BBC Wild Isles - Pennod 1 - Our Precious Isles

English version available here

RHYBYDD! Peidiwch darllen yr isod os nad ydych eisioes wedi gwylio Wild Isles - Our Precious Isles

Mae Wild Isles, sef y gyfres y bu pawb yn disgwyl amdani, wedi ymddangos ar ein sgriniau ni heno. Mae blynyddoedd o gyffro wedi arwain at hyn, ac mae wedi rhagori ar ein disgwyliadau a oedd eisoes yn enfawr. Roedd mawredd y rhywogaethau hyn - a gafodd eu dangos mor fanwl a phrydferth - ar gael i bawb eu gweld, a gobeithio bod y penodau sydd i ddod yn parhau i gadw’r un safonau â’r bennod gyntaf.

Rydyn ni eisoes yn ymwybodol o’r pŵer sydd gan y teledu i adrodd straeon byd natur ein planed. Roedd Blue Planet a Frozen Planet, er enghraifft, yn allweddol i godi ymwybyddiaeth o’r heriau sy’n wynebu ein planed, ac i ysbrydoli miloedd os nad miliynau o bobl ledled y byd i ddysgu mwy am y creaduriaid godidog yma.

Yn y Wild Isles, bydd llawer o’r adar, yr anifeiliaid a’r cynefinoedd hyn yn gyfarwydd i ni, gan fod y gyfres yn canolbwyntio ar y bywyd gwyllt sydd gan Ynysoedd Prydain i’w gynnig. Wedi’r cwbl, rydyn ni’n fwy tebygol o weld Pâl na Morgi Mawr Gwyn! Gobeithio y bydd y rhaglen wedi rhoi gwybodaeth i wylwyr amdanynt ac wedi meithrin dealltwriaeth a’r awydd i helpu’r bywyd gwyllt gwych sy’n byw ar ein rhan fach ni o’r Byd.

Neges gyntaf y rhaglen hon yw bod yr ynysoedd hyn yn gallu bod yn ddiddorol tu hwnt o ran byd natur - “os ydych chi’n gwybod ble i edrych.” Er ei bod hi’n ymddangos ar y dechrau bod llawer o’r creaduriaid hyn yn byw mewn rhannau o’r ynysoedd sydd y tu hwnt i’n cyrhaeddiad neu’n golwg ni – y gwir yw nad ydyn nhw mor bell i ffwrdd ag y byddech chi’n ei feddwl.

Felly, gadewch i ni eich arwain chi at ychydig o lefydd yng Nghymru lle bydd modd gweld rhai o sêr y bennod gyntaf - Our Precious Isles.


Morloi yng Nghymru

Morloi Llwyd gafodd sylw’r olygfa gyntaf, a oedd yn dangos sut maen nhw’n defnyddio llwybrau i symud yn ddiogel drwy ddŵr bas. Er nad oes modd gweld morfilod oddi ar arfordiroedd Cymru, dylech chi fod yn gallu gweld y morloi rhyfeddol o bell ar hyn o bryd ar draws arfordir gorllewinol Cymru, ynghyd ag yn RSPB Ynys Dewi.

Gwelsom y pathew yn defnyddio coed derw hynafol, a daethom i wybod bod eu niferoedd wedi gostwng yn sylweddol oherwydd colli cynefinoedd. Rydyn ni’n ffodus iawn yma yng Nghymru bod gennym ni lawer o goetiroedd hynafol, ac mae un o’r rheini ar gael yn ein gwarchodfa yn RSPB Ynys-hir. Cerddwch drwy’r coed derw, gan edrych a gwrando ar y creaduriaid sydd wedi gwneud cymaint o ddefnydd o’r coed hyn sy’n ganrifoedd oed. Gwelsom hefyd garpedi lliwgar o glychau’r gog yng ngwaelodion cysgodol y coedwigoedd hyn – gallwch chi weld y baradwys borffor yma â’ch llygaid eich hunain draw yn RSPB Llyn Efyrnwy.

Wrth iddynt ddangos y prosesau rhyfeddol sy’n cael eu dilyn gan flodau a phryfed peillio, roeddynt hefyd yn dangos y buddion sylfaenol a ddaw drwy Ffermio sy’n Ystyriol o Natur; mae torri dolydd sy’n llawn blodau gwyllt yn nes at ddiwedd yr haf yn rhoi’r cyfle gorau i bryfed peillio fanteisio i’r eithaf arnynt. Rydyn ni wedi colli cymaint o ddolydd dros y degawdau diwethaf. Mae dros 80% o dir Cymru yn dir fferm, ac rydyn ni’n wir yn gobeithio bod y rhaglen hon yn dangos mai gweithredoedd sylfaenol ffermio fel hyn ym myd natur yw’r ffordd ymlaen os ydyn ni eisiau adfer a chynyddu bioamrywiaeth cyn y bydd hi’n rhy hwyr.

Roedd glas y dorlan yn serennu yn y bennod hon. Nid oes modd methu ei blu glas ac oren yn disgleirio. Mae angen i’r glas y dorlan godidog gasglu hanner ei bwysau mewn pysgod bob dydd er mwyn goroesi – ac mae angen iddo gasglu mwy os yw’n bwydo cyw – mae hynny’n dipyn o dasg. Os ydych chi’n mentro i RSPB Gwlyptiroedd Casnewydd y gwanwyn yma, gallwch chi eistedd yn y caffi a gwylio’r glas y dorlan wrth ei waith ar y llyn, yn canolbwyntio ar ysglyfaethu mewn ffordd robotig, cyn plymio gyda chywirdeb manwl. Pa ffordd well o dreulio eich diwrnod na chael paned a chacen, a gwylio glas y dorlan?  


Adar môr yng Nghymru

Fel y gwelsom ni yn y bennod heno, mae Prydain ac Iwerddon yn amhrisiadwy o ran nythfeydd adar môr, gydag arfordir sy’n rhedeg am 22,000 milltir a mwy, yn ogystal â rhai o foroedd cyfoethocaf y byd. Gwelsom ni nythfa huganod - Bass Rock - ar arfordir Yr Alban. Honnir mai dyma’r nythfa huganod fwyaf yn y byd. Mae ynysoedd arfordirol Cymru hefyd yn bwysig iawn i Huganod; Ynys Gwales sydd â’r nifer trydydd mwyaf o Huganod y gogledd yn y byd - dros 36,000 o barau bridio. Dim ond y Bass Rock a’r St Kilda sydd o’i blaen o ran niferoedd.

O un aderyn môr i’r llall – mae’n deg dweud mai’r Pâl yw un o adar gorau Cymru, gyda’i big lliwgar a’i garisma annwyl a rhyfeddol. Ond does dim llawer yn gwybod bod Cymru'n chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gadw Palod - ac adar eraill y môr - dros fisoedd yr haf. Ynghyd ag Ynys Sgomer, buasem ni’n argymell RSPB Ynys Lawd i unrhyw un fel rhywle i fynd gyda’ch ysbienddrych i fwynhau gwylio palod yn sboncian o gwmpas ac yn hedfan yn ôl ac ymlaen o’r dŵr, gan gario llymrïaid yn ôl i’w tyllau. 

Rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw at wylio’r ail bennod o Wild Isles, a fydd yn canolbwyntio ar y rhyfeddodau yn ein coetiroedd - ac rydyn ni’n edrych ymlaen hefyd at eich helpu chi i grwydro’r rhannau o Gymru lle bydd modd i chi weld rhai ohonyn nhw â’ch llygaid eich hun!