Atebion ar Sail Byd Natur – beth ydyw a sut mae o fudd i ni?

English version available here.

Mae cymdeithas yn wynebu sialensiau enfawr sydd yn rhaid ymdrin â nhw os yw cenedlaethau’r dyfodol am fwynhau'r un amodau amgylcheddol a welodd eu rhieni a'u neiniau a theidiau.

Mae’r argyfyngau hinsawdd a byd natur wedi cael eu cydnabod fel dau argyfwng difrifol ac os nad ydym yn mynd i'r afael â nhw'n effeithiol gall yr oblygiadau fod yn ddinistriol tu hwnt. Yn ffodus ddigon, rydym yn deall mwy a mwy am y materion hyn a'r dulliau i'w datrys, llawer ohonynt o fudd i ni a byd natur yn ogystal â'n helpu i wynebu sialensiau eraill sydd o'n blaenau.

Un o'r pethau mwyaf effeithiol y gallwn ei wneud rŵan hyn yw buddsoddi mewn Atebion ar Sail Byd Natur.  Caiff y rhain eu diffinio gan Undeb Rhyngwladol Gwarchod Byd Natur (IUCN) fel gweithredu sy'n gwarchod, rheoli'n hyfyw, ac adfer ecosystemau naturiol ac wedi'u haddasu, ac ar yr un pryd yn mynd i'r afael yn effeithiol ac addasol â newidiadau cymdeithasol, gan hefyd ddarparu gwelliant i ddynolryw a budd i fio-amrywiaeth. Mewn geiriau eraill, bydd adfer a rheoli byd natur o fudd i ni hefyd.

Felly, beth yw Atebion ar Sail Natur a sut maen nhw'n edrych? Wel, maen nhw'n cynnwys amrywiaeth o gynefinoedd ar dir ac yn y môr.

 Adfer tir mawnog

Gall adfer tir mawnog drwy gau draeniau, clirio unrhyw goed sydd yn y lleoedd anghywir, ac adfer yr hydroleg naturiol gyfrannu at atal allyriadau nwyon tŷ-gwydr, gwella'r gallu i storio dŵr a chynnig cynefinoedd i amrywiaeth o fywyd gwyllt. Gall tir mawnog wedi ei adfer ddal a chadw carbon atmosfferig a pharhau i wneud hynny o flwyddyn i flwyddyn. Gall y gwelliannau hyn helpu i ymdrin ag argyfyngau byd natur yn ogystal â dŵr yfed a lleihau'r risg o lifogydd.

Ehangu coedwigoedd

Mae cynnydd mewn ardaloedd coediog drwy blannu coed cynhenid ac adfer naturiol yn helpu i storio carbon atmosfferig ac o gymorth wrth leihau llifogydd drwy arafu a storio dŵr. Mae coedwigoedd yn cynnig cynefin i'n bywyd gwyllt, yn ffynonellau da o bren ac yn creu cyfleoedd hamdden a thwristiaeth. Er mwyn cyrraedd targedau newid hinsawdd, mae Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU wedi awgrymu cynnydd o 4% mewn coedwigoedd yng Nghymru.  Mae treulio amser mewn coedwigoedd cynhenid, yn ogystal â chynefinoedd naturiol eraill o fudd i'n hiechyd a'n lles.

Carbon Glas

Carbon Glas yw amrywiaeth o atebion ar y môr a'r arfordir sy'n cynnwys adfer a chreu gwlâu gweiriau môr a chynefinoedd o fewn ffiniau'r llanw, fel morfeydd heli a gwlypdiroedd arfordirol. Mae'r cynefinoedd hyn i gyd yn dal a chadw carbon yn y llystyfiant a'r pridd a'r llaid y maent yn tyfu ynddo ac yn cynnig cynefinoedd pwysig iawn i fywyd gwyllt arall. Maent hefyd yn gwarchod pobl ac eiddo rhag llifogydd yn sgil stormydd a llanw uchel. Dyma wasanaeth a ddaw yn gynyddol bwysig a gwerthfawr wrth i ni wynebu lefelau'r môr yn codi a thywydd mwy eithafol.

Glaswelltiroedd

Mae glaswelltiroedd, gorlifdiroedd, rhostiroedd a gwlypdiroedd yn storio swm sylweddol o garbon yn y llystyfiant yn ogystal â'r pridd. Maent hefyd yn cynnal amrywiaeth o blanhigion a bywyd gwyllt, gan gynnwys peillwyr hanfodol. Mae rhai o'r cynefinoedd hyn yn fregus iawn; rydym eisoes wedi colli dros 97% o ddolydd a thiroedd caeëdig traddodiadol. Mae glaswelltiroedd lled-naturiol yn storio mwy o garbon na rhai sydd wedi eu gwella'n amaethyddol. Felly, bydd gwarchod ac adfer ein glaswelltiroedd lled-naturiol nid yn unig yn gwella eu gallu i storio carbon ond o fudd i amrywiaeth o fywyd gwyllt ac yn cadw elfen ddiwylliannol bwysig o'n tirlun.

Er mwyn gweld sut y gallwn wneud y gorau o atebion ar sail byd natur, mae'r RSPB wedi adnabod ardaloedd allweddol yn y DU sydd eisoes yn bwysig o safbwynt carbon a byd natur ac y dylid eu gwarchod a'u rheoli'n briodol. Gallwch ddarllen mwy am y gwaith hwn fan hyn a fan hyn. Rydym wrthi'n gwella ein dealltwriaeth o ba lefydd yn y DU a fyddai'n addas i greu atebion ar sail byd natur a'r gobaith yw cyhoeddi’r gwaith hwn yn fuan.