble wyt ti’n mynd?
A lwyddoch chi i wylio’r olygfa o’r Wiwer Goch yn gwneud campau acrobatig fel James Bond? I’r rhan fwyaf o bobl sy’n byw yng Nghymru, y lle gorau i weld y creadur bach blewog hwn yw ar y teledu. Y rheswm am hyn yw mai Ynys Môn yw’r unig le yng Nghymru y gallwch weld unig rywogaeth y wiwer frodorol yn y DU. Er nad oes neb wedi gweld wiwer goch yn unrhyw un o’n gwarchodfeydd, pe bai chi ar grwydr yn ardal Pentraeth, yng Nghoedwig Niwbwrch, neu’n y coetiroedd sy’n ffinio ag Afon Menai, mae’n bosib y byddwch yn ddigon ffodus o weld cynffon fach goch flewog yn sgrialu drwy’r coed.
Mae hanes y Wiwerod Coch yma yng Nghymru yn un o obaith. Ar ôl bron â chael eu dileu'n llwyr lai na 30 mlynedd yn ôl, gyda'r niferoedd yn gostwng i gyn lleied â 40, mae'r sefyllfa bellach yn un llawer iawn gwell diolch i’r gwaith a wnaed i’w hailgyflwyno. Mae’r niferoedd bellach wedi cynyddu i tua 700.
Mae Wild Isles yn gyfres ddogfen arloesol gan y BBC a gynhyrchwyd gan Silverback Films, a’i chyd-gynhyrchu gan yr RSPB, WWF a’r Brifysgol Agored. Gallwch wylio’r holl benodau ar BBC iPlayer.